91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Barcud
Tim Dewi Stars yn ystod y 1960au cynnar Cychwyniad Dewi Stars FC
Mehefin 2010
D Ben Rees sy'n adrodd hanes cynnar clwb pêl droed Llanddewi Brefi - Dewi Stars

Gwelais yn y Barcud fod Clwb Pêl-droed Dewi Stars wedi dathlu'r Ilynedd 50 mlynedd o'i bodolaeth and nid oedd hynny'n ffeithiol gywir.

Daeth Dewi Stars fel clwb plant Llanddewi Brefi i fodolaeth 7 mlynedd cyn hynny, a'r dydd o'r blaen (29 Ebrill 2010) deuthum ar draws llyfr bach coch ei glawr Ile cedwid cofnodion cynharaf y Clwb.

Daeth Clwb leuenctid Dewi Stars i fodolaeth ar gyfer tymor 1952-3.

Myfi oedd Ysgrifennydd y CIwb.

Y Capten oedd Arwyn Roberts a'r Is-gapten oedd Wyn Thomas sydd yn byw erbyn hyn yng nghyffiniau Manceinion.

Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar 29 Hydref 1952 o dan gadeiryddiaeth Arwyn. Penderfynwyd, a hynny yn Saesneg, ar y rheolau.

Y mae'r cofnodion, a ysgrifennwyd gennyf yn yr iaith fain, oherwydd caem fwy o Saesneg na Chymraeg ar lwybr addysg.

Pwyswyd, roedd hi'n rheol, fod yn rhaid gwisgo dillad pel-droed gan gynnwys sgidiau, a'n bod am i'r Clwb gael ei alw ar y cae ac yn y wasg fel Dewi Stars!

Etholwyd Glyn Davies yn Drysorydd a phenderfynwyd argraffu cerdyn i nodi'r gemau y byddem yn eu chwarae.

Diddorol sylwi ein bod am drefnu adran ar gyfer cyfnewid Ilyfrau yn ymwneud a phêl-droed, ac yn talu ceiniog am fenthyg Ilyfr oedd yn gwerthu am ddau swllt a chwech.

Telid 3 ceiniog i berthyn i'r Clwb a throsglwyddwyd y swm o dri swllt a phedair ceiniog a berthynai i'r Clwb Stampiau oedd yn bodoli yn y pentref o dan yr enw Arkubs.

Os penderfyna unrhyw un o'r chwaraewyr chwarae i dim arall ag yntau yn aelod o dim Ser Dewi disgwylid iddo dalu swllt.

Ni chaniateid rhegfeydd o gwbl ar y cae.

Dyma reol 7:'No bad language to be used at any meeting or on the field of play by any member of this Club.

Disgwylid i bob aelod o'r tim wisgo crys coch, trowsus gwyn, a sanau coch a gwyn.

Disgynnai'r gwaith o drefnu gemau ar ysgwyddau'r Ysgrifennydd, yr eiddoch yn gywir.

Ef oedd a'r hawl, a disgwylid iddo ddarllen y cofnodion ymhob cyfarfyddiad o'r Pwyllgor Gwaith.

Nid oedd hawl gan y Clwb i deithio o Landdewi heb fod ganddynt 11 o fechgyn oedd yn awyddus i gynrychioli pentref Dewi Sant ar dir Ceredigion.

Etholid y tim gan ddau a gafodd y dasg sef Glyn Davies a Gwyn Francis Evans (Llundain erbyn hyn) gyda'r Capten ac ym mhresenoldeb yr Ysgrifennydd.

Penderfynwyd hefyd cael bathodyn gyda llythrennau'r Clwb arno, a rhoddwyd y bel gyntaf inni ymarfer gan leuan Evans, Delfryn.

Yr oedd digon o frwdfrydedd yn bodoli fel ein bod wedi Ilwyddo i ymarfer gyda 6 ymhob tim.

Dewisid o'r rhain y tim cyntaf i chwarae Llangeitho, sef D Ben Rees, Arwyn Roberts, D James Price, Pistyllygweudd, Calvin Davies, Derek Davies, Glyn Davies, Norman Winstanley, Gwyn F Evans, Gordon Winstanley, Wyn Thomas a Peter Williams.

Erbyn ein Pwyllgor ar 17 Tachwedd 1952 gwelir enw Byron Davies, un sydd wedi oes o wasanaeth i bel-droed yn Llanddewi Brefi.

Haedda ein canmoliaeth.

Pan chwaraewyd tim Ystrad Meurig ym mis Tachwedd, dyma'r tim a ddewiswyd:

GôI - D Ben Rees, Calvin Davies, Gareth Lloyd. leuan Evans, Arwyn Roberts, D J Price. Glyn Davies, Wyn Thomas, G F Evans, Gordon Winstanley, Peter Williams.

Ar y fainc yn barod i helpu, yr oedd Norman Winstanley ac Emrys Richards, Tan-y-Bryn (Tregaron erbyn hyn).

Erbyn 11 Rhagfyr 1952 yr oeddem wrth ein bodd gyda bathodyn Dewi Stars a fu ar ein labelau am gyfnod hir yn y pumdegau.

Ni cheir rhagor o fanylion yn y llyfr cofnodion am y CIwb a fu'n rhag rhedegydd i Glwb Dewi Stars a ffurfiwyd ym 1959.

Byddwn i yn dweud mai'r rhai mwyaf dibynnol ac oedd yn hynod o frwdfrydig am Glwb leuenctid Dewi Sant oedd y rhain:

i) Peter Williams sydd ers blynyddoedd yn byw yng nghyffiniau Chesterfield. Nis gwelais ers blynyddoedd lawer. Roeddem yn byw yn ymyl ein gilydd yn 'top' y pentref.

ii) Arwyn Roberts, sydd yn dal yn blwyfolyn, a'i gyfraniad i'r fro a chae pel-droed yn haeddu clod a diolch diffuant.

iii) leuan Evans, Delfryn. Cofiaf yn dda amdano yn ei ddillad plisman adeg un o Eisteddfodau Cenedlaethol ardal Abertawe.

iv) Glyn Davies, a symudodd i ardal Castell Nedd os cofiaf, ac un o'r goreuon. Roeddem yn ffrindiau mawr.

v/vi) Norman a Gordon Winstanley. Collais adnabyddiaeth o'u hanes ers blynyddoedd. Dau o chwaraewyr gwych y Clwb, a'u tad Jack Winstanley yn ein hyfforddi a'n cefnogi bob tro.

vii) Derek Davies, 4 Ivy Bush. Alltud fel finnau yw Dr Derek, galluog a gostyngedig. Cyw melyn olafyteulu ac un sydd wedi rhoddi Llanddewi ar y map academaidd.

viii) David James Price, Pistyllgweudd, un a fu'n garedig iawn i mi. Bu ei farw cynamserol yn siom enfawr i'w cyfoeswyr. Meddai ar ddidwylledd ac unplygrwydd. Unig blentyn a fagwyd yn annwyl.

ix/x) Byron a Calvin Davies. Balch o weld Calvin yn ô1 ym mywyd y pentref, of a Byron heb golli'r naturioldeb a'r anwyldeb oedd ganddynt 58 mlynedd yn ô1.

xi) Minnau yn hiraethu am y dyddiau gwych pan oeddem gyda'n gilydd, yn Ddol-gam a Do1-felin a'r Cae Mawr.

O na baem yn medru ail ddechrau eto gyda thim ieuenctid Dewi Stars, ond o leiaf, gosodais ar gof a chadw yn y Barcud ychydig o ramant bechgyn Llanddewi yn nechrau'r pumdegau. Mae'n bwysig cadw cofnodion, dyna wers yr ysgrif hon.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý