Os derbyn, rhaid rhoi hefyd. Rwyf innau wedi derbyn llawer o bleser yn ystod fy nwy flynedd o gerdded gyda Chymdeithas Edward Llwyd. Rwyf wedi gweld darnau o Gymru na welais o'r blaen, ac wedi profi cymdeithas pobl nad adnabûm o'r blaen. Daeth fy nhro innau i roi rhywbeth bach yn ôl, ac felly, ar Sadwrn crasboeth ddechrau fis Mehefin, arweiniais innau fy nhaith gyntaf, gan ddechrau ar bwys fy nghartref yng Nghefnbanadl! Nid oedd angen y car i fynd i'r daith hon!
Taith fy milltir sgwâr
Ymgasglodd rhyw 25 ar ochr y ffordd, ger fferm Trecoll, a'n cyrchfan gyntaf, trwy ganiatâd caredig Iwan Davies, Esgairhendy, perchennog y tir, oedd gweddillion y gaer bentir sydd uwchben Cwm Gwyddil. Nid oedd sôn am hon ar hen fapiau OS, na chofnod chwaith, dim ond dau ddarn bach o goed. Ond sylwodd A H A Hogg arni wrth deithio ar hyd Sarn Helen, ac fe wnaeth archwiliad ohoni, a chyhoeddi ei ddarganfyddiadau yng nghylchgrawn "Ceredigion" 1971. Mae sawl archwiliad arall wedi ei wneud ers hynny gan Henebion Cymru a Cadw, a chredaf bod rhywun o'r coleg yn Llambed yn gwneud astudiaeth ar hyn o bryd.
Bryngaer ydyw hon yn dyddio o ran olaf yr Oes Haearn, wedi ei chodi ar dipyn o bentir, ac yn cynnwys tair llinell o gloddiau amddiffynnol a ffosydd. Heddiw mae coed derw yn tyfu arnynt ond maent yn drawiadol serch hynny. Amddiffynnir tair ochr gan gymoedd bach serth, sef Cwm Gwyddil ar un ochr, cwm bach nant Tawelan i'r de, a nant arall ddi-enw i'r dwyrain.
Mae'n safle o bwysigrwydd cenedlaethol oherwydd natur trawiadol yr olion, a hefyd oherwydd y gobeithir am ragor o dystiolaeth oddi yno rhywbryd yn y dyfodol. Nid oes llawer o niwed amaethyddol wedi ei wneud i'r safle dros y canrifoedd, felly mae'r gobeithion fod nodweddion mewnol y gaer wedi eu cadw yn uchel.
Ar ôl cerdded o gwmpas y gaer, a cheisio ail-greu ei gorffennol, aethom ymlaen dros y caeau yn sylwi ar daldra coed derw Cwm Gwyddil, a dod allan i'r hewl ger Pencwm, ac wedyn ymlaen i gaeau Penrheol, a lawr y lon. I Benrheol (Mynachdy'r Graig yw'r hen enw arno, gyda Ilaw) y daethom fel teulu yn 1968 - Ieuan a'i deulu sydd yno 'nawr. 'Roeddwn wedi bwriadu dilyn y Ilwybr sy'n arwain o Benrheol i Rydypandy, and gan fod tipyn o dyfiant a weiar ar ei hyd, troesom at Cefngwyddil, trwy'r clôs ac ar hyd y lon, ac felly lawr y rhiw i Rydypandy, gan oedi i edrych ar yr alpaca yn pori yn Nhy-croes. Mae Rhydypandy yn Ilecyn bach hyfryd, a rhaid oedd oedi eto wrth groesi'r bont dros yr afon Aeron, a sylwi ar hen adeiladau gwyn-galchog Y Felin, a meddwl am arwyddocad yr enwau.
Beth bynnag, i fyny'r rhiw serth wedyn a throi mewn wrth Tower Hill i ddilyn yr hen lwybr postmon drwy'r caeau; cael ein cinio yn môn clawdd a sŵn yr Aeron islaw; heibio Maesrhug ac allan i hewl Aberaeron; lawr y rhiw i Bontgoy, a sawl un yn oedi dros y bont hon eto - llecyn pert arall - lan y rhiw, troi mewn i gaeau Llwynbwch, ac wedyn nôl i'n man cychwyn.
Ond nid oedd y daith wedi gorffen. Aethom fyny'r llwybr heibio ffermdy Trecoll, i fyny i'r caeau ucha, i edrych draw ar Gastell Flemish. Mae golygfa dda o'r gaer o'r fan hyn. Mae'r clawdd amddiffynnol yn 6' o daldra mewn mannau, a gwelir olion ffos a gwrth-lethr, ac mae iddo un mynedfa syml ar yr ochr ogledd-ddwyreiniol. Bu'r gaer yn rhan o stâd a roddwyd i fynachlog Ystrad Fflur gan yr Arglwydd Rhys yn 1184. Ymwelwyd â'r safle am y tro cyntaf nôl yn 1951, ar ô1 i aredig ddod â cherrig llosgedig i'r golwg, ond nid oes olion unrhyw aneddau o fewn y cylch mewnol.
Beth bynnag, roedd yn braf edrych draw arni, a gwerthfawrogwyd y golygfeydd tua Chors Caron a'r mynyddoedd tu ô1 i Dregaron hefyd ar ddiwrnod mor glir a braf. Aethom lawr i un o gaeau Cefnbanadl wedyn, llecyn brwynog, i weld pa flodau oedd yno, ond oherwydd y gwanwyn hwyr, 'roedd braidd yn gynnar i hyn, ond gwelsom robin garpiog a bumbys y gors ynghanol y brwyn serch hynny.
Felly nôl â ni, heibio'r tŷ, a daeth rhai o'r cerddwyr i gadw cwmni i fi dros gwpaned o de a chacen yn yr ardd, a Dafydd Dafis, fel sylfeinydd y Gymdeithas, yn ei le priodol ar ben y bwrdd!
Diolch iddo am sefydlu'r Gymdeithas, a rhoi cymaint o bleser i gymaint o bobol. Diolch i'm cymdogion am adael i ni gerdded eu tir. Gwerthfawrogwyd yn fawr gan y cerddwyr.