Llongyfarchiadau mawr i Gwilym Williams ar gael ei anrhydeddu gyda MBE yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd
.'Rydym yn ymfalchio fod brodor o Swyddffynnon wedi derbyn clod haeddiannol am waith diflino dros nifer o flynyddoedd ym maes Chwaraeon i bobl ifanc yng Nghymru.
p> Mae Gwilym yn Gadeirydd Cymdeithas Athletau Ysgolion Cymru, cyn Gadeirydd Bwrdd Rhyngwladol Athletau Ysgolion ac hefyd yn Llywydd Cymdeithas Gymnasteg Ysgolion Cymru.
Codwyd a magwyd Gwilym yn Hillside Swyddffynnon, yn fab i May Williams, a fu'n cadw Swyddfa'r Post yno am nifer fawr o flynyddoedd, ac Evan Rees Williams, Y Gof.
Diddorol yw nodi mai Gwilym yw'r trydydd o blant y pentre i dderbyn yr anrhydedd yma, gan ddilyn Edith Evans Y Ffos, a'i gefnder Evan Rees Ebenezer Blaenpentre.
Tipyn o gamp i bentre bach gwledig Ceredigion.
|