Gyda chymaint o siopau bach yn cau y dyddiau yma, 'roedd yn hyfryd gweld adeilad newydd Siop y Bont yn agor yn swyddogol ym Mhontrhydfendigaid ar fore dydd Sadwrn 7fed o Orffennaf.
Gwnaed yr agoriad gan Y Cynghorydd Fred Williams, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, a chafwyd gair ganddo ef a chan berchennog y siop, Dilwyn Williams.
Roedd tyrfa luosog wedi troi allan ar gyfer yr achlysur i ddymuno'n dda i Dilwyn a'i staff yn y fenter gyffrous yma, ac yn gwerthfawrogi'n fawr iawn y croeso a'r lluniaeth a oedd wedi ei baratoi ar gyfer pawb ar fore'r agoriad.
Mwy o Bontrhydfendigaid
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |