Mae Ann Gwynne yn aelod o Gymdeithas Edward Llwyd, cymdeithas sy'n ymddiddori yn natur a hanes, amgylchedd ac arferion ein gwlad. Un o gonglfeini'r gymdeithas yw'r teithiau cerdded, neu'r cyfarfodydd maes, a gynhelir bob dydd Sadwrn o'r flwyddyn, ag eithrio Awst.
Maent yn deithiau sy'n amrywio o gerdded yr arfordir neu'r bryniau, glannau'r afonydd neu rostir. Un peth sy'n sicr, mae 'na gwmnïaeth hyfryd, un peth arall, rydych yn sicr o ddysgu rhywbeth, naill ai enw Cymraeg rhyw flodyn neu goeden, neu ryw wybodaeth am adeilad neu eglwys berthnasol i'r daith.
Un peth arall, nid yw'r teithiau yn lladdfa! Mae'r cerdded yn hamddenol. Er y gall taith fod tua 7-8 milltir o hyd weithiau, mae bob amser cyfle i sgwrsio ac edrych ar bethau.
Cymraeg yw iaith y gymdeithas, ond mae bob amser groeso i unrhyw ddysgwr i ddod i ymarfer. Mae sawl dysgwr rhugl ymhlith yr aelodau. Os am wybodaeth bellach, cysylltwch ar 01974 298 995.
Dyma fraslun o un o'r teithiau, gan ddechrau gydag un gymharol leol, sef Pontrhydygroes. Yr arweinydd oedd John Williams.
Yn bersonol, roeddwn yn teimlo'r angen am dipyn o gerdded ar ôl bod yn India am dair wythnos, a threulio tipyn o'r amser ar fy mhen-ôl mewn awyren, trên a bws! Roedd yn ddiwrnod braf yn niwedd mis Mawrth ac yn weddol sych dan draed. Cyfarfu rhyw 18 o aelodau ger eglwys newydd yr Hafod, a dechrau cerdded ar hyd yr hewl, heibio'r neuadd neu'r ysgoldy ar y chwith, (gan sylwi ar fanylion ei sefydlu a'i hagor sydd ar faen yn y wal).
Wedyn, troi mewn i'r coed cyn Nant Crafangach, a dringo i fyny am dipyn cyn dyfod at y fan ble bu llyn mawr ar un adeg. Cronnwyd y llyn gan yr Arglwydd Newcastle pan fu'n byw yn yr Hafod, ac mae'r olion i'w gweld o hyd. Ymlaen wedyn, ac ymhen ychydig dod at olion Bwlch yr Oerfa, hen dy-hir gweddol ei faint yn ei dydd mae'n siŵr.
Wrth fynd ymlaen wedyn, edrychwn lawr ar fferm Cae'r Meirch, ac adroddodd John sawl stori am deulu John Edwards a arferai fyw yno, ac fel roedd ambell aelod o'r teulu yn medru rhagweld digwyddiadau trwy ddrychiolaethau! Cawsom sawl stori ddoniol! Cawsom ein cinio ar waelod Cyrn Bach, yn edrych lawr dros ffordd fawr Rhos y Gell, a John yn gallu enwi'r rhan fwyaf o lefydd oedd o'n blaenau. Cafodd yntau ei fagu yn yr ardal. Syndod bod cymaint o'r llefydd hyn, rhai ohonynt yn eithaf anghysbell, yn dal i fod.
Edrychant i gyd yn drwsiadus ac yn gymen, o bell, beth bynnag! Nid oes fawr o Gymry yno nawr, gwaetha'r modd. Ar ôl cinio, lawr i'r ffordd, troi i'r chwith ac ymlaen am ychydig ar hyd yr hewl, cyn troi mewn wrth ymyl Tŷ'nllidiart i'r rhosdir, ac i hen ffordd a arferai fod yn lwybyr claddu rhwng eglwysi Llantrisant a Llanfraith. Roedd yr olion i'w gweld yn glir, gyda darn o fanc ar hyd ei hochr mewn ambell le yn dal yn amlwg.
Ymlaen o'r rhosdir wedyn, heibio ffermdy Rhos y Rhiw, a dilyn ei hen ffordd lawr i'r ffordd fawr ger Pontrhydygroes. Hwn yw'r hen bentref gwreiddiol, cyn dyddiau'r bont, mae'n rhaid.
I fyny'r rhiw wedyn, tipyn o dynfa graddol, gan droi mewn i Goed yr Hafod ar y dde. Mae llawer o waith wedi ei wneud yn y coed yma, llawer o deneuo a chlirio, a braf oedd gweld y llwybrau. Roeddem wrth ymyl afon Ystwyth fan hyn, ond ymlaen yn syth i fyny drwy'r coed yr aethom, cyn dod nôl maes o law i'r maes parcio ger eglwys yr Hafod.
A dyma ddiwedd diwrnod pleserus iawn, gyda Dafydd Dafis, gyda llaw, sylfaenydd y gymdeithas, sydd bellach yn 80 oed, yn gosod y "pace" wrth frasgamu ymlaen! Roedd yn awyddus i fod adre mewn pryd i wylio'r rygbi ar y teledu - "Y Gweilch" y diwrnod hwnnw, ac nid gêm ryngwladol. Pan fydd un o'r rheiny ymlaen, mae'r "pace" yn gynt! Hysbyseb dda i'r Gymdeithas!