Treialon arbennig eleni gan mai dyma'r 50fed treial ers iddynt ail gychwyn nôl yn 1947 ar ôl toriad dros gyfnod yr Ail Ryfel Byd.
Yn ogystal roedd yn garreg filltir hynod iawn i un aelod o'r pwyllgor, sef Mr Evan Hopkins, Wernfwyn (Pengwernydd gynt) gan ei fod ef wedi cyflawni 50 mlynedd o wasanaeth fel ysgrifennydd y treialon. Cafwyd diwrnod sych a braf a daeth cystadleuwyr o ymhell ac agos i gefnogi'r treialon. Y beirniad oedd Mr Huw Lewis, Penbanc, Llanfihangel y Creuddyn a bu'n ddiwyd iawn yn barnu dros 90 o rediadau ar gae Pencwmllydan drwy garedigrwydd Mr a Mrs Ivor Hopkins, Pengwernydd.
Roedd y gwobrau yn hael iawn ac yn adlewyrchu'r dathliad gyda'r buddugwyr ymhob dosbarth yn derbyn £50 yr un ynghyd â thlysau hardd. Yn y dosbarth agored Dull Cenedlaethol rhoddwyd tlws Border Fine Arts gan Mr Evan Hopkins er côf am ei annwyl wraig Mrs Margaret Hopkins ynghyd â tharian sialens er côf am Mr R LI Hopkins, Maenarthur. Yn y dosbarth agored Dull De Cymru rhoddwyd tlws Border Fine Arts gan Mrs Nesta Evans. Roedd yn hyfryd gweld y prif wobrau yn mynd i ddau gystadleuwr lleol.
I derfynu'r diwrnod bu aelodau'r pwyllgor yn dathlu gyda'i gilydd drwy fwynhau swper ym Mhengwernydd ar ôl diwrnod prysur iawn ar y cae.
Canlyniadau: Dull Cenedlaethol - 1. E L Morgan, Aberystwyth. 2/3 W G Davies, Llangeitho, ac E Evans, Llamgammarch.4/5/6 Rhys Jones, Llanafan Fawr, M Williams, Trallwng a J Rees, Llandudoch. Dull De Cymru - 1. M Morgan, Tregaron, 2.J Davies, Llambed. 3/4 E Evans a J Davies, Llambed. 5. J Drinkwater, Abermeurig. 6. S Jones, Llangeitho.
Mr E L Morgan, Aberystwyth a enillodd y dosbarth agored Dull Cenedlaethol, ac M Morgan, Tregaron a enillodd y dosbarth agored Dull De Cymru.
|