Canlyniadau llawn a lluniau o Ŵyl Cerdd Dant 2007 Fel Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Gŵyl Cerdd Dant Ystrad Fflur a'r Fro, mae'n ddyletswydd arnaf i ddiolch o galon i bawb a gynorthwyodd mewn unrhyw fodd i sicrhau llwyddiant y diwrnod ar Ddydd Sadwrn 10fed o Dachwedd.
Cafwyd gŵyl i'w chofio ym Mhafiliwn y Bont, a gwerthfawrogwn gyfraniad cynifer o bobol, yn gyfranwyr ariannol, hysbysebwyr, gwirfoddolwyr, boed yn swyddogion ac aelodau'r gwahanol bwyllogau, stiwardiaid, cystadleuwyr, beirniad, cyfeilyddion, arweinyddion, arlwywyr, staff Pafiliwn y Bont a'r trefniadau yno, Ysgol Uwchradd Tregaron, Ysgol Pontrhydfendigaid, Canolfan Edward Richard Ystrad Meurig, Llyfrgell Neuadd Pantyfedwen, a chapel Carmel a Rhydfendigaid i gynnal rhagbrofion, y gynulleidfa niferus, ac unrhyw yn arall a ychwanegodd at y llwyddiant mewn unrhyw fodd.
Diolch hefyd i bawb am eu dymuniadau da cyn digwyddiad ac am eu gwerthfawrogiad ar ôl hynny.
Gan Neli Jones
Dyma rai o'r enillwyr
Betsan o Ysgol Uwchradd Tregaron yn ennill y cyntaf am Gyfansoddi Trefniant
Dafydd Jones, enillydd yr Unawd Cerdd Dant a'r Alaw Werin dros 21
Nia Wyn, Tregaron yn fuddugol ar yr Unawd Cerdd Dant 16-21 oed
Cliciwch am ganlyniadau llawn a lluniau o Å´yl Cerdd Dant 2007
|