Mae 1954 yn ddyddiad arwyddocaol i un teulu arbennig yn ardal y Barcud. Dyma'r flwyddyn y dechreuwyd llunio Gwlad Disney a'r flwyddyn y cyflawnwyd y trawsblaniad llwyddiannus cyntaf o aren, ond i Tom ac Alice Bailey yr oedd antur wahanol ar fin dechrau. Tra byddai ambell deulu heddiw yn meddwl ddwywaith cyn diwreiddio eu teulu o ddau o blant, bu i Mr a Mrs Bailey gyda theulu o wyth benderfynu cefnu ar Biddulph Moor yn Swydd Stafford a dechrau bywyd newydd yng Nghymru. Yr ardal a ddewisiwyd oedd Pontrhydfendigaid a'r fferm oedd Hafodrhyd. Wedi prynu'r fferm yn gynharach yn y flwyddyn bu i'r ddau hynaf o'r plant Eric ac Edith a oedd yn dal yn eu harddegau symud i lawr yn gynnnar yn yr Hydref i baratoi'r lle gogyfer â dyfodiad y gweddill o'r teulu a gyrhaeddodd ar Ragfyr 18fed, wythnos cyn y Nadolig. Ni chafwyd cyfle i hysbysu Sion Corn o'r newid cyfeiriad a bu raid i Mrs Bailey gerdded y tair milltir i Bontrhydfendigaid i dŷ Gwen Ebenezer ac yn ôl i brynu anrhegion ar gyfer aelodau ieuangaf y teulu. Ym 1958 symudodd y teulu i Tymawr, Swyddffynnon, fferm oedd yn fwy o ran maint ac a fyddai yn cynnig gwell bywioliaeth iddynt. O ran galwedigaeth ffermwr oedd Tom Bailey a phorthmon gwartheg ac mae'n deg i ddweud iddo fod yn digon teg yn ei ymwneud ac wrth ddelio â'i gwsmeriaid. Gwyddai am yr amser anodd yr oedd rhai ohonynt yn mynd drwyddo a thystia ami deulu i'w dyled iddo. Gwyddom fod tu cefn i bob person llwyddiannus wraig dda. Fel mamau ei chyfnod, cyn dyddiau dyfeisiadau modern y ceginau cyfleus a'r prydau parod gweithiodd Alice Bailey yn ddiarbed i ofalu am ei theulu a sieryd y ffaith y cyfeirid ati bob amser fel Mrs Bailey gyfrolau am y parch a deimlid tuag ati yn yr ardal. Er fod Mr a Mrs Bailey bellach wedi ein gadael deil eu wyth plentyn i fyw yn yr ardal. Mynychodd y mwyafrif o'r pymtheg wŷr, sydd â'r gymraeg yn loyw ar eu min, ysgol Swyddffynnon. Teimla'r plant yn ddyledus iawn i'w rhieni am wneud y penderfyniad i ddod i fyw i'r rhan hon o Gymru ac edmygant eu hysbryd anturus a'u gobaith yw eu bod bob un ohonynt yn ffordd ei hun wedi cyfrannu i'r ardal gymaint ac a gawsant hwy ganddi hi.
|