Fel gwerthfawrogiad o'i gwasanaeth cynhaliwyd te parti yn y festri pryd y cyflwynodd Y Parch Mima Morse benillion pwrpasol iddynt ac hefyd cyflwynodd y gweinidog Y Parch Roger E. Humphreys docyn anrheg gardd iddynt ar ran yr aelodau. Eu dymuniad yw prynu rhosynnau i'w plannu yng ngardd ei cartref newydd yn Llanrhystud i gofio am yr amser hapus a dreuliwyd yn Llwynpiod. Wrth ymateb diolchodd Mr. Taylor am bob caredigrwydd a'r cyfeillgarwch a ddangoswyd iddynt tra'n byw yn y ty Capel. Cyfnod hapus iawn yn eu bywyd, ond gan eu bod bellach mewn gwth o oedran rhaid oedd rhoi fyny y gofalon. Dymunir iddynt bob hapusrwydd a iechyd yn eu cartref newydd.
|