Bu iddo fynegi "Byddai f'ewyrth Jack yn dathlu canmlwyddiant ei eni fis Rhagfyr eleni, ac fel un a fagwyd ym mro y Barcud, yn sicr byddai yn drawiadol i sôn amdano ynddo. Tybed a fyddai i ti fod cystal a gwneud hynny?" Anodd oedd gwrthod y gofyniad, ac ufuddhau. Ganwyd 'Jac y Barbwr' fel yr adwaenid ef yn gyffredin yn 1904 yn nhyddyn Blaenpentre, ar gwr Ffair Rhos, yn un o chwech o blant, tair chwaer hŷn nag ef, ac yntau yr hynaf o dri brawd. Dyddiau o brinder a chaledi oedd y blynyddoedd hynny, fel y disgrifiwyd hwynt gan y Prifardd W J Gruffydd yn ei gerdd iddo 'Wyt ti'n cofio?'
Wyt tin cofio dringo'r mynydd
Gynt yn swn y certi mawn
Pan oedd tlodi'n ganiataol
A phob tÅ· ac aelwyd lawn.
Wyt ti'n cofio'r mamau tirion
Wrth eu gorchwyl gyda'r wawr
Ac yn dod o siop y pentre'
Adre'n llwythog dros Gwm Mawr.
Bu yn ddisgybl yn ysgol Pontrhydfendigaid nes ei fod yn 14 oed, ac wedi ymadael bu'n was ar ffermydd y fro. Ymadawodd yn ddiweddarach i ardal lofaol Gwaun-Cae-Gurwen, gan aros yng nghartref barbwr, a dyna'r amser y dechreuodd ymhel â'r gwaith crefftus. Bu am gyfnod yn nyfnder y ddaear yn cyflawni y gwaith hwnnw am y pris o dair ceiniog y pen. Dychwelodd drachefn i Aberystwyth at Ashley Jones i berffeithio ei grefft, ac yn 1932 agorodd fusnes ei hun yn Llanbedr a'r slogan uwchben y drws 'Put your hair in Oliver's care'. Un tro, wedi ymweld â'r siop, canodd y Prifardd T Llew Jones:
Yr eilliwr mawr ei allu - y clipiwr
Clopa gorau yng Nghymru.'
Ers yn ifanc, ymddiddorodd Jack mewn barddoni, a bu yn gystadleuydd peryglus mewn eisteddfodau, a bu iddo ennill 800 o wobrau. Cyhoeddodd dair cyfrol o farddoniaeth, sef 'Cerddi'r barbwr' yn 1943, 1967 a 1978, a bu darllen mawr arnynt ac yn hynod boblogaidd.
Cofiaf fod mewn dosbarth allanol ym Mhontrhydygroes yn y blynyddoedd cyn yr ail ryfel byd, a'r 'Prifardd Mr D Lloyd Jenkins Tregaron yn ddarlithydd. Gofynnodd un tro i'r henwr Mr Daniel Jones Hafodgau "Pwy yn eich barn chwi Mr Daniel Jones yw'r bardd gorau yng Nghymru, ac ateb Daniel yn ddibetrus oedd "Jack Oliver y barbwr", ac meddai D Lloyd Jenkins eto gan wenu "Paham hynny Daniel Jones?" 'Wel", meddai yntau, "Y mae'n canu mor syml a swynol, nid oes angen geiriadur arnaf i wybod ystyr y geiriau".
Gwir a ddywedodd Jack ei hun "Syml yw fy ngherddi, gwerinol ydynt, a phatrwm gwerin sydd arnynt. Mae gennyf gymaint golwg arnynt a thad ar ei blant, ac fe'i cenais am na fedrwn beidio canu".
Gwnaeth Jack waith canmoladwy yn ei 'Golofn y Beirdd' yn ei golofn wythnosol yn y 'Cambrian News.'
Priododd Vera ei briod yn 1952, yr hon a fu yn ymgeledd ac yn gefn ffyddlon iddo. 'Roedd yn ŵr o amryfal ddoniau, a ffurfiodd barti o ddiddanwyr, a bu yn arweinydd dawnus a ffraeth i'w cyngherddau. Bu ei siop yn ganolbwynt bywyd y dref ac roedd muriau'r ystafell yn Drover's Road yn llawn o limrigau a 'rosettes', yr oll yn tystio i'w fynych lwyddiant mewn llu o eisteddfodau.
'Roedd yn gymeriad lliwgar a doniol, cyflym ei wit a'i ddywediadau. Carai anifeiliaid yn fawr, a'i gyfaill mynwesol oedd ei gath ddu a gwyn ei lliw, a alwai yn gariadus fel 'Mici bach'.
Wedi colli ei briod annwyl Vera yn 1976, cyflwynodd ei drydedd gyfrol er cof serchus amdani. Daliodd i frwydro yn ddewr am yr wyth mlynedd wedi'r brofedigaeth, eithr bu'r hiraeth llethol amdani, a'r afiechyd mynych yn ormod. Bu iddo yn fuan wanychu a bu farw yn Ysbyty Bronglais Rhagfyr 1983, ac yna cyduno â'i hoff briod Vera ym mynwent eglwys y plwyf yn Llanbedr Pont Steffan, eithr bytholwyrdd fydd y melys atgofion a erys am y Bardd Farbwr rhadlon a doniol o Ffair Rhos.
Diolch i Wasg Gomer am rai ffeithiau o 'Lloffion' am Jac Oliver.