Nid mod i wedi bod ar bob un o'r teithiau - daeth tywydd stormus mis Ionawr ac eira Chwefror i amharu ar dwy ohonynt. Beth bynnag, mae sawl un ohonynt wedi bod o fewn cyrraedd rhwydd hefyd, yng Ngheredigion ac yn Sir Gaerfyrddin.
Taith y Garn Goch
Gyrru trwy Llangadog heddiw tuag at ein man cyfarfod ym mhentref Bethlehem. Roeddwn heb fod yn Llangadog ers blynyddoedd, a sylwais o'r newydd arni fel tref fach hynod gyda llawer o dai sylweddol o'r 18 Ganrif a'r 19 Ganrif. Addawai hon fod yn daith ddiddorol trwy ddyffryn Ceidrych i'r Garn Goch ac ymlaen i odre Drichrug, ond gyda'r tywydd yn anffafriol, ar ôl rhyw awr neu ddwy o gerdded, penderfynwyd gwtogi'r daith. Eto'i gyd, cafwyd cyfle i fwynhau golygfeydd gwych wrth ddringo i fyny, gyda Nant Ceidrych oddi tanom, ac ehangder o gochni'r rhedyn ar y Garn o'n Blaenau.
Ar ôl tipyn o ddringo'n raddol, penderfynwyd ar ginio cynnar, ac ymweld â'r Garn Goch yn unig, gan anghofio Trichrug am y dydd. Roedd ymweld â'r Garn yn gofiadwy. Mae yno dwy gaer o Oes yr Haearn, un bob ochr i bant bach ar ben esgair hir sydd tua 236m o uchder.
Beth bynnag, ar ein ffordd i fyny'r Garn cafwyd cyfle i sefyll ac edmygu'r olygfa, ond yn fwy na hynny, i weld y gofeb i Gwynfor Evans - carreg fawr, naturiol, wedi ei cherfio'n syml - Gwynfor 1912 - 2004. Y Garn Goch oedd un o'i hoff lefydd, a'i ysbrydoliaeth yn aml. I fyny yr aethom wedyn at y Gaer Fach, cylch trawiadol o gerrig gyda gwrth glawdd yn ymestyn allan. Ychydig yn bellach ymlaen wedyn mae'r Gaer Fawr, un o'r caerau mwyaf yng Nghymru (tua 27 erw i gyd), siâp hirgrwn, y pen gorllewinol wedi bod yn arbennig o drwchus a chadarn, ac wyth porth yn rhoi mynediad iddi, o bosib, yn ôl y cerrig sydd i'w gweld o hyd.
Dyma oedd uchafbwynt y daith yn sicr. Er mor hyfryd y golygfeydd o'n cwmpas, gyda'r afon Tywi yn dolenni draw oddi tanom, a'r Mynyddoedd Du a'r Bannau yn y pellter yr ochor draw, 'roedd yr ymdeimlad o gadernid ac o hanes yr oesoedd gynt yn mynd trwy feddyliau pawb 'rwy'n credu.
Daeth yn amser disgyn a troi nôl am Fethlehem a chael paned yn festri'r capel oedd wedi ei baratoi yn arbennig i ni. Erbyn hyn 'roedd y glaw wedi peidio a'r haul yn dechrau ymddangos - yn rhy hwyr! - ond 'roeddem yn fodlon ar yr hyn a gafwyd.
Taith Llangain
Lawr i Sir Gaerfyrddin heddiw, i ardal Llangain, pentref bach diweddar rhwng Caerfyrddin a Llansteffan. Daeth dros deugain ynghyd i'r maes parcio yn y coed ger Castell Moel.
Dechreuodd y daith yn cerdded i fyny trwy'r coed a'r caeau, yn edrych lawr ar yr afon Tywi. Arferai'r darn hwn o'r afon fod yn le dadlwytho nwyddau -'roedd y llongau mawr yn medru dod mor bell â hyn, a throsglwyddo'r llwythau i longau llai i fynd ymlaen i Gaerfyrddin. Diddorol oedd cael peth o'r hanes hyn.
Ymlaen wedyn tan cyrraedd eglwys Llangain, eglwys fach o garreg lwyd frai yr ardal a godwyd rhwng 1869 a 1871. Yn anffodus methwyd a chael mynediad, ond mae'n debyg fod ynddi fedyddfaen wyth-ochrog a achubwyd o'r fynwent yn 1979, wedi erydu'n ddrwg, ond yn dal i ddangos cerfluniau o'r enwaediad. Honnir ei bod yn dyddio o'r 13 Ganrif. Nid hon oedd yr eglwys wreiddiol.
Cerdded dros y caeau ac ambell lôn ffarm wedyn. Gweld y biben nwy anferth sy'n mynd trwy Dde Cymru ar hyn o bryd, neu o leiaf gweld ei holion ar leiniau llydan o dir wedi ei ffensio ac wedi ei ail-hadu. 'Roedd i'w gweld - llinyn llydan brown - am filltiroedd.
Maes o law aethom heibio i Fern Hill, y tÅ· ffarm lle'r oedd Dylan Thomas yn sefyll yn ystod ei blentyndod gyda'i ewythr a'i fodryb, ac a anfarwolwyd ganddo. Mae'n dÅ· gwell na'r cyffredin o dai ffarm, yn wir edrychai yn dÅ· bonedd, er nad yn fawr iawn. Mae'n dyddio o ddechrau'r 19 Ganrif, ond wedi ei newid yn fawr erbyn hyn.
Mae hon yn ardal o nifer o feini hir. Aethom heibio Myrddin's Quoits, sef dwy neu dair carreg sy'n dal i sefyll fel rhan o hen gromlech. Mae chwedl wedi tyfu o'u hamgylch, taw coetennau y dewin Myrddin oeddynt, a'i fod yntau wedi eu hyrddio yno o ben Bryn Myrddin!
Nôl ar hyd ymyl Allt y Ci wedyn, a 'nawr 'roeddem yn edrych lawr tuag at adfeilion Castell Moch, sef hen dŷ o'r 15 Ganrif neu'r 16 Ganrif sy'n edrych dros y Tywi. Mae'n debyg iddo fod o arddull tai Tuduraidd Sir Forgannwg, er yn llai o faint. Yr hyn sydd ar ôl heddiw yw peth o'r tŵr sgwâr, yr adain ac ochr chwith y wal flaen. Yn ôl Thomas Lloyd, yn ei lyfr ar adeiladau Caerfyrddin a Cheredigion, 'roedd y tŷ yn wag ganrifoedd 'nol. Mae tŷ fferm gerllaw iddo, hwn eto yn hen yn Thomas Lloyd, oherwydd ei ffenestri afreolaidd. Byddai wedi bod yn braf crwydro yn agosach.
Erbyn hyn 'roeddem bron ar derfyn ein taith ac ond disgyn lawr yr allt i gyrraedd y maes parcio oedd ei angen i gwblhau cylch o rhyw chwe milltir ar ddiwrnod mwyn a dymunol.
Gan: Ann Gwynne