Hwn oedd y trip ysgol Sul cynta' a drefnwyd wedi yr Ail Ryfel Byd, a'r trip cynta' i bob un o'r plant sydd yn y llun. Dewiswyd mynd i 'Barmouth' fel y gelwid y dre glan môr y pryd hwnnw.
Y ddau arolygwr y flwyddyn honno oedd John Herbert, Arfryn, a Richard Jones, Mount Pleasant. Llogwyd bysiau John Edmwnds, Cilrhyg, Llangeitho, un bws yn cario 29, a'r un llai yn cario 14, rwy'n meddwl. Cofiaf fod yng nghefn y bws olwyn sbâr ar y llawr a bu dau neu fwy ohonom ni'r bechgyn yn eistedd arni yn ein tro ar hyd y ffordd, roedd y Bermo yn bell o Fwlch-llan y pryd hwnnw, ac nid oedd rheolau iechyd a diogelwch mewn bod chwaith!
Tebyg i rhyw ffotograffydd ddod heibio a pherswadio y mamau i gael llun ohonynt gyda'r plant, ac mae'r llun yn drysor gen i erbyn hyn. Enwau'r gwragedd a phle roeddynt yn byw ar y pryd oedd:
Rhes gefn o'r chwith i'r dde: Mrs Mary Jones, Pencastell; Mrs Annie Davies, Ardwyn House; Mrs Jennie Jones, Bwlch; Mrs Let Jones, Hendre.
Ail res o'r chwith i'r dde: Mrs Ann Thomas, Castell; Mrs M H Davies, Ael-y-bryn (daeth yn brifathrawes i Ysgol Bwlch-llan o Dreorci yn haf 1945); Mrs Nano Harries, Blaencastell; Miss Letitia Lodwick, Brynawel; Mrs Lizzie Morgans, Hafodygors; Mrs Maggie Morgan, Tynrhos; Mrs Marged Lloyd, Pantcyfyng; Mrs Mary Eliza Evans, Tylau.
Trydedd rhes o'r chwith i'r dde: Miss Ellen Lodwick, Brynawel; Miss Annie Jones, Pencastell (priododd a'r Parchg David Jones Davies, Y Shop, a fu'n ficer yn Llangrannog a Mynydd Cynffig); Mrs Mary Lloyd, Cwmeiarth; Mrs Hannah Jones, Bryngalem; Mrs Margaret Lizzie Lloyd, Meiarth; Miss Margaret Morgans, Rhoslwyn (yn gwisgo het). Mae pob un ohonynt wedi marw erbyn hyn.
Y merched, mewn cromfachau nodir eu cyfenw priodas a phle y maent heddiw, a chyfeiriad presennol y bechgyn yn ogystal, eto rhestrir o'r chwith i'r dde.
Ann Jones, Bwlch (Lewis, Rhydybont, Tregaron); Kathleen Jones, Hendre (Jones, Meity Fawr, Trecastell); Morfudd Harries, Blaencastell (Jones, Llanbedr Pont Steffan); Ann Davies, Ael¬y-bryn (Hamilton, East Sussex); Doreen Horne, Arfryn (Watts, Bootle); Gwynfil Jones, Bwlch (Griffiths, Cwman); Shan Jones, Bwlch (Lloyd, Clettwr,Talgarreg). Y bechgyn: Stanley Morgans, Hafod-y-gors (Llys deri, Llanfarian); Wil I ie Thomas, Tybecca (bu farwyn 14 miwydd oed); John Davies, Ael-y-bryn, yr unig un a oedd wedi gwisgo'n gymwys i ymdrochi yn y mor! (Dr John Davies, Aberystwyth); Sammy Morgans, Tynrhos (Blaenfallen, Talsarn); Trefor Morgans, Hafod-y-gors (Bronystwyth, Rhydyfelin); Stephen Mogan, Tynrhos (Trefilan Court).
Mae'n gwestiwn ple roedd y dynion oedd ar y trip pan dynnwyd y llun, a ble roedd y ddau Arolygwr, oni ddylent fod yn arolygu symudiadau yr ysgolheigion fawr a mân, a phawb mor bell oddi cartre!!
Stephen Morgan