Ym 1973, casglodd Emrys Jones griw o ferched at ei gilydd gyda'r bwriad o sefydlu côr. Cafodd ei galonogi gan yr ymateb, ac oddi ar hynny mae Côr Clychau'r Fedwen wedi bod yn gôr i'w gymeryd o ddifrif. Tros y blynyddoedd, ac o dan erbyn hyn bedwar o arweinyddion, Emrys Jones, y diweddar Jackie Grey, Carol Proctor a heddiw y Parchedig Aled Williams, gyda Neil Jones yn cyfeilio, maent wedi dal i ganu ac i gystadlu'n llwyddiannus. Cânt bleser wrth ddysgu'r gweithiau ac yng nghymdeithas yr ymarferion, a phleser pellach wrth roi mwynhad a mynychu cyngerdd ac eisteddfod. Wrth eu llongyfarch ar ddathlu'r penblwydd arbennig dymunwn iddynt flynyddoedd eto i wneud hynny. Dathlwyd penblwydd y côr yn ddeg ar hugain oed trwy gynnal cinio yng ngwesty'r Marine Aberystwyth ac fe gynhaliwyd Cymanfa Ganu yng nghapel Rhydfendigaid er budd cronfa Ysbyty Tregaron.
|