Ymhle bu dechrau'r daith? Tynewydd, Ffair Rhos. Beth yw'r digwyddiad cyntaf a gofiwch? Mynd i'r gweithdy gyda fy nhad oedd yn saer coed yn Ffair Rhos. Ar wahân i'ch rhieni, pwy neu beth a ddylanwadodd fwyaf arnoch? Roy Stephens am iddo agor fy llygaid i brydferthwch y gynghanedd. Pe byddai i chi gael dewis dawn, pa ddawn y carech fod yn feddiannol arni? Y ddawn i ganu'r piano. Beth sy'n achosi mwyaf o ofid i chi? Mewnlifiad i gefn gwlad. Oes yna ddarn o farddoniaeth y byddech yn falch o deimlo mai chwi a'i cyfansoddodd? Awdl Y Cynhaeaf gan Dic Jones. Pwy yw y person yr ydych yn ei edmygu fwyaf? Tyrone O'Sullivan am iddo gadw Glofa'r Twr ar agor a chadw gwaith yn yr ardal yn erbyn gwrthwynebiad y llywodraeth. Beth sydd wedi rhoi fwyaf o bleser i chi? Crwydro ardal fy mebyd. Beth sy'n eich gwylltio fwyaf? Dylanwad cyffuriau a'r effaith mae'n gael ar gymunedau cefn gwlad. Pe byddai i un o'r Tylwyth Teg gynnig gwireddu tri dymuniad o'ch eiddo, beth fyddent? Cael byw yn iach am weddill fy oes. Gweld adfywiad yr iaith Gymraeg yn ei chadarnleoedd. Oes yna ddarn o lenyddiaeth y byddech yn falch o deimlo mai chwi a'i cyfansoddodd? Dim un darn yn benodol ond mae nofelau Daniel Owen yn apelio'n gryf ataf. Pe byddai i chi ennill y loteri, sut byddech yn gwario yr arian? Yn ddoeth.... Pa fath o wyliau y byddwch yn ei fwynhau fwyaf? Gwyliau crwydrol yn ymweld â gwledydd tramor gan flasu diwylliannau amrywiol ac arferion traddodiadol y brodorion. Pa nodwedd mewn person yr ydych yn ei gasau fwyaf? Person dauwynebog. Oes yna ddywediad neu ddihareb a hoffwch yn fwy na'r un arall? Mae'r awr dywyllaf cyn toriad dydd. A oes gennych eich hoff daith? Y daith adref ar ôl gwyliau. Pa newidiadau carech eu gweld yn eich papur bro? Nid oes angen newid arno ond byddai colofn arddio yn gaffaeliad (?)
|