|
Caerdroia Bywyd yn y coed
Gorffennaf 2005 Adolygiad Glyn Evans o Caerdroia gan Llwyfan Gogledd Cymru
Ac mi gefais i olchi nhraed.
Mae'n un o wirioneddau'r oesoedd y gall artistiaid perfformio ac adlonwyr 'orfodi' pobl i wneud pethau sy'n gwbl groes i'w graen er eu hadloniant eu hunain ac er adloniant pobl eraill - ac nid sôn am olchi nhraed ydw i nawr.
Dyna graidd sioeau fel Big Brother a'i epil niferus.
Hynny oedd i gyfrif sut y cefais i fy hun ar nos Lun, wedi diwrnod o waith, yn cael fy arwain gan ddwy ferch ifanc trwy goedwig a mwgwd du am fy llygaid.
Yr oedd mwy o dywyllwch i ddod - a rhagor o ddwylo cynhaliol hefyd. A sawl profiad.
Diolch am ddod Yr oeddwn yng nghanol cynhyrchiad diweddaraf cwmni theatr Llwyfan Gogledd Cymru, Caerdroia, yn uchel i fyny'r mynydd yn nhawelwch a thangnefedd bendigedig Coedwig Gwydyr - neu Gwedir a defnyddio hen enw nas arferir bellach - ger Llanrwst.
"Diolch ichi am ddod," meddai un o'r cwmni; ond mewn gwirionedd fe fyddai angen bod yn greadur rhyfedd iawn i beidio â chael ei demtio i berfformiad gyda chymaint o ddirgelwch ynglŷn ag ef.
Mewn coedwig. Ar ben mynydd. Yn ymuno â labyrinth fesul un - yn hytrach nag yn gynulleidfa. Dim rhyfedd i rai deithio yno yr holl ffordd o Sir Fôn ac eraill o Wrecsam, bellach fyth.
A beth pe byddai hi'n glawio? "Mi fyddwn ni'n para 'mlaen beth bynnag."
Yn ffodus roedd hi'n noson resymol o haf a choedwig yn lle dymunol i fod ynddo - ond mae rhywun yn cael ei demtio i ddychwelyd pan fydd hi'n glawio i weld pa wahaniaeth fyddai hynny'n ei wneud.
Siapiau tylwyth teg Mae'r 'perfformiad' yn dechrau mewn gwirionedd pan ydych yn cael ei cario o faes parcio'r goedwig mewn 'Tacsi Llundain' gryn dipyn yn uwch i fyny'r mynydd.
Yno, yr ydych yn disgwyl eich tro mewn stafell dawel wedi ei lled oleuo gan lanteri pwl a siapiau tylwyth teg ehedog oddi mewn iddyn nhw - cyn cael eich gwahodd ar ganiad cloch i ystafell arall lawn siapiau glonnod byw goleulas yn hongian oddi wrth linynnau.
Dyma gychwyn taith Caerdroia - taith drwy'r labyrinth.
A dyma, hefyd, gychwyn trafferthion adolygydd - gan y byddai ymhelaethu yn amharu ar y profiad i eraill. Ac y mae o yn brofiad; does dim dwywaith am hynny.
Cynnig dehongliadau Mesur o'i lwyddiant oedd i bobl nad oeddynt wedi cyfarfod o'r blaen fod yn trafod yn frwd wedyn beth oeddan nhw yn ei feddwl ohono - a chynnig dehongliadau o'r hyn oedden nhw wedi'i brofi.
I mi alegori ydoedd o hedyn yn cael ei anfon i'r groth a'i fwrw allan yn blentyn i ddilyn llwybr bywyd.
Mewn un ystafell yr oedd synau'r groth yn gefndir i ferch yn canu'n ysgafn - ond fymryn allan o diwn yn ôl un a wyddai'n well na mi! - Fy maban tlws.
Drwy'r byd Mae'r daith drwy'r byd yn un llai trawmatig na'r un sy'n arwain ato ond y mae honno hefyd yn brofiad gyda'i delweddau amrywiol, ei phenillion cryptig a chyfarfyddiadau ag amryfal greaduriaid dynol y goedwig yn eu gwahanol ffurfiau yn amrywio o blentyn ofnus i storiwraig a all eich diddanu gyda chwedlau'r fro os dyna eich dymuniad. Estynnir gwahoddiad i chwithau ddweud stori hefyd.
Erbyn hyn mae'r unigolion gafodd fynediad fesul un, bob saith munud, i'r labyrinth yn dechrau hel at ei gilydd neu oddiweddyd ei gilydd wrth i un oedi'n hirachna'r llall yn ambell i le.
Weithiau mae'n bosib cymryd llwybr sydyn i ran arall o'r prif lwybr ond o wneud hynny collir pethau a'r profuad o'r herwydd yn dlotach.
Yn ôl llefarydd Llwyfan Gogledd Cymru gallai'r holl 'brofiad' fod drosodd mewn rhyw ugain munud i hanner awr - ond gall gymryd dwywaith, teirgwaith, gymaint a hynny amser, pe dymunid.
Yr oedd y cylch stori yn lle da i oedi ac fe hoffwn i fod wedi cael mwy o amser gyda'r forwyn ifanc ddewisodd olchi fy nhraed - ond yr oedd rhywun arall wedi dal i fyny â mi erbyn hynny.
Ond dyna fo, peth fel'na ydi bywyd ynte.
Gellid hefyd wrth hamdden i fwynhau golygfeydd rhyfeddol a synau natur.
Baneri gweddi Ar ran o'r llwybr mae rhodfa o faneri y gallwch, yn unol a thraddodiad Tibetaidd, sgrifennu neges neu ddymuniad neu weddi arnyn nhw - a darllen negeseuon, dymuniadau neu weddïau pobl eraill wrth gwrs.
Ar lwybr bywyd mae'n bosib cyfarfod beirdd hefyd. Iwan Llwyd yn yr achos hwn; sy'n rhwygo o lyfr, gerddi yn ei lawysgrifen ei hun y mae'n eu cyfansoddi - i chi fynd â nhw adref i'w darllen a'u trysori.
Cerdd wahanol i bawb - wel tra bo'r awen yn llifo ta beth! Peth felly ydi bywyd hefyd.
Ymestyn ffiniau Beth mae rhywun i'w wneud o hyn oll? Wrth gwrs, mae beth mae rhywun yn ei wneud â hyn oll yn dibynnu ar eich syniadau ynglŷn â chelfyddyd, ynglŷn â theatr ac ynglŷn â phwrpas celfyddyd a theatr.
Soniodd Ian Rowlands, cyfarwyddwr artistig Llwyfan Gogledd Cymru, am awydd y cwmni - a gododd yn Ffenics o ludw yr hen Gwmni Theatr Gwynedd - i eangu gorwelion ac ymestyn ffiniau profiad theatraidd.
Ac nid oes amheuaeth i'r cwmni hwn - gyda chynyrchiadau fel Deinameit am anghydfod Friction Dynamics yng Nghaernarfon a Frongoch, am y gwersyll i garcharu Gwyddelod ger Y Bala, wneud hynny yn dra llwyddiannus.
Yr oedd y ffaith i Gaerdroia esgor ar drafodaeth ac ar ddehongli alegorïaidd yn arwydd y bydd y cynhyrchiad hwn yn destun trafod hefyd. A go brin y bydd yn ganmoliaeth i gyd - mae'n 'berfformiad' sy'n gwahodd cael ei gwestiynu.
Ond ni all hynny ond bod o les ar ddyfroedd digon difwstwr y theatr Gymraeg y dyddiau hyn.
Anghysurus Ar nodyn ymarferol, efallai y dylai'r cwmni ystyried rhoi mymryn mwy o amcan i bobl beth i'w ddisgwyl cyn eu hudo i'r labyrinth rhyfeddol yna gan y gall pethau fod braidd yng anghysurus ar adegau - fel bywyd ei hun.
Bid a bo hynny; yn ogystal a rhywbeth i feddwl amdano mi gefais i olchi fy nhraed gan ferch ifanc ddeniadol, mi gefais i gerdd gan brifardd.
Heb sôn am afal gan wrach yn y coed. Ddim yn ddrwg am nos Lun.
Na, wyddoch chi ddim beth sy'n mynd i ddigwydd nesaf. Peth felna ydi bywyd.
- Gellir archebu tocynnau ar 01286 685226 ac mae gwybodaeth ar wefan y cwmni. Bydd perfformiadau tan ddiwedd Gorffennaf 2005 ac yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.
- Ar un adeg yr oedd y rhan hon o Goedwig Gwydyr yn dir agored a dafliad carreg o'r labyrinth, yng nghanol dalien poethion a thyfiant anghroesawus tebyg, mae olion hen gartref Thomas a Margaret Morris - Pen y Parc, lle magodd y ddau 14 o blant. Cliciwch i ddarllen am Deulu Pen y Parc.
Cysylltiadau Perthnasol
Manylion am y perfformiad
Ymweliad teulu
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|