Mae Hanes y Goedwig, a gefnogir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, yn gasgliad pwysig o gyfweliadau ar dâp, barddoniaeth a hen luniau sydd yn crisialu atgofion y rhai y newidiwyd eu bywydau am byth wrth i raglen coedwigo'r Comisiwn Coedwigaeth newid tirlun cefn gwlad Cymru mewn ffordd sylfaenol. Mae chwe chyd-lynydd cymunedol ledled Cymru wedi treulio blwyddyn bron yn ymchwilio ac yn casglu gwybodaeth a hanesion yn ofalus o'u hardaloedd, a'u recordio ar Gryno Ddisgiau a fideo. Ers mis Hydref llynedd, mae arddangosfa o'r prosiect ar daith yn cefnogi cymunedau ledled Cymru ac yn denu diddordeb mawr yn lleol. Croesawyd yr arddangosfa i Ganolfan y Barcud Coch a bydd yn aros yno am dair wythnos cyn symud ymlaen i Niwbwrch ar Ynys Mon ar 3 Mai. Roedd aelodau'r gymuned leol, gan gynnwys I. O. Evans, prif goedwigwr cyntaf Mynydd Tywi, yn bresennol i agor yr archif yn swyddogol i'r cyhoedd. Mae'r archif yn cynnwys dros 32 o gyfweliadau, 135 o hen luniau a fideo pum munud yn cofnodi hanes coedwig Tywi gan ddangos faint o hanes, archeoleg a thraddodiadau'r ardal leol a gadwyd trwy gyfranogiad pobl leol yn ystod y camau o reolaeth coedwig. Cedwir hyn yng Nghanolfan y Barcud i ymwelwyr ei weld yn ystod misoedd yr haf a bydd yn symud i Lyfrgell Pontrhydfendigaid am y gaeaf. Hefyd gosodir copïau archif cyflawn o'r holl gymunedau a gymerodd ran yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ac Amgueddfa Bywyd Cymru yn Sain Ffagan i'w cadw yno ar gyfer y cenedlaethau i ddod. Yn cynnwys dros 400 o hen luniau a 120 o gyfweliadau gyda phobl rhwng 60 a 99 oed, bydd yn rhoi golwg gyfareddol ar amser pan ddechreuodd y Comisiwn Coedwigaeth blannu coedwigoedd newydd Cymru. Dywedodd Tom Jones, cyd-lynydd cymunedol ardal Coedwig Tywi, Ceredigion: "Bu'r prosiect yn ffordd ddymunol o ddefnyddio coedwigoedd a choedtiroedd y genedl fel adnoddau lleol a'r gobaith yw y bydd yn dod a chymunedau at ei gilydd. Mae cymaint o 'wybodaeth i'w ymchwilio a'i gasglu o hyd. Dyma brosiect delfrydol am i'n plant ysgol lleol symud yn ei flaen. "Bu'r disgwyl yn fawr yng Nghanolfan y Barcud Coch am yr arddangosfa a'r archif, a'n gobaith yw y bydd yn arwain at well ddealltwriaeth a mwynhad o dreftadaeth gyfareddol ein coedwigoedd lleol ac yn wir eu lle yn ein diwylliant. Bu'n werthfawr ac yn foddhaol i ddeffro atgofion pobl o'u coedtiroedd lleol a'u mwynhad ohonynt."
|