91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Barcud
Evan Morgan Williams Cyfaill pur yr oriau
Ebrill 2004
Un o'r breintiau a ddaeth imi o'm hymwneud â'r Barcud yw y cyfle a'r anghenraid a rydd imi i ymwneud â phobl.
Deuthum i adnabod pobl nad oeddent gynt ond wynebau cyfarwydd, gwir fy mod yn gwybod pwy oeddent ond ymron dyna'i gyd.

Un o'r rhai hynny oedd Evan Williams, Penllethr, Penuwch (Llanfaelog gynt). Mae'n wir imi fod dan gyfaredd ei gyflwyniadau o'r "Lliain" Rowland Hughes, "Sgidiau Bach Llandeilo" a'r "Ddeugeinfed Bennod o Eseiah" droeon mewn eisteddfod a chyngerdd eto ychydig a wyddwn amdano mwy na'i fod yn eisteddfodwr brwd ac yn ddangoswr merlod mewn sioe.

Yn dilyn y pwyso a fu arnaf i ddod i gynorthwyo gyda golygu'r Barcud, ac yntau yn un o'r colofnwyr cyson, tyfodd fy adnabyddiaeth ohono a daethom yn gyfeillion. Gwladwr ydoedd a gwladwr diwylliedig fel y dadlennau ei sgwrs, pethau'r wlad oedd ei bethau, sioe amaethyddol, treialon cŵn defaid, eisteddfod a chyngerdd a byddai wrth ei fodd.

Cylch y merlod fyddai yn ei ddenu mewn sioe ac ar ddiwedd y prynhawn ac yntau a diddordeb mewn garddio y Babell Gynnyrch a chaem yn ail golofn fisol ei sylwadau am a welodd ac a glywodd ynddynt. Tipyn o gamp oedd cadw colofn i fynd am ugain mlynedd, gwnaeth Evan hynny ac mae ein dyled iddo yn fawr. Profodd "Gweld a Chlywed" ei hun yn golofn boblogaidd a daliodd yn ei blas drwy'r blynyddoedd ac 'roedd y sylwadau amdani yn werthfawrogai a charedig bob amser.

Siom iddo oedd pan fethodd oherwydd llesgedd wneud ei gyfraniad ond daliodd ef a Megan i gynorthwyo drwy fod yn ddosbarthwyr Y Barcud eu hardal. Byddai yn dod a'r ysgrif yn bydlon imi bob mis ac yn aml byddai cwlffyn o fore wedi mewn sgwrs ond ni chyfrifwyd hynny erioed yn golled gan felysed a sylweddol ydoedd.

Mae'n chwithig meddwl am alw ym Mhenllether a chael ei gornel yn wag. Treuliodd lawer o'i amser yno wedi i'r anhwylder ei oddiweddyd gan ddibynnu ar y papurau a'r cylchgronau i ddiwallu ei ddiddordebau eang.

Gedy atgofion lu ac un yn arbennig a gofiaf. Eisteddfod Llangeitho, yr olaf a fu yno mae'n siŵr. Dau ar y llwyfan ar yr Her Adroddiad, a'r fath ddau. Evan, neu i roi iddo ail enw llwyfan "Maelog" a "JR" (Jones, Talybont) dau enillydd cenedlaethol a'r ddau y noson honno yn cyflwyno detholiad o awdl Gwilym R Tilsley i'r Glöwr. Nid oedd angen i'r arweinydd ofyn am ddistawrwydd, hawliau'r ddau hynny a byddech wedi medru clywed deilen yn siffrwd.

A dyma'r ddau wedi ein gadael, dau a feithriniodd ei dawn i berffeithrwydd ac a'i defnyddiodd i gyflwyno inni rai o glasuron ein llenyddiaeth.

Heddiw cofiwn a diolchwn am gyfraniad Evan ac mae ein cydymdeimlad mwyaf didwyll gyda Megan a fu gymaint ei gofal amdano yn ail hiraeth.

Er cof am gyfaill, Evan Morgan Williams, Penllether, Penuwch. Bu farw Mawrth 25, 2004.

Un crwn ei ddiddordebau,
Tir, anifail a llysiau,
Naddwr celfyddyd prennau

Llais dawnus ar gynghorau,
Adroddwr coeth llwyfannau....

Gwelir y gerdd yn ei chyfanrwydd yn rhifyn mis Ebrill o'r Barcud.

John Roderick Rees


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý