Mwynhawyd cystadlu o'r safon flaenaf gydol yr amser yn Eisteddfodau Pontrhydfendigaid, ac ar y dydd Llun cafwyd hyd at ddeg ar hugain o gystadleuwyr mewn ambell ddosbarth.
Enillwyd y goron gan ŵr lleol, Lyn Ebenezer, a'r gadair arian o waith yr un gemwyr, am gerdd mewn cynghanedd ar y testun 'Enfys', gan Dai Rees Davies o Rydlewis. Roedd y ddwy seremoni yng ngofal un o'r ysgrifenyddion cyffredinol, Selwyn Jones.
Fel arfer, cymerwyd rhan yn y seremonïau gan ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Tregaron, sef Cerith Morgan ar y Corn Gwlad, Guto Morgan a Christa Ellis yn canu cân coroni a chân y cadeirio, i gyfeiliant Delyth Hopkins Evans, gyda beirdd lleol, John Jones, Raymond OSborne Jones, Menna Jones, ac Emyr Jones a Lyn Ebenezer yn cyfarch y beirdd a'r Ddawns Flodau'n cael ei pherfformio gan ddwy ar hugain o ferched Adran yr Urdd Ystrad Fflur.
Eleni hefyd cyfeiliwyd i'r ddawns gan dair o ferched ifanc, sef Tanwen Davies a Manon Fflur Jones ar y piano, ac Elinor Fflur Lloyd ar y ffliwt, ac fe gyrchwyd y bardd coronog i'r llwyfan gan ddau aelod o Aelwyd yr Urdd Ystrad Fflur, Tomos Lewis a Rhian Davies. Mae'n hyfryd gweld cymaint o ieuenctid lleol mor barod i gymryd rhan fel hyn. Cyrchwyd y bardd cadeiriol i'r llwyfan gan ddwy aelod o Sefydliad y Merched- Jean Williams a Mair Jones.
Coffawyd am bedwar o ffyddloniaid yr eisteddfod a gollwyd yn ystod y flwyddyn gan Selwyn Jones ar ddechrau'r seremoni goroni, sef Glenys Slaymaker Thomas, cyn ysgrifennydd yr Å´yl Ddrama a Swyddog Hysbysebu, un sydd wedi cyfrannu nifer o gwpanau fel gwobrau yn yr eisteddfod, Rhys Edwards, un o'r stiwardiaid ffyddlon a gweithgar, Mrs Ethel Jones, un a oedd wedi gweithio ers dechrau'r eisteddfodau'n y Bont a chystadlu gyda'i chorau'n llwyddiannus iawn dros y blynyddoedd, ac wrth gwrs, Mr Jim Jones, un o'r Llywyddion Anrhydeddus a gafodd y fraint y llynedd o fod yn Llywydd yr Å´yl - y flwyddyn gyntaf i'r eisteddfodau gael eu cynnal yn y pafiliwn newydd moethus. Roedd Jim wedi bod yn allweddol iawn mewn sefydlu Eisteddfodau Teulu James yn y cychwyn, mewn sefydlu'r pafiliwn cyntaf a'r pafiliwn newydd yn y Bont.
Cafwyd canmoliaeth fawr gan y gynulleidfa i'r pafiliwn newydd dros y penwythnos, ac hefyd gan y beirniad a oedd yn meddwl ei fod yn neuadd gyngerdd ardderchog, gyda'r acwstig yn cael ei ganmol droeon yn ystod beirniadaethau.
Cynhaliwyd arbrawf gyda Thalwrn y Beirdd eleni, pryd y cafodd ei gynnal yn 'goruwch-ystafell' y pafiliwn, gyda phump o dimau brwd yn cystadlu o dan lygaid craff y ddau Feuryn, Y Prifardd Dic Jones a Karen Owen.
Llywydd Anrhydeddus yr Ŵyl eleni oedd Mrs Ceirios Dudley Davies o Bontarfynach, un o ferched Ffair Rhos, gynt o Lwyngwyddil, ac roedd yn hyfryd gweld ei merch, Bethan Dudley, a oedd yn un o'r beirniaid cerdd, ynghyd â'i dau blentyn, Adam ac Elan ar y llwyfan gyda Ceiros, gyda Bethan yn annerch ar ran ei mam. Cyflwynwyd y llywydd gan John Jones, a chyflwynwyd blodau iddi gan un o ddisgyblion yr ysgol leol, Dewi Tomos Jones.
Cynhaliwyd seremoni fach hyfryd arall ar y nos Lun, gyda Delyth Hopkins Evans, cadeirydd y pwyllgor cerdd yn cyflwyno anrheg i ddangos gwerthfawrogiad y pwyllgor a'r cystadleuwyr, i Christine Reynolds, a oedd wedi ymddeol ar ôl cyflawni gwaith canmoladwy iawn fel cyfeilydd am nifer fawr o flynyddoedd.
Dymuna'r pwyllgor ddiolch am bob cefnogaeth, am y cyfraniadau a'r holl waith gwirfoddol gafodd ei wneud dros y penwythnos.