"Cynhyrchiad gwych" "Gwefreiddiol"
"Pob agwedd mor broffesiynol"
Dyna ychydig o'r ymateb a dderbyniwyd yn dilyn perfformiadau disgyblion Ysgol Uwchradd Tregaron o'r sioe gerdd'ErMwyn Yfory'.
Bu wythnosau cyntaf tymoryr Hydrefyn rhai llawn bwrlwm yn yr ysgol wrth i ganran uchel o'r disgyblion baratoi ac ymarfer ar gyfer y sioe.
Cyfansoddwyd y sloe yn wreiddiol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Y Bala 1997 gan Derec Williams, Penri Roberts a Robat Arwyn, a braint oedd cael cwmni un o'r awduron, Penri Roberts yn un o'r perfformiadau. Cefndir hanesyddol y sioe yw rhyfel y degwm, a chafwyd sesiwn yn cyflwyno hyn i'r cast i gyd cyn dechrau ymarfer, gan bennaeth yr adran hanes, Mr Huw Roderick.
Rhaid wrth gwrs oedd cael stori garu i gyd-fynd a'r hanes yma rhwng mab i ffermwr tlawd (a chwaraewyd gan Iwan Davies) a merch y ficer (Nia Wyn).
Cafwyd perfformiadau disglair gan bob un o'r prif gymeriadau a chanmolwyd y band a'r corws am eu brwdfrydedd a'u canu grymus.
Yn wir, yng ngeiriau Penri Roberts - "Aeth ias i lawr fy nghefn sawl gwaith yn ystod y noson wrth i mi gael fy nghyffwrdd gan ddiffuantrwydd a thalent rhai o'r prif gymeriadau ac hefyd sawl gwaith wrth deimlo grym a brwdfrydedd y corws".
Yn gefnlen i'r cyfan roedd set arbennig wedi'i pharatoi gan y disgyblion o dan arweiniad penaethiaid yr adran gelf a dylunio, Mr Huw Williams a Mr Kevin Lloyd.
Bu prysurdeb hefyd yn swyddfa'r ysgol wrth i'r ffôn ganu'n ddi-baid a phobl yn galw i brynu tocynnau ac erbyn wythnos y perfformiadau doedd yr un tocyn ar ôl ar gyfer y tri perfformiad.
Paratowyd y disgyblion gan benaethiaid yr adran ddrama a cherddoriaeth, Mrs Catrin Mai Davies a Miss Rhiannon Lewis a dyma brofiad gwerthfawr yn natblygiad y disgyblion, a phrofiad hefyd a fydd yn sicr yn aros yn hir yn y cof nid yn unig gan y perfformwyr ond y gynulleidfa hefyd.
Yng ngeiriau un o'r llu o lythyron a dderbyniodd yr ysgol - "dyma un arall o lwyddiannau niferus disgyblion Ysgol Uwchradd Tregaron", a phrawf pellach fod yr ysgol yn gymuned hapus a brwdfrydig'.
Y cwestiwn y mae pawb yn ofyn nawr yw - pryd mae'r sioe nesaf a beth yw hi am fod?!!
|