Dyma fis Mawrth wedi cyrraedd, a rhai o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd wedi bod yn eitha' agos. Methais a mynychu un neu ddwy a oedd yn argoeli i fod yn ddiddorol iawn, megis un yn Nhyddewi o gwmpas y Gadeirlan, ac un arall draw ym Mhonsticill.
Bum ar daith yn ardal Harford; taith oedd hon yn canolbwyntio ar natur, ond 'roeddem hefyd yn edrych draw i gyfeiriad Rhydcymerau, ac felly'n dwyn i gof rhai o leoliadau D J Williams.
Bum hefyd yn Nhalybont, yn cerdded oddi yno i fyny i gyfeiriad Staylittle ac ymlaen gydag ymyl Cors Fochno i Glanwern, a nôl heibio Henllys i goed Alltgoch cyn disgyn nôl i Dalybont. Ond diwrnod o dywydd digon diflas a niwlog ydoedd, a methwyd a gweld y golygfeydd i fyny dros y Gors i'r mynyddoedd tu hwnt i'r afon Ddyfi.
Am y mis hwn felly, canolbwyntiaf ar un daith a fu yn ardal y Barcud tua canol mis Mawrth.
Taith Llanwnnws
Dyma daith a ddechreuodd yn Eglwys Gwnnws, o dan arweiniad John Williams, Bwlch Bach, Rhydyfelin. Mae John wedi arwain nifer o deithiau diddorol yn yr ardaloedd yma o'r blaen.
Dechreuwyd yn y fynwent, tua ugain ohonom yno. Mae'r safle yn hynafol, a siâp y fynwent yn dweud hynny, ond diweddar yw'r eglwys bresennol. Mae'r cysegriad i Wnnws yn unigryw, a llawer ffurf ar yr enw; mae un stori bod gwraig o enw tebyg wedi gorffwys yno pan yn sâl iawn; cafodd wellhad yno, ac felly sefydlodd eglwys yn y fangre. Beth bynnag, mae sawl adeilad wedi bod yno dros y canrifoedd; codwyd yr un presennol yn 1874, i gymryd lle yr un blaenorol a godwyd yn 1829.
Cawsom fynediad i'r eglwys, i weld yn arbennig y groes sydd yn y cyntedd. Mae'n dyddio o'r cyfnod o gwmpas y flwyddyn 800oc neu cyn hynny, ac yn arbennig oherwydd ei llythrennau Gwyddelig a'i phatrwm cymhleth o groes mewn cylch gyda chlymau Celtaidd. Yn y gornel ucha' mae'r llythrennau XPS, sef talfyriad Groegaidd o'r enw "Iesu Grist", ac wedyn eiriau Lladin sydd, o'u cyfieithu yn dweud "Pwy bynnag a roddo eglurhad i'r enw hwn (sef XPS) gadawer iddo fendithio enaid Hiroidil, mab Carotinn". Mae hyn yn codi cwestiynau eraill - sef ystyr yr enwau hyn. Ai yw'r enw Caradog a Carotinn yn perthyn?
Ar ôl gadael yr eglwys, aethom ymlaen i'r rhaeadr enwog, sef y rhaeadr Caradog, ac yn wir 'roedd yn werth gweld y dŵr yn cwympo lawr i'r dyfnder. Mae 'na chwedl eto ynglŷn â Charadog - iddo fod ar ffo fan hyn ac i bobl ollwng bwyd i lawr y ceunant iddo. Beth bynnag, bu dŵr y rhaeadr yn troi rhod y felin ganrifoedd ar ôl dyddiau Caradog.
Gadael y pentref wedyn, a throi i gyfeiriad Bryn Meherin, gan edrych draw i gyfeiriad Llwyn Malis, a chael ar ddeall mai oddi yno y daeth darganfyddwr y broses o buro haearn a fu'n gymaint o hwb i'r diwydiant yn Ne Cymru.
Cawsom ein cinio mewn llecyn ger Bryn Meherin, a chael clywed hanes y bobol ecsentrig fu'n byw yno nôl yn nechrau'r ganrif ddiwethaf.
Ymlaen wedyn drwy'r coed, allan i gorsdir, heibio fferm Ynys Forgan ac allan i'r comin sydd rhwng Lledrod a Thyngraig.
Atogofion wedyn am yr hen Hopson oedd yn byw ar y comin mewn rhyw hofel oedd yn gyfuniad o dwll yn y ddaear gyda math o gaban drosto. Cofiaf yn dda ei weld ar ei feic ddi-bedal yn cario ei sachau o fwsog i Aberystwyth. Mae'n debyg iddo fyw yno drwy eira mawr 1982.
Oddi yma twy warchodfa natur Brynarth ymlaen heibio fferm Penlan, a nôl i'r eglwys. Bu'n daith hynod o ddiddorol.