Yn rhy aml o lawer yr â cyfraniad a gwasanaeth gwirfoddol gan unigolyn o berson yn ddisylw heb unrhyw fath o gydnabyddiaeth nac anrhydedd yn y byd. Dyma pam, yr oedd mor dda gennym ddeall am waith Coleg y Drindod Caerfyrddin yn cydnabod cyfraniad un o'i gyn-ddisgyblion i'r gymdeithas dros nifer helaeth o flynyddoedd pan gyflwynwyd iddi dlws gwydr arbennig gan Is-Ganghellor y Coleg, Dr Medwyn Hughes mewn seremoni yn y coleg.
Profodd llu ohonom o garedigrwydd a pharodrwydd Beti Griffiths i helpu pan ddeuem ar ei thraws gyda chais am lenwi Sul neu am noson yn y Gymdeithas Lenyddol a hynny ar gwaethaf ei phryserdeb fel Ynad Heddwch a'i gwaith ar nifer o bwyllgorau.
Beth bynnag fydd natur y cyfarfod bydd cyfraniad Beti iddo yn un sylweddol bob amser ac yn un a werthfawrogir gan y gwrandawyr.
Nid yw iechyd Beti wedi bod yr hyn a ddymunai, wynebodd lu o driniaethau gyda dewrder a phenderfyniad gan ennyn edmygedd bob un ohonom.
Wrth ei llongyfarch a dymuno'n dda iddi i'r dyfodol dywedwn yn ostynedig iawn ac yn ddiffuant, diolch Beti.
|