|
|
|
Y ffordd ymlaen Mai 2004 Daeth oes aur Ysgol Edward Richard a sefydlwyd yn wreiddiol yn yr hen Eglwys yn 1734, i ben fel sefydliad addysgol pan gaewyd Coleg Sant Ioan yn 1972 pan oedd ond tro myfyriwr yn astudio yno. |
|
|
|
(Mae'n ddiddorol nodi bod un o'r tri, sef Tim Pieme o Flaenafon yng Ngwent, wedi dod i ymgartrefu ym Mhengelli Tynygraig dair blynedd yn ôl). Gan fod yna gysylltiad clos rhwng y Coleg a'r Eglwys ar hyd y blynyddoedd (prifathro'r Coleg oedd offeiriad y plwyf), parhaodd yr Eglwys i ddefnyddio'r Coleg fel neuadd hyd at 1994 pryd y daeth yn amlwg bod angen gwneud cryn waith ar yr adeilad os am barhau i'w defnyddio.
Yn anffodus er yr holl ymdrechion dros gyfnod o flynyddoedd methwyd cael cymorth ariannol. Ymhen hir a hwyr sylweddolodd y Cyngor Plwyfol Eglwysig mae'r unig ffordd i ddiogelu'r hen adeilad hanesyddol oedd trwy ei gynnig at wasanaeth y gymuned.
Ffurfiwyd Cymdeithas Gymunedol Ystrad Meurig yn y flwyddyn 2000 i ymgymryd â'r dasg o archwilio i'r ffordd ymlaen i adfer y lle. Ar ôl misoedd lawer o lafur caled a dyfalbarhad, yn enwedig ar ran y Dr Paul Westney yr ysgrifennydd, daeth y newydd hir ddisgwyliedig ar ddechrau Ebrill hod cymorth ariannol o £356,000 Amcan 1 o Ewrop yn dod i ran y Gymdeithas ynghyd ag arian cyfatebol oddi wrth y Gronfa Adfywio Lleol, Cronfa Ardoll Agregau Cynaliadwy Cymru a'r Gymdeithas ei hun.
Gobeithir dechrau ar y gwaith cyn bo hir a'r bwriad yw y bydd yr adeilad gorffenedig yn ganolfan aml bwrpas i'r gymuned gyfan. Eisoes cafwyd dwy eitem gan y cyfryngau i hysbysebu'r fenter; ar Radio Ceredigion ar Ddydd Gwener y 9fed o Ebrill ac ar y rhaglen deledu ddyddiol Wedi 7 ar S4C ar Nos Fawrth y 13eg o Ebrill. Bydd mwy o wybodaeth yn ymddangos yn y wasg yn fuan.
Bydd cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas yn cael ei gynnal yng Nghapel Swyddffynnon ar Nos Fercher y 19eg o Fai am 7.30 o'r gloch.
|
|
|
|
|
|