Gobaith newydd i'r Gymdeithas a Chymreictod. Bu pryder a diflastod pan fu'n rhaid cau ein Siop a Swyddfa Post ddechrau Hydref, yn enwedig ar ôl y gofal da gawson o dan ofal Jane ac Ian.
Dros nos, trodd y Sgwar o fod yn fwrlwm cyfeillachu i fod yn anialwch llwyr-y cydymdeimlo a'r cydlawenhau wedi gorfod pylu. Yn wir, byddai trigolion yn derbyn newyddion lleddf a llon am bobl o'u cymuned eu hunain gan eraill a chysylltiad o'r tu allan i'r pentref.
Ond, troiodd y pendil; - ar Sadwrn cyntaf Ebrill agorwyd Caffi a Siop o fewn yr un adeilad. Cymerodd Ceridwen, Ken a Carwyn Richards yr awenau gyda chefnogaeth Heledd a Meinir.
Dyma'r tro cyntaf i'r gofal fod gan deulu Cymraeg eu hiaith ers i Marie a Dai James ymddeol ddechrau'r wythdegau.
Yn ychwanegol, os galwch ar Sgwar y pentref ar nos Fawrth yn benodol bydd dau wasanaeth arall, Cymraeg eu cyfrwng yn eich disgwyl.
Mae Mr. Dai Jones o siop Felinfach wedi dod a'r Swyddfa Bost symudol atom, dair gwaith yr wythnos, - fel y mae'n ei wneud i naw pentref arall,- ers yr Hydref.
Yna, newydd ddechrau, gwelwn fan pysgod a sglodion o Dregaron -Codfinger- ar y Sgwar. Mae'r fusnes llewyrchus hon o dan ofal Idwal a Trystan ac mae'n amlwg ei bod yn plesio llawer yn y pentref.
Felly, ar nos Fawrth, cawn noson gyflawn Gymreig,- yr arian i ddechrau o'r Swyddfa Bost, y cwrs cyntaf am ein swper gan y cogydd symudol, teisen a choffi (ac unrhyw nwyddau wrth gwrs) i ddilyn yn y Caffi a'r Siop ac, os mai dyma'r patrwm, gorffen gydag"aperatif"yn y 3WWW!
Uchafbwynt y cyfan yw y gallwn holi ac ateb, trin a thrafod, cytuno a dadlau yn gymdeithasol am noson gyfan yn iaith ein tadau. Diolchir yn wresog i'r cymwynaswyr oll.
Edrychwn ymlaen nesaf at weld Amgueddfa Daniel Rowland ar ei thraed. Yna, byddwn yn medru croesawu'r ymwelwyr o bob rhan o'r byd a phrofi fod pentref Llangeitho'n gweithredu ei hetifeddiaeth.
Nid yn unig ar Sgwar ein pentref mae'r perchnogion wedi bod yn gweithredu. Maent wedi ymestyn dipyn ymhellach gan inni glywed Mrs. Richards yn siarad yn huawdl ar raglen Jonsi. Yn ychwanegol, bu'r Caffi a'r Siop yn fwrlwm o gyffro pan ymwelodd Hywel y Gwynfryn er mwyn rhoi cyflwyniad byw ar Radio Cymru. Rhoddodd Tomi Jones ddatganiad,- mor swynol ag erioed,- ar y rhaglen hon gyda'r Cathod hefyd yn rhannu eu doniau!