Mae'r paratoadau yn mynd ymlaen ar gyfer yr Eisteddfodau a gynhelir eleni ar ddydd Gwener 29ain o Ebrill am bedwar y prynhawn, Dydd Sadwrn 30ain o Ebrill am hanner dydd a Dydd Llun Gŵyl Calan Mai, yr ail o Fai am ddau y prynhawn. Bydd rhagbrawf yr Her Unawd yn y neuadd fel arfer am unarddeg y bore ar y Dydd Llun, gyda'r cystadlu y fan honno yn edrych yn addawol iawn, a'r gystadleuaeth yma fel arfer yn profi i fod yn Eisteddfod ar ei phen ei hun. Edrychir ymlaen hefyd at gystadlu brwd yn y cystadleuthau eraill. Anrhydeddir un o ffyddloniaid yr Eisteddfod fel arfer yn Llywydd yr Ŵyl, ac eleni, tro Mrs Mair Lloyd Davies Tregaron yw hi; edrychir ymlaen at ei chwmni. Bydd yr Ŵyl Ddrama yn cael ei chynnal ar y penwythnos 13eg a'r 14eg o Fai, ac mae hon yn addo bod yn ŵyl lewyrchus hefyd gyda nifer o gwmniau yn cystadlu. Y beirniad eleni fydd yr actor adnabyddus, Alun Elidyr o Dalybont.
|