Diolch i Vincent Evans, Stag's Head am fenthyg y llun uchod, llun sy'n dwyn atgofion lu yn ôl inni sy'n cofio am ddyddiau euraid ffatri laeth Pont Llanio ac am rai o'r cymeriadau a weithiai yno. Dyna'r dyddiau pryd byddai 'stand laeth' ar ben lôn pob fferm ymron gyda fflyd o lorïau y Bwrdd Marchnata Llaeth yn casglu'r churns o bob cwr o ogledd y sir. Daeth tro ar fyd yn sgil yr ymuno â'r Farchnad Gyffredin. Diddymwyd y Bwrdd a dychwelwyd at y farchnad rydd agored a chollwyd y sicrwydd y bu'r amaethwyr yn ei fwynhau ers blynyddoedd. Heddiw mae cwynion y rhai sy'n parhau i werthu llaeth am y pris isel a dderbyniant yn rhai digon cyfiawn. Caewyd y ffatri yn y 60au ac fe'i gadawyd ar drugaredd yr elfennau. Heddiw mae'r distawrwydd sydd o gylch y fan yn llethol, yn fwy felly i'r rhai sy'n cofio prysurdeb y dyddiau gynt pan oedd yr orsaf hefyd yn fan digon prysur gyda'r glo a'r bwydydd anifeiliaid fyddai'n dod i mewn i'w cario allan ar loriau Peter Davies a'i Fab. Gyda chau'r ffatri, collodd ardal a phentref ei phrif gynhaliwr ac fel y digwydd mor aml chwalwyd i raddau helaeth y gymdeithas a fodlonai ymhlith y gweithwyr.
|