Gwelais olau dydd gyntaf y tu allan i ffatri 'Royal Enfield' yn Birmingham yn y flwyddyn 1943. Roedd nifer sylweddol o fotor beics 'run fath â fi yno wedi eu llinelli'n gywir ar gyfer eu dosbarth drwy'r wlad i wahanol gwsmeriaid. Cefais lyfr i brofi fy mod yn ddilys, insiwrin a disg treth a bant a fi yn ofalus dan reolaeth Oswald oedd yn gweithio yn y ffatri. Dyn yn byw efo'i fam oedd Oswald a chefais barch mawr ganddo:- dod mewn i'r tŷ bob nos a mynd i'r ffatri bob bore a gweld degau o fotor beics yn cael eu troi allan yn ddyddiol.
Ond wir i chi! - dechreuodd Oswald ganlyn un o ferched y swyddfa a hyfryd iawn oedd cael mynd allan i'r wlad a chael fy ngadael wrth fy hunan yn ymyl rhyw goedwig byth a hefyd tra bydden nhw eu dau yn mynd am dro. Deallais fod Oswald am briodi, ond nid oedd ei fam yn blês iawn: "So honna yn dod i'r tŷ yma, - gwertha di y beic a phryna dŷ": Roeddwn wedi siomi'n fawr, ond doedd gen i ddim gair i'w ddweud ar y mater, gan mai motor beic o'n ni.
Rhoes Oswald "hysbys" yn y papur lleol a daeth dau lanc ifanc heibio a phrynwyd fi yn y fan a'r lle. Bant â ni am bentref bach ar gyrion Birmingham i sied sinc oer, ond fues i ddim yn oer am hir, gan i Ben (boi newydd) fod â diddordeb mewn dim ond rasio ac ennill pob ras. Aed yn rhy gyflym a chafwyd damwain erchyll: torrodd Ben ei goes mewn dau fan ac aed ag ef i'r ysbyty. Hebryngwyd fi i'r sied sinc, ond doedd fawr o niwed arna i. Un diwrnod agorwyd y drws a daeth dyn tal, tawel i fewn gyda Ben a gwerthwyd fi iddo yn y fan a'r lle.
Plismon o'r enw Bert oedd y prynwr a dim ond mynd nôl a blaen i ac o'i gartref i Swyddfa'r Heddlu y byddwn a garej fach gynnes bob nos. Ar ôl dwy flynedd cafodd Bert ei symud i'r ddinas ac felly nid oedd fy angen i mwyach. Ces fynd i Arwerthiant a phrynwyd fi gan hen ŵr bach efo barf, mwstash a phensiwn. Ar y ffordd adref cefais ddamwain gyda bws deulawr. Aeth yr hen ŵr i'r ysbyty ac aeth yr heddlu â fi i'r 'Central Garage'. Ac yno y bum am fisoedd tra bu'r cyfreithwyr yn penderfynu fy nhynged.
Un diwrnod aed ati i'm hatgyweirio; mae'n debyg fod y "Boss" wedi fy mhrynu ac mewn byr amser 'roeddwn nôl ar yr hewl, - mynd i mo'yn parte ac ambell i angladd. Bore Gwener oedd hi pan ddaeth dieithryn i fewn, roedd angen motor beic i fynd i angladd ei fam yn Abertawe, - mynte fe!! Twyll oedd y cyfan, - lleidr oedd hwn a chefais fy hun ar y domen dre yn Aberystwyth. Daeth dau heddwas i fynd a fi yn ôl i Swyddfa'r Heddlu yn y dre i aros fy nhynged. Nid oedd diddordeb gan y "Boss" yn Birmingham i'm cael yn ôl, gwnaeth gymell yr heddlu i geisio fy ngwerthu unwaith eto.
Y prynwr newydd oedd Will Rowlands, Berry Lodge, Moriah: dyn bach a dim brys -"Come day go day". Nid oedd newid olew yn hanes Will a chefais beth cam, - ond dyna fe erbyn hyn roeddwn yn dechrau dangos fy oedran hefyd. Daeth dyn tawel heibio un diwrnod, wedi clywed fod Will wedi dewis gwerthu eto! a chefais fy hun gyda Jac Sâr, Lledrod. Cariwyd fi adre yn fan Gwynfor "Brynhope", enw Seisnig mewn ardal Gymraeg, - rhyfedd!! Bum yn ffyddlon iawn i'r saer, - nid oedd yn godwr bore iawn nac yn dod adre'n gynnar iawn chwaith! Roedd galw mawr amdano a gwelais lawer gwaith ddynion "gwyllt" yn disgwyl iddo godi. Hwnnw wedyn yn cynnau tân i ferwi tegell a'r dynion gwyllt yn mynd yn benwan wrth i Jac anelu am garthu'r beudy, rhoi gwair i'r fuwch, godro, rhoi llath i'r llo a thamaid i'r gath. Byddai Jac yn barod i fynd ond rhaid oedd glaw yn siop Erwllan am y baco "Cut Golden Bar" a matsus a chlonc gyda Annie. Byddwn yn y sied bob nos, - hyfryd a chysurus iawn gan fod aroglau blawd llif yn berth naturiol mewn gweithdy saer.
Byddai'r gath yn cymeryd mantais bron bob nos i orffwys ar y set, yn gynnes debyg! Erbyn hyn roedd y ddau ohonom yn heneiddio ac aeth y saer i deimlo'n anhwylus a chefais i fynd at ŵyr John Jones, ond nid oedd gan hwnnw fawr o ddiddordeb. Safwn yn llonydd yn y sied a neb yn edrych arnaf o un diwrnod i'r llall. Byddai ambell i gath yn pasio'n llechwraidd i orwedd yn y gornel ar noson oer; ac roedd yno ddigon o lygod mawr!! Sefais yn stond yno i rydu yn ara bach.
Yna, un diwrnod daeth ddau ffermwr i fewn a mynd â fi i gael golchad, - dyna welliant!! - cael gwared budreddi blynydde ond roedd y rhwd yn dal i afael; yn dynn ynof.
"Dydi hwn yn gwella dim wrth aros fan hyn, - gwertha fe" meddai un, a hynny a fu. Daeth Ken Edwards o Lanon a mynd â fi i garej fach glyd ger y lli. Aeth dwy flynedd heibio a chefais fy nhynnu i lawr yn barte bach ond mae Ken yn fy atgyweirio yn drwyadl ynghlwm â chostau mawr. Gellwch alw yr holl beth yn "llafur cariad".
Daeth y diwrnod mawr ac aed a fi am dro i fyny'r allt am Ledrod, - i'r hen gartref - a chael croeso mawr gan y teulu. Cafodd Ken ei ganmol am ei waith arbennig.
Rwyf wedi bod mewn aml i sioe bellach ac mae llawer wedi edmygu gwaith Ken ac yn fawr eu canmoliaeth. Yr wyf finnau yn ddiolchgar i Ken am fy arbed rhag y dyn sgrap a'm gwneud i edrych a theimlo fel newydd. Byddaf yn 64 flwyddyn nesaf, - cofiwch hela carden!!
Ymhen biwyddyn, byddaf yn cyrraedd oedran pensiwn ac edrychaf ymlaen at ymddeoliad cysurus ar ôl bywyd llawn cyffro.
Mae Ken wedi atgoffa pawb ei bod am fy nghadw, - diolch byth, rydw i mewn dwylo diogel ond mae hen deulu Jac Sâr wedi dweud hefyd y bydd yna freichiau agored yn fy nisgwyl yno os bydd angen!!
Erthygl gan David John Jones, Abernac (mab Jac Sâr)