91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Barcud
Llun o swyddfa bost - cyffredinol Diwedd Cyfnod
Hydref 2008
Hanes Swyddfa Bost Llangeitho a agorwyd yn 1853 ond sy'n cau yn ystod hydref 2008.

Mae cyfnod arall yn dod i ben ym mhentref ac ardal Llangeitho gyda chau y Post ar 6 Hydref ac os na fydd tro ar fyd bydd y Siop yn cau ddiwedd mis Hydref. Mae'n siwr nad oes unrhyw ddarllenwr yn cofio agor y Swyddfa Bost ym 1853 gan David Morgan, tadcu i Mrs. Ceinor Thomas, Glynderwen a Dr. Hugh Herberts, Aberaeron.

Parhaodd y Swyddfa Bost, a ddechreuodd yn y Noddfa ond a symudodd nes ymlaen i'r adeilad presennol, o dan ofal yr un teulu hyd 1946. Wedi dyddiau David Morgan, ei ferch sef Miss J. Morgan fu'n Bostfeistres hyd nes i Marie a Dai James symud i'r Swyddfa Bost ar ôl y rhyfel a chyd-fyw am gyfnod gyda Miss Morgan. Bu Mrs. Marie James yn Bostfeistres, ac fe ymunodd Mrs. Anne Griffiths, Maesgwyndir i'w chynorthwyo o 1951 ymlaen, hyd nes blwyddyn ei hymddeoliad hi ym 1981. O hynny ymlaen, cafodd y cyfrifoldeb ei drosglwyddo o un i'r llall yn amlach gyda Mr. a Mrs. Beaney (o'r Alban) i ddechrau, yna Peter Bailey a gyflwynodd y Siop hefyd ac yna Mr. Warner gyda nifer o gynorthwywyr gwahanol. Diolchwn o waelod calon, fel ardal, i Jane ac Ian am gyfnod o sefydlogrwydd, sobor o gyfeillgar, gyda chymorth Mrs. Margaret Hunt, dros y blynyddoedd rhy brin olaf.

Er gwaethaf eu gofid am y dyfol bu iddynt barhau i gynnal y gwasanaeth gyda gwen a hiwmor hyd y diwrnod olaf.

Os nag oes unrhyw ddarllenydd yn cofio agor y Swyddfa Bost cyntaf dros 150 o flynyddoedd yn ôl, mae llawer yn cofio pedair Siop arall o leiaf yn y pentref, - Siop Jenkins, Jubilee, Plas a Siop Rees heb sôn am Weithdy'r Crydd yn y pentref. Roedd Mr. David Morgan yn lenor cydnabyddedig a bydd traethawd o'i eiddo am Langeitho'n cael ei arddangos pan ddechreuir yr Amgueddfa Daniel Rowland yn y pentref.

Yn ei draethawd sonia'r awdur fod y Swyddfa Bost a agorwyd ym mis Gorffennaf o'r flwyddyn "yn cynnig llawer o gyfleustra i'r pentrefwyr a'r wlad" Wel, gofynnir, beth yw'r ymateb yn mynd i fod ar gyfer y "cyfnod nesaf"?


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý