91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Barcud
Capel Blaenpennal Hanes Eisteddfod Blaenpennal
Gorffennaf 2008
Eirian Jones yn cofio hynt a helynt Eisteddfod Blaenpennal.

Mae cychwyn Eisteddfod Blaenpennal yn dyddio'n ôl i ddechrau'r ugeinfed ganrif a gwelir rhaglenni ar gyfer eisteddfodau 1910, 1935, 1963 a 1965 yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Eisteddfod boblogaidd tu hwnt oedd un Blaenpennal a gynhelid oddeutu'r Nadolig, yng Nghapel Blaenpennal, gan amlaf ar nos Nadolig, oni bai i ddydd Nadolig gwympo ar y Sul, fel y gwnaeth yn 1910. Parhaodd yr eisteddfod hyd 1966 ond erbyn y 1960au eisteddfod yn niwedd Tachwedd ydoedd, gan ei bod hi'n anodd denu beirniaid a chystadleuwyr yn ystod cyfnod y Nadolig erbyn hynny. Hwyrach mae'r teledu oedd ar fai am hyn ac yr oedd yn arwydd o ddirywiad yr eisteddfod ac o'r bywyd cymdeithasol yn ehangach.

I'r rhai sy'n cofio mynychu'r eisteddfod, cofir am Gapel Blaenpennal yn orlawn, gyda chystadlu da a gwobrau oedd yn 'ateb yr amser'. Mae Herbert Morris o Flaenpennal (golygydd presennol papur bro Y Barcud) yn cofio'r eisteddfod yn y 1940au a'r 1950au:

I'r rhai a oedd yn ymwneud â hi byddai yn dechrau yn gynnar yn y prynhawn, rhaid byddai sicrhau cyflenwad o ddŵr, mewn churns wrth gwrs, a thanwydd i ferwi'r ffowntan gogyfer â'r ymborth a ddarperid am 'bris rhesymol'. Rhaid byddai cael cyflenwad o lampau i oleuo'r festri a'r grisiau...Erbyn wyth o'r gloch byddai'r capel yn orlawn, meinciau wedi eu gosod ar rodfeydd y capel, rhai eisteddfodwyr mwy brwdfrydig na'i gilydd wedi dringo i eistedd ar fyrddau'r ffenestri, eraill ar risiau'r pulpud a'r welydd yn rhedeg o chwys.

Edrychwn yn awr yn fanylach ar raglenni Eisteddfod Blaenpennal o'r dechrau (tua 1910) a gweld fel y datblygodd ac fel y daeth i'w diwedd yng nghanol y 1960au. Ar ddydd Llun, 26 Rhagfyr, y cynhaliwyd yr eisteddfod yn 1910. Yr arweinydd oedd G. T. Lewis (prifathro Ysgol Uwchradd Tregaron) a llywydd y dydd oedd Mrs Annie Ellis, Cwrt-mawr, Llangeitho (sef gweddw T. E. Ellis, yr aelod seneddol adnabyddus). Y beirniad canu oedd David de Lloyd (o staff Adran Gerdd y Brifysgol yn Aberystwyth) gyda beirniad yr adrodd a chyfansoddi yn dod o Gwrt-mawr hefyd, J. H. Davies MA, a'r beirniad celf, B. Evans o Ben-uwch. Mae edrych ar y rhestr hon o bwysigion yr eisteddfod yn awgrymu ei phwysigrwydd ymysg eisteddfodau Ceredigion.

Dosbarthwyd y cystadlaethau yn dair rhan: cerddoriaeth, amrywiaeth a chelfyddyd. Dyma flas o rai ohonynt:

Côr heb fod dan 20 na thros 25 o gantorion 'Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn'; gwobr tair punt
Pedwarawd 'Pa beth a wnaf i gael byw'; gwobr chwe swllt
Unawd Tenor 'Y Cardotyn'; gwobr tri swllt
Unawd Soprano 'O na fyddai'n haf o hyd'; gwobr tri swllt
Unawd i Fechgyn dan 15eg oed 'Awn ymlaen'; gwobr swllt a chwech, swllt i'r ail
Unawd i Blant dan 12eg oed 'Awn ninnau i'r Nefoedd'; gwobr swllt a chwech, swllt i'r ail
Pryddest heb fod dros 100 o linellau 'Gorphwysfa'; gwobr deg swllt
Englyn i'r 'Gwynt'; gwobr dau swllt
Telyneg i'r 'Ardd'; gwobr pedwar swllt
Adroddiad 'Anerchiad Glyndŵr'; gwobr pum swllt
Adroddiad i rai dan 15eg oed 'Iesu a wylodd'; gwobr dau swllt, swllt i'r ail
Am y Fasged Wiail orau; gwobr tri swllt
Am y Pastwn Bugail Collen orau; gwobr swllt a chwech
Am y ddwy Lwy Bren orau; gwobr dau swllt
Am y pâr Hosanau Ribs Gwryw, Du'r Ddafad; gwobr dau swllt a chwech.

Mae'r rhestr hon yn dangos yn glir ymroddiad trigolion Blaenpennal i'w heisteddfod. Yn gyntaf, roedd y gwobrau a gynigid yn hael, er i bris mynediad o swllt gael ei godi i gyfarfod traul y gwobrau. Yn ail, disgwylid gweld o leiaf dri chôr o dros ugain o leisiau yn cystadlu (gostyngid y wobr pe na bai tri yn cystadlu). Cystadleuaeth uchelgeisiol arall oedd y bryddest. Eto disgwylid yn agos i gant o linellau teilwng ar gyfer y wobr hon.

Yn anffodus, nid yw cynhyrchion cystadleuaeth 1910 ar gael heddiw, ond ceir adroddiad o'r eisteddfod yn yr Aberystwyth Chronicle and West Wales Advertiser, 5 Ionawr 1911, t.8. Daw'r mwyafrif o'r buddugwyr o Flaenpennal neu'r ardaloedd cyfagos megis Bronnant, Llangeitho, Bethel, Llwynpiod a Llangwyryfon. Serch hyn, bardd ac argraffydd adnabyddus o Aberdâr, Ap Hefin (Henry Lloyd, 1870-1946) a orfu ar gystadleuaeth yr englyn a bardd poblogaidd o Gwrtnewydd, sef Cledyn (David Rees Davies, 1875-1964, ysgolfeistr Ysgol Cofadail, Trefenter a golygydd Forty Welsh Traditional Tunes) a enillodd cystadleuaeth y delyneg, sy'n profi fod gan Eisteddfod Blaenpennal enw da ymhell o'r Mynydd Bach.

Daethpwyd o hyd i gerdd a fu'n gyd-fudddugol (gyda Chledyn) yng nghystadleuaeth y bryddest yn 1911. Testun y bryddest y flwyddyn honno oedd 'Ymson uwch Aeron', a'r beirniad oedd R. Garn Adams. Bardd o Flaencaron, Richard 'Isgarn' Davies (1887-1947) oedd yn gyd-fuddugol dan y ffugenw 'Penymynydd'. Isgarn oedd athro barddol E. Prosser Rhys.

Bugeiliai ar fynydd Tregaron gan farddoni yn ei amser hamdden. Cyhoeddwyd casgliad o'i waith yn 1949 ar ôl ei farwolaeth (ni chyhoeddwyd ei gerdd gyd-fuddugol yn Eisteddfod Blaenpennal yn y casgliad hwnnw). Er mwyn cael syniad o safon cystadleuaeth y bryddest tua'r adeg honno, dyma ran gyntaf cerdd fuddugol 'Penymynydd':

Ond yn y dyffryn dwfn a chul islaw
Arafa, - llifa'n esmwyth ar ei hynt.
A thry cerddoriaeth fwyn ei mebyd draw
Yn fud fel breuddwyd oer y duwiau gynt.
Nid oes gyfrinach ar ei wefus ond
I'r meinglust glyw y seiniau mwyaf gwan.
Er nad oes alaw ganddi, y mae llond
Ei chalon o dosturi ym mhob man.
Dymunwn innau fel yr Aeron lân
Heb lwydio'n llaid y byd, gyflawnu'm gwaith:
A chroesi bryniau ing a dim ond cân
I'm Crëwr yn fy nghalon ar fy nhaith...

Hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif oedd oes aur yr eisteddfod yn ardal y Mynydd Bach ac ni threchodd dyfodiad y radio ei grym. Newidiodd a chyfaddasodd yr eisteddfod serch hynny, a gwelir enghreifftiau o hyn yn rhaglenni Eisteddfod Blaenpennal o gyfnod y 1930au. Daeth cerddoriaeth yn fwyfwy pwysig yn yr eisteddfod, gyda phymtheg allan o chwech ar hugain o'r cystadlaethau yn ymwneud â chanu yn 1935. Ceid cystadleuaeth i gorau meibion, heb fod o dan ugain o leisiau, am wobr o dair punt (yr un swm â 1910); parti cymysg heb fod o dan 16 mewn nifer, am wobr o gini, a hefyd cystadleuaeth i barti merched yn canu 'Cân y Crud' am wobr o ddeuddeg swllt. Ynghyd â hyn cafwyd cystadleuaeth parti unllais, deuawd, unawd bariton, unawd tenor, unawd soprano, unawd heb ennill pum swllt o'r blaen, canu penillion, hen dôn, unawd dan 16 oed, unawd dan 12 oed, unawd dan 9 oed ac unawd gyda'r Crwth Genau. Yn wir yr oedd cerddoriaeth wedi meddiannu Eisteddfod Blaenpennal ar draul adrodd penillion, cyfansoddi barddoniaeth a gwneuthur celfyddydwaith. Efallai fod sylwadau Herbert Morris yn esbonio paham:

[Yr] oedd pob aelwyd yn yr ardal yn aelwyd gerddorol, canlyniad yr hyfforddi a fu gan Richard Herbert, Lledrod ac yn ddiweddarach David Lewis Williams, Tyncelyn. Prin fod yna ardal a feddai gymaint o gantorion ag a oedd ym Mlaenpennal yr adeg honno a'r rheiny yn lleiswyr cyfoethog ac ni fyddai prinder unawdwyr na phartïon yn yr eisteddfod. Y rhai a elwir erbyn hyn yn hen ganiadau oedd y darnau a osodid ar gyfer yr unawdwyr, 'Nant y Mynydd', 'Y Blodau Ger y Drws' i'r soprano. I'r bariton byddai 'Y Marchog' neu'r 'Dymestl' a'r tenor 'Llwybr yr Wyddfa', 'Gwlad y Delyn' neu 'Wyt Ti'n Cofio'r Lloer yn Codi'.

Ni chafwyd cystadlaethau celf o gwbl yn 1935 ond erbyn 1938 adferwyd y traddodiad gan ofyn am wniadwaith fel Afternoon Tea Cloth, Gents' Pullover a Pair of Gents' Socks. Gwelwyd newid mawr yng nghystadlaethau barddoniaeth hefyd. Yn 1935, cafwyd cystadleuaeth englyn i 'Teify Polish', y wobr o bum swllt yn rhoddedig gan Bees Products Ltd., Tregaron. Erbyn 1938, englyn i 'Mwgwd' a ofynnwyd amdano, gyda'r wobr erbyn hyn ond yn swllt a chwech.

Cystadleuaeth 10 yn eisteddfod 1935 oedd llythyr oddi wrth fab wedi ymadael â'i hen gariad yn gofyn am ail-gychwyn eu perthynas, gyda gwobr o ddau swllt a chwe cheiniog yn rhoddedig gan D. T. Jones, Ysw., Waunclawdd. Daeth un o gynhyrchion y gystadleuaeth hon i law a dyma ddyfynnu ychydig ohoni:

Annwyl Jane, Mae yr hen gweryl yn hysbys i chwi. Gwyddoch yr achos i fi droi fy nghefn arnoch. Ond yn ostyngedig gofynnaf am ail gychwyn. Nis gallaf beidio llai na choffáu mae arnoch chwi oedd y bai i beri i fi gilio. Diamau gennyf eich bod yn cofio am y noswaith buom yn gwneud program ein dyfodol yn hen gadair dderw eich tad, pan y gwnaethoch addunedu y byddech yn bur i mi...

Sylw beirniad y gystadleuaeth, S. M. Powell (prifathro Ysgol Uwchradd Tregaron yn ddiweddarach) oedd 'Reit dda. Hwyrach bod sôn am y beirniad yn tynnu oddi wrth naturioldeb y llythyr'!

Mae'n syndod fel y cwympodd gwerth y gwobrau o fewn tair blynedd o 1935 i 1938. Yn eisteddfod 1935, noddwyd cystadlaethau gan drigolion lleol a thrigolion y tu hwnt i gyffiniau'r ardal. Er enghraifft, E. D. Jones o Lundain a roddodd gini o wobr i'r Parti Cymysg yn yr eisteddfod honno. Nid oes dim sôn am unrhyw noddi o'r fath erbyn 1938. Efallai fod y rhagolygon am ryfel byd arall wedi gwneud i'r pwyllgor edrych yn llygad pob ceiniog. Ni roddwyd yr un amlygrwydd i gystadlaethau barddoniaeth a rhyddiaith chwaith yn y 1930au. Un esboniad am hyn efallai, heblaw am y diddordeb cerddorol mawr yn yr ardal, yw'r diffyg diddordeb ymysg beirdd a llenorion yn y 1920au. Os oedd cyn lleied â dau neu dri yn cystadlu ar y bryddest er enghraifft, hwyrach iddynt benderfynu nad oedd pwrpas cynnal cystadleuaeth o'r fath eto. Y cystadlaethau a oroesodd oedd yr englyn a gorffen limrig, y ddau yn hynod o boblogaidd hyd yn oed heddiw ac yn denu rhai nad ydynt efallai yn eu hystyried eu hunain yn wir feirdd. Gan symud ymlaen i'r 1940au cawn atgofion Herbert Morris am Eisteddfod BLAENPENNAL YR ADEG HONNO:

Er mai cof plentyn sydd gennyf am y pedwardegau myn ambell berfformiad o'r cyfnod aros yn y cof. Evan Williams, Penuwch, yr unig fachgen ymhlith pump neu chwe chystadleuydd yn adrodd 'Dau Air' (Wil Ifan) ac yn fuddugol yn y gystadleuaeth i rai o dan 18 neu 21 oed. Idris Davies, Llwynpiod ar yr Her adroddiad, fe'i gwelaf yn glir a Dai Davies, Pontargamddwr yn adrodd 'Matilda' yn y gystadleuaeth i adroddwyr digrif ac ar gais y merched, a fu yn gweini wrth y byrddau, a thrwy hynny na chlywsent y gystadleuaeth, - yn dod yn ôl ar ddiwedd y nos i adrodd iddynt 'Jim y mrawd'. David Dan Williams, Tŷ Newydd eto, y pereiddiaf o'r tenoriaid yn swyno y gynulleidfa gyda'i gyflwyniad o'r gân 'O'r niwl i'r Nef'... Parhaodd yr eisteddfod yn llwyddiannus yn ystod y pumdegau, ond erbyn y degawd hwnnw, gwelwyd y niferoedd a oedd yn fodlon troi allan adeg y Nadolig ar gyfer yr eisteddfod yn lleihau. Er mwyn cael beirniaid o safon a digon o gystadleuwyr, penderfynwyd symud dyddiad yr eisteddfod i ddiwedd mis Tachwedd, cyn i bwysau tymor y Nadolig ddechrau. Eisteddfod nos Sadwrn ydoedd mwyach a theg yw cymharu cystadlaethau a thestunau Eisteddfod 1963 (a oedd o fewn tair blynedd i'r eisteddfod olaf un) â rhai 1910.

Fel yn 1910, daliai'r eisteddfod i ddenu llywydd a beirniaid amlwg. Deuai llywydd Eisteddfod 1963, Tommy Morgan Ysw., o Lundain ac ymysg y beirniaid yr oedd yr Athro D. Luther Thomas (Arweinydd Côr Sanclêr, Caerfyrddin) yn beirniadu'r adran gerdd. Gan gofio dylanwad cerddoriaeth ar yr eisteddfod yn y gorffennol, syndod yw gweld llai o bwyslais erbyn 1963 ar y canu, gyda'r cystadlaethau canu yn uchafbwynt ar ddiwedd y noson. Mae'r 'cwymp' hwn yn y canu yn cael ei adlewyrchu yng nghystadleuaeth olaf y noson, y brif gystadleuaeth, sef Parti heb fod dan 12 mewn nifer i ganu 'Newyddion Da' (Haydn Morris). Nid oedd dosbarthiadau nos cerddoriaeth Ysgol Tanygarreg ond yn drem ar gof yr ardalwyr erbyn hyn, gyda diddanwch fel mynychu'r dafarn, er enghraifft, yn y pentrefi cyfagos, yn denu ardalwyr ifainc Blaenpennal. Yr oedd llai o barodrwydd bellach i dreulio noson bob wythnos yn ymarfer canu. A dim ond pum punt oedd gwobr y gystadleuaeth i Barti heb fod dan 12 mewn nifer yn 1963 o'i chymharu â thair punt yn wobr i'r brif gystadleuaeth yn 1910. Efallai i'r diboblogi yn yr ardal ddechrau cael effaith a bod niferoedd Cymry Llundain cyfoethog yn lleihau.

Gwelwyd rhoddi mwy o gwpanau, tarianau a medalau yn wobrau yn hytrach nag arian yn Eisteddfod 1963. Roedd hyn o ganlyniad i bwysau oddi wrth eisteddfodwyr eraill yn y cylch; erbyn y 1960au roeddynt am weld rhywbeth diriaethol am eu hymdrech, i'w arddangos ar ddresel hwyrach. Efallai fod hyn hefyd yn adlewyrchu mwy o lewyrch ariannol, hynny yw, nid oedd angen yr arian. Mae'n debyg fod y gwobrau ariannol wedi mynd yn rhy fach ac yr oedd yn haws ac yn rhatach cael noddwyr i roddi tarian. Yn yr eisteddfod hon, cafwyd pedair adran, chwe chystadleuaeth adrodd, pum llenyddiaeth, tair canu piano a phedwar ar ddeg yn yr adran ganu. Ceid ychydig yn fwy o gystadlaethau llenyddiaeth yn 1963 (pump o'u cymharu â phedair yn 1910). Nid atgyfodwyd cystadleuaeth y bryddest er hynny. Dyma gystadlaethau llenyddol 1963:

Traethawd i rai o dan 18 oed 'Teledu'; gwobr: saith swllt a chwech
Telyneg'Oedfa'r Bore'; gwobr: saith swllt a chwech
Englyn 'Ffenestr'; gwobr: pum swllt
Brawddeg 'C-Y-M-Y-D-O-G'; gwobr: pum swllt

LIMRIG:

Oes ryfedd yw'r oes yn ddiame',
Oes sputnig a'i hedfan i'r gwagle;
Gofynnwn yn syn
Be ddaw wedi hyn

Diddorol eto yw cymharu'r gwobrau. Am draethawd yn 1910, rhoddwyd gwobr o ddeg swllt, ond saith swllt a chwe cheiniog yn 1963. Wrth ddarllen adroddiadau papur newydd o'r eisteddfod hon yn 1963 (Aberystwyth Chronicle and West Wales Advertiser, 19 Rhagfyr 1963, t.7) ac eisteddfod 1964 (Aberystwyth Chronicle and West Wales Advertiser, 10 Rhagfyr 1964, t.4), sylweddolir pa mor bwysig oedd Eisteddfod Blaenpennal (hyd yn oed yn y 1960au) i gystadleuwyr o bob rhan o Gymru. Deuai'r buddugwyr nid yn unig o'r cylchoedd cyfagos, ond yn ogystal o Randirmwyn, Trimsaran, Felin-foel, Crwbin, Talgarreg a Chapel Bangor. Nid buddugwyr y cystadlaethau llenyddol mo'r rhain chwaith, ond enillwyr ar y canu a'r adrodd. Roedd ennill ym Mlaenpennal, hyd yn oed yn nyddiau olaf yr eisteddfod, yn werth chweil.

Gallwn gasglu mai'r eisteddfod a gynhaliwyd ar nos Sadwrn, 27 Tachwedd 1965, oedd yr olaf ond un ym Mlaenpennal. Dilynwyd ffurf gŵyl 1963, ond ni chafwyd yr un gystadleuaeth i barti o leisiau gyda chystadleuaeth olaf y noson yn ddeuawd emyn o hunanddewisid. Dengys hyn yn glir fel y syrthiodd y gefnogaeth i'r eisteddfod ac o ganlyniad bwrw hoelen ddinistriol yn ei harch. Yn wir hunanddewisid oedd y mwyafrif o'r cystadlaethau, yn dangos awydd y pwyllgor i weld unrhyw un yn troi i mewn i gystadlu. Nid felly'r cystadlaethau llenyddol. Ceid pedair: Telyneg i 'Cymorth Cartref', Englyn i 'Peiriant Golchi Llestri' (buddugol: D. M. T. Richards, Llundain; gweler adroddiad yn y Cambrian News, 17 Rhagfyr 1965, t.3) a Brawddeg a Limrig. Mae testunau'r delyneg a'r englyn yn dra gwahanol i'r arfer ac yn dangos gwreiddioldeb ar ran y pwyllgor.

Adrodda'r Cambrian News, 23 Rhagfyr 1966, t.4, am eisteddfod olaf Blaenpennal ar nos Sadwrn, 3 Rhagfyr 1966. Deuai'r llywydd, Miss Sally Williams o Lundain, ond yn anffodus, methodd â bod yn bresennol. Y beirniaid oedd Mrs Nia Lloyd Jones o Lanbedr Pont Steffan a Vernon Jones, Bow Street. Enillwyd cystadleuaeth y frawddeg gan fy mam-gu, Mrs Bessie Jones. Fy nghyn-brifathrawes ysgol gynradd, y diweddar Mrs Megan Creunant Davies, a orfu ar y limrig.

Hon oedd yr eisteddfod olaf ym Mlaenpennal. O ganlyniad i'r teledu, rhwyddineb teithio i ganolfannau mwy fel Tregaron, anhawster cael beirniaid, cystadleuwyr a noddwyr, diffoddwyd y golau ar draddodiad a fu yn nyddiau ei anterth yn brofiad bythgofiadwy i'r rhai a fu yno. Mewn ffordd, diwedd yr eisteddfod oedd yr arwydd mawr cyntaf fod y gymdeithas ym Mlaenpennal yn dirywio, ac o fewn pymtheg mlynedd, bu i'r ysgol a'r co-op gau yn yr ardal. I'r rhai sy'n cofio pwysigrwydd yr eisteddfod ym Mlaenpennal, mae'n arbennig o anodd:

Pa fath o Nadolig ydym am ei gael eleni? 'Run y daethom yn gyfarwydd ag ef bellach mae'n debyg, gloddesta a bodloni ar yr arlwy a ddarperir inni gan y sgrin fach. Tipyn llai llesol i gorff ac enaid na'r arlwy a baratoid inni gan y Nadolig y blynyddoedd a fu [sef eisteddfod Nadolig Blaenpennal.] Cyn rhoi clo ar y cystadlu ym Mlaenpennal, rhaid cofnodi hefyd bod cwrdd cystadleuol yn cael ei gynnal yng Nghapel Blaenpennal ym mis Mehefin. Hyd y gellir casglu, cynhaliwyd y rhain yng nghyfnod anterth aelodaeth y capel, sef y 1920au a'r 1930au. Ni lwyddwyd i ddod o hyd i unrhyw wybodaeth amdanynt, ond gellir tybio y byddai'r cyrddau hyn wedi dilyn yr un patrwm â chyrddau cystadlu Capel Blaenafon a drafodwyd ynghynt."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý