Ar ddechrau'r ganrif olaf roedd bron pob cartref yng Ngheredigion yn hunan gynhaliol ac anaml y byddai'n rhaid i'r teulu fentro y tu allan i'r ardal i chwilio am angenrheidiau bywyd. Ardal felly oedd Pontrhydygroes; roedd hi'n uned economaidd yn ogystal ag uned gymdeithasol ac roedd bywyd trigolion yr ardal yn troi o amgylch cysylltiadau teulu, tylwyth a chymydog.
Ar lethr uwchlaw pentref Pontrhydygroes, yn cysgodi rhwng Llwyndrain, Brynhyfryd, Logelas a Fforddlas y saif tyddyn Bwlchyblaen yng nghesail y bryniau a dyrnaid tai. Y cyfnod hynny, roedd y tyddyn yn gartref i Hannah a'i gŵr William John Rees. Mab ydoedd i un o ferched Bwlchyblaen, sef Winifred a ymgartrefodd yn Gwarallt Cwmystwyth wedi iddi briodi â Tomos Rees.
Ond bu Winifred farw ar enedigaeth William John yn 1899, a magwyd ef wedyn ym Mwlchyblaen gyda'i fodryb Hannah Davies. Roedd ganddo chwaer oedd yn hÅ·n hefyd, ond bu hithau farw pan oedd ond yn blentyn.
Priodwyd William a Hannah Evans yng nghapel Bwlchgwynt Tregaron. Ni aeth William ymhell i chwilio am wraig, un o'r un gymdogaeth ag ef oedd hi, yn byw ym Mhantrhedyn, yn ferch i Catherine Evans a oedd yn enedigol o Pantyrhirion, Llanafan, a Dafydd Evans, yntau yn dod o'r un ardal, sef Talgarth, Llanafan. Roedd Hannah yn un o ddeg o blant.
Cafodd William John Rees ei adnabod fel gŵr tawel a myfyrgar ac yn dynnwr coes. Gwraig groesawgar ar yr aelwyd a gweithgar iawn oedd Hannah Rees ac i'r ddau ganwyd chwech o blant ar y tyddyn naw acer. Trigent yn weddol hunangynhaliol, cadwent fuwch, a magent lo, roedd ganddynt ychydig o ddefaid, mochyn a dyrnaid o ieir, tyfent wair a chadwent ardd lawn. Gweithiodd y ddau yn ddiflino i ofalu am y teulu a mawr oedd y parch iddynt yn y fro. Cyn colli ei iechyd, bu William John yn weithiwr caled, bu yn y gwaith coch, y gwaith mwyn, gweithiodd yn felin lifio yr Hafod, yn Chwarel Ystrad Meurig, ac yng ngwaith Nant y Moch.
Ond beth am blant Bwlchyblaen?
Ganwyd chwech ar aelwyd Bwlchyblaen, tair merch a thri bachgen. Dafydd Thomas oedd yr hynaf o'r plant a threuliodd ef lawer o'i amser gyda'i wncwl a'i fodryb yn Brynhyfryd. Yr ailanedig oedd William Hefin a Morgan John yr ieuengaf o'r bechgyn. Fel eu tad, a fu'n ymladd yn y rhyfel byd cyntaf, bu'r tri mab hwythau yn ymladd dros eu gwlad yn yr ail ryfel byd a mawr oedd gofid y teulu pan anafwyd Dafydd Thomas ac yntau mor bell o Fwlchyblaen. Ond mawr oedd y llawenydd pan ddaeth y tri mab yn ôl o'r gad i ddiogelwch a thawelwch Bwlchyblaen.
Winifred Menna oedd yr hynaf o'r merched, yna Catherine Christina a Doris Emma yr ieuengaf. Er i bob plentyn adael yr aelwyd bob un yn ei dro i briodi, roedd y cwlwm teuluol yn un cryf a safodd tri o'r plant ym Mhontrhydygroes wedi iddynt briodi.
Ganwyd i Hannah a William Rees saith ŵyr a chwech wyres, ac ymfalchient yn y teulu estyngedig. Ond ar Fawrth 11eg 1967, bu farw Hannah megis cannwyll yn diffodd, ac er mawr dristwch i'r teulu a'r fro, bu farw William John ei gŵr, yntau ar Hydref 18fed yr un flwyddyn, a chaewyd pennod yn hanes Bwlchyblaen.
Erbyn heddiw, dim ond dau o blant Bwlchyblaen sy'n fyw, sef Morgan John (Moc Bwlchyblaen) sy'n dal i fod yn y fro, a Winifred Menna a driga gyda'i gŵr yn ardal Cnwch Coch.
Yr unig ddisgynyddion eraill o deulu Bwlchyblaen sy'n dal i fyw ym Mhontrhydygroes yw Brian Thomas a'i deulu, mab i Catherine Christina (Katie Bwlchyblaen). Ond fe fyddai William a Hannah Bwlchyblaen yn falch o wybod bod yna lawer o wyrion yn dal i fyw nid nepell o'r fro.
Yn ystod y blynyddoedd, bu llawer newid ar wedd ac aelwyd Bwlchyblaen. Erbyn hyn mae'n gartref cysurus i deulu o Loegr, ac mae yna blant eto ym Mwlchyblaen. Ond pan gyfeiria hen ardalwyr Pontrhydygroes at 'blant Bwlchyblaen', cyfeirio maent at blant William John a Hannah Rees.