Bum yn y ddwy o fewn tri diwrnod i'w gilydd yn gweld dau berfformiad rhyfeddol a chofiadwy. Roedd y ddwy theatr yn llawn i'r ymylon 200 mewn un a 70 o filoedd yn y llall, a'r awyrgylch yn drydanol wrth i'r perfformiadau ddatblygu. Cast o dros gant o bobl mewn un a phymtheg yn y llall. Perfformwyr y ddau gynhyrchiad yn rhoi o'u gorau a'r ddwy gynulleidfa yn ymateb yn reddfol.
Dau brofiad gwahanol ond cofiadwy.
Efallai fod rhai ohonoch wedi dyfalu erbyn hyn lle bues i. Theatr Felin-fach oedd un wrth gwrs lle gwelais berfformiad unigryw o'r Pasiant 'Jwdas' o waith Nan Lewis yn cael ei gynhyrchu gan Eryl Jones. Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd oedd y llall, lle gwelais y tîm rygbi cenedlaethol yn trechu'r hen elyn. Gallwn ddweud fod hwn hefyd yn berfformiad unigryw gan taw dyma'r unig gêm i'r tîm i ennill ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Roedd sawl elfen yn debyg yn y ddau achlysur; tensiwn, tyndra a'r annisgwyl, elfennau sy'n cyffroi cynulleidfa.
Seliwyd y pasiant 'Jwdas' ar weithredoedd Jwdas yn ei ymwneud a'r Iesu a arweiniodd yn y pen draw at ei fradychu. Byrdwn y perfformiad oedd taw cyflawni proffwydoliaeth wnaeth Jwdas gan fod yn rhaid i'r Iesu farw a'i fod wedi ei ddewis gan Dduw i wneud y gorchwyl hynny. Yn wir teimlais dosturi dros Jwdas a pheth cydymdeimlad yn ei weithred o fradychu'r Iesu. Gwelwyd golygfeydd dramatig rhwng Jwdas a Salome yn ogystal â rhwng Peilat a'r dyrfa.
Cwmni Bröydd Tywi gyflwynodd y Pasiant a'r prif actorion oedd Mansel Thomas - Jwdas, Undeg Evans - Salome a Wyn Morris - Iesu. Er taw actorion amatur ydynt cafwyd perfformiad proffesiynol dros ben. Hyfryd oedd gweld plant yn rhan o'r cast ac fe saif yr olygfa 'Y Plant yn Chwarae' yn hir yn y cof.
Cafwyd cyfraniadau gan unawdwyr a phartïon wedi eu plethu'n gelfydd i'r stori yn cael eu cynorthwyo gan gerddorfa fechan. Noson i'w thrysori a da oedd gweld y theatr yn llawn ac yn mwynhau, tystiolaeth arall o'r math o berfformiadau sy'n denu tyrfa i'r theatr Gymraeg.
Perfformiad llawn angerdd ac ymroddiad gafwyd yn y theatr fawr yng Nghaerdydd hefyd. Er taw pymtheg oedd y cast gydag eilyddion wrth law rhoesant berfformiad clodwiw ac yma eto cafodd y dyrfa ei phlesio'n fawr.
Yn wahanol i gwmni Bröydd Tywi nid amaturiaid oedd y rhain ond chwaraewyr proffesiynol ac am unwaith cafwyd perfformiad felly. Profiad gwefreiddiol oedd bod yn rhan o'r dyrfa hon hefyd ac fe ddaeth prif actor i'r amlwg ym mherson ifanc James Hook. Manteisiodd ar lwyfan cenedlaethol i amlygu ei ddawn. Ond rhaid peidio anghofio cyfraniad y tîm i lwyddiant y perfformiad. Yn yr un modd ag actorion amlwg y pasiant, oni bai am gyfraniad tîm ni fyddai wedi bod yn bosibl cyflwyno perfformiad mor effeithiol.
Ie dwy theatr a dau berfformiad gwahanol o ran natur, ond un profiad. Y profiad o falchder o fod yn ddinesydd gwlad fechan. Gwlad sy'n medru hyrwyddo cyfleoedd i gwmnïau amatur i feithrin ei dawn a'i diddordeb ac mewn maes gwbl wahanol cynhyrchu a hyfforddi chwaraewyr sy'n medru cystadlu ar lwyfan byd eang.
Vaughan Evans
Adolygiad o 'Jwdas' yn Theatr Felinfach. Digwyddiadau Theatr Felinfach Chwaraeon ar 91Èȱ¬ Cymru'r Byd
|