Agorwyd yr arddangosfa ar ddydd Sul 9fed o Orffennaf, a dechreuodd y diwrnod gyda gwasanaeth eciwmenaidd yn eglwys Ystrad Fflur, o dan ofal y Ficer, Y Parch Philip Wyn Davies. Y syniad gwreiddiol oedd i gynnal gwasanaeth awyr agored ymhlith yr adfeilion, ond oherwydd y cawodydd ar y bore, cynhaliwyd y gwasanaeth yn yr eglwys, a oedd yn gyffyrddus iawn. Cymerodd aelodau o Grŵp Datblygu Cymuned Ystrad Fflur a'r grŵp o Kells, ran yn y gwasanaeth. Ar ôl y gwasanaeth, croesawyd pawb am baned a lluniaeth ysgafn yn y babell.
Am hanner dydd, cynhaliwyd yr agoriad swyddogol, gan Dr Richard Cork, prif gritic Celf papur The Times, a dywedodd ei fod wrth ei fodd yn agor arddangosfa o'r radd flaenaf, a llongyfarchodd bawb a oedd ynghlwm â'r prosiect. Cyflwynwyd ef gan y curadur dros Gymru, Ann Price Owen, darlithydd yn Athrofa Abertawe.
Arweiniwyd y gweithgareddau gan Charles Arch, ac fe gafwyd gair hefyd gan Dr David Austin o Brifysgol Llambed, ynglŷn â'r gwaith archeolegol sydd yn mynd ymlaen gan y coleg ar hyn o bryd yn Ystrad Fflur. I gloi'r seremoni, cafwyd datganiad effeithiol iawn gan Gôr Meibion Caron o dan arweinyddiaeth Mrs Catherine Hughes, yn canu corws Lladin. Dilynwyd hynny gan barti Caws a Gwin yn y babell. Roedd y tywydd wedi gwella erbyn hynny, ac fe gafodd pawb gyfle i weld yr arddangosfa. Yn hwyrach yn y prynhawn, cafwyd cyngerdd yn yr eglwys gan y côr, gyda Mrs Alice Jones yn cyfeilio.
Dros y penwythnos cynta o'r arddangosfa, cynhaliwyd gweithdy diddorol iawn gan griw o artistiaid 'Umha Aois' (Yr oes Efydd) yn perfformio arddangosiad pwerus o gastio efydd yn yr awyr-agored, ac fe gafodd ysgolion lleol gyfle ar y dydd Llun i gymryd rhan.
Roedd yr arddangosfa gan 24 o arlunwyr lleol yn Festri Rhydfendigaid yn cyd-redeg â'r arddangosfa gerfluniau, ac fe gafwyd nifer fawr o ymwelwyr yno yn ystod y pythefnos.
Teithiodd yr arddangosfa gerfluniau ddechrau Awst i Briordy Kells, Iwerddon, a chafodd aelodau o'r grŵp lleol a ffrindiau gyfle i ymweld â'u ffrindiau Gwyddelig unwaith yn rhagor.
Mae'r grŵp yn ddiolchgar iawn i'r noddwyr, sef y Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd, Cynghorau Celfyddydau Iwerddon a Chymru, Cyngor Sir Kilkenny, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Phrifysgol Cymru Abertawe, hefyd i Cadw a Duchas am ganiatâd i gynnal yr arddangosfa yn Ystrad Fflur a Phriordy Kells.
|