Dadorchuddiwyd Murlun y Bont gan y canwr Tecwyn Ifan, cyn-weinidog yn y pentre, nos Wener, 23 Mai.
Wedi'r seremoni wrth dalcen Butter Hall (cartref Gwenllian Beynon, arlunydd y murlun) bu dathiiad yn Neuadd y Pentre a oedd yn cynnwys eitemau gan y plant a rhagor o straeon gan Charles Arch a Lyn Ebenezer.
Datblygodd Murlun y Bont o weithgaredd Gwyl y Cyfarwydd, prosiect a sefydlwyd dair mlynedd yn of i ddathlu rol y storiwr ym mywyd a diwylliant ein broydd Cymraeg. Cafwyd cefnogaeth ariannol gan gynllun Ysbryd y Mwynwyr, Cyngor Sir Ceredigion.
Mae'r plant wedi bod yn brysur lawn ers misoedd yn mynd drwy'r broses o greu'rmurlun deniadol a'welir ar ochr tÅ· Gwenllian Beynon. Maent wedi mwynhau gwrando ar straeon a hanesion diddorol yr ardal gan Charles Arch a Lyn Ebenezer, ac yna edrych ar hen luniau gyda Ian Hughes cyn cyd-weithio ac ail adrodd y cyfan mewn lluniau gyda Gwenllian Beynon er mwyn creu'r murlun hyfryd.
Bu, beirniad o'r Treftadaeth allan yn gweld y murlun ac yn holi'r plant i adrodd ystyr y iluniau. Cafwyd,bore braf yn ei chwmni wrth i'r plant hynaf actio rhai o'r storiau.
Mae'r murlun wedi denu Ilawer o sylw wrth i nifer o'r plant gael eu cyfweld ar y ragien deledu Ffeil, ac ar y radio gyda John Meredith. Yn ogystal bu'r ysgol gyfan yn perfformio yn noson dadorchuddio'r murlun o flaen tyrfa fawr o bobl.
|