Yn ymadawiad y Prifardd John Roderick Rees fe'n hamddifadwyd o ŵr unigryw, bardd gwlad yn ystyr gorau'r ymadrodd a ganodd yn grefftus i'w fro, ei phobi a'i phethau.
Yn ŵ a goleddai ei farn ei hun ar amryw o bynciau, ac er y gallai y farn honno fod yn amhoblogaidd ac yn wrthun gan ambell un ni fyddai yn of o'i hamddiffyn yn groyw a chytbwys pan roddid pwysau arno.
Pan gyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, "Cerddi'r Ymylon" ym 1959, y broffwydoliaeth oedd y byddai y goron genedlaethol yn eiddo iddo ryw ddydd. Gwireddwyd hynny yn Llanbed ym 1984 pan goronwyd of am ei bryddest "Llygaid" ac eto y flwyddyn ddilynnol yn y Rhyl am "Glannau" wedi iddo ddod yn ail rai blynyddoedd ynghynt am ei bryddest "Ffynhonnau".
Yr argraff a edy ar lawer ohonom yw o ŵr gwylaidd a fodlonodd er disgleiried ei ddoniau ar fod yn fardd a thyddynnwr.
Collodd y"Barcud"un arall o'i gefnogwyr teyrngar.
|