Ail gychwynnwyd Ffair Garon gan Curiad Caron yn 1996. Yn anffodus, bu i Curiad Caron ddod i ben yn Rhagfyr 2006. Diolch iddynt am gael y syniad o adfywio'r ffair. Oherwydd eu brwdfrydedd, fe grëwyd sail gref i'r ffair fynd o nerth i nerth. Difyrrwch i nifer oedd i un o'r tylluanod wrthod dod lawr o do sied cyfagos er gorau ymdrech yr hebogwr. Gan fod y Frigâd Dân yn digwydd bod yn bresennol yn arddangos eu gwahanol arbenigrwydd, bu yna ofyn arnynt i brofi ei sgiliau ymhellach trwy ddod â'r dylluan lawr yn ddiogel. Does dim diffyg diddanwch yn Ffair Garon.
Y gŵr gwadd oedd Mr Fred Williams. Diolch iddo am fod mor hael o'i amser. Cyflwynwyd ffon o waith Dafydd Jones, Llanddewi Brefi iddo. Yn garedig iawn bu i Paul Culyer, Cadeirydd Pwyllgor Ffair Garon a Marian Davies, Cadeirydd Cyngor Tregaron dywys Mr Fred Williams o amgylch a medrodd werthfawrogi yr amrywiaeth o weithgareddau a gynhaliwyd yn ystod y diwrnod. Roedd yna arddangosfeydd cŵn hela, pysgota plu, cŵn ystwyth a bu i Grŵp Gyrru Teifi ddod â'u ceffylau harness, ag urddasol oeddent.
Mwynhaodd y plant yr hwyl o gael cyfle i arbrofi yng ngwaith cerfio, troi coed a gwneud modelau o ddefnydd ail gylchu ynghyd ag ymuno yn mherfformiad y
diddanwr pypedau "Pied Piper". Bu i Sali Mali gadw cwmni inni. Roedd Dawnswyr Twrch Trwyth a cherddoriaeth gan Ian Wyn Rowlands a Jasper Conran yn y cefndir yn ychwanegu at naws y Ffair. Yn brysur roedd Sefydliad y Merched yn gwneud pice bach a Jean a John Thomas wrthi'n gwneud menyn a'u gwerthu mor gyflym ag oedd yn dod allan o'r corddwr.
Cafwyd cyfle i weld crefftwyr wrth eu gwaith megis rhaffwr, colurwr a gof yn eu plith. Dyfarnwyd stondin Sefydliad y Merched yn gyntaf a bu iddynt dderbyn Tarian Parhaus a noddwyd gan Ganolfan Bwyd Cymru yn ogystal â £60 o wobr.
Diolch i'r stondinwyr am eu presenoldeb, a gobeithio iddynt gael diwrnod buddiol.
Diolch hefyd am gymorth y gwirfoddolwyr yn enwedig Melvyn Jones ag aelodau o Glwb Ffermwyr Ifainc Tregaron. Yn bennaf diolch i bawb a ddaeth i gefnogi'r Ffair. Yn anffodus dyma yw y flwyddyn olaf bydd Cynllun Treftadaeth Tregaron sydd yn cael ei gyllido gan arian Ewropeaidd yn cefnogi'r Ffair. Diolch am eu cefnogaeth yn ystod y dair mlynedd diwethaf. Gobeithio y dewch eto flwyddyn nesaf, pwy a ŵyr beth all ddigwydd!!
Mwy o Dregaron
|