91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Barcud
Fferm Brynwichell, Blaenpennal, llun gan Tim Jones Os Hoffech Wybod (Holi Hwn a'r Llall)
Hydref 2003
Y mis hwn :
Holi Emyr Hopkins, Blaenpennal.

Ymhle bu dechrau'r daith?
Ar fferm Brynwichell, Blaenpennal.

Beth yw'r digwyddiad cyntaf a gofiwch?
Dechrau mynd i Ysgol Tanygarreg yn y prynhawn a chael mynd yno a'r gefn poni gyda Non Morgan, Shop Pencraig a oedd yn cario y Post o amgylch yr ardal ar y pryd. Roedd mynd i'r Ysgol yn hwyl ond 'nath e ddim para'.

Ar wahân i'ch rhieni pwy neu beth a ddylanwadodd fwyaf arnoch?
Athrawon ysgol ddyddiol ag ysgol Sul, ac yn ddiweddarach y gymdeithas wledig y cefais fy nwyn i fyny ynddi.

Pe byddai ichwi gael dewis dawn, pa ddawn y carech fod yn feddiannol arni?
Y ddawn i ganu.

Beth sy'n achosi mwyaf o ofid i chwi?
Gweld y Gymdeithas Amaethyddol wledig yn cael ei dinistrio gan bolisïau gwrth-amaethyddol y Llywodraeth.

Pa un yw eich hoff ddarn o farddoniaeth?
Hon, Syr T H Parry Williams

Pwy yw y person yr ydych yn ei edmygu fwyaf?
Gwynfor Evans am ddal i gredu pan oedd yn ymddangos fel petai fod ei freuddwyd ar ben.

Beth sydd wedi rhoi fwyaf o bleser i chwi?
Gweld fy wyres fach yn dysgu rhywbeth newydd bob dydd.

Beth sy'n eich gwylltio fwyaf?
Darllenwyr newyddion Saesneg yn cam ynganu enwau lleoedd Cymraeg. Digon drwg derbyn rhai Llundain, ond mae yn anfaddeuol ei gael o Gaerdydd.

Pe byddai modd gwireddu tri dymuniad o'ch eiddo, beth fyddent?
Gweld pobl yn cael gwellhad llwyr o'r Cancr. Byddwn yn fwy na bodlon ar hynny.

Oes yna ddarn o lenyddiaeth y byddech yn falch o deimlo mai chwi a'i cyfansoddodd?
Dwy awdl fuddugol Dic Jones Y Cynhaeaf a'r Gwanwyn.

Pe byddai i chwi ennill y Loteri, sut byddai ichwi wario yr arian?
Ei rannu yn gall gobeithio.

A oes gennych hoff raglen deledu?
Rhaglenni dogfen a Newyddion.

Pa fath o wyliau y byddwch yn ei fwynhau fwyaf?
Gwyliau wedi ei drefnu gan eraill.

Pa nodwedd mewn person yr ydych yn ei gasau fwyaf?
Person sydd yn ymffrostio yn ei allu ei hun ac yn ceisio gwneud i bawb arall deimlo yn is raddol iddo neu iddi.

Oes yna ddywediad neu ddihareb a hoffwch yn fwy na'r un arall?
Cas y gwr nas caro'r wlad a'i maco

A oes gennych eich hoff daith?
I unrhyw fan cyhyd â'm bod mewn cwmni da.

Pa newidiadau carech ei weld yn eich papur bro?
Diolch amdano, ond beth am geisio cael mwy o "Lythyron i'r Golygydd" a chael barn ar bynciau'r dydd a materion lleol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý