Mae'r ddau, ynghyd a mab Non, Dafydd, wedi sefydlu y 'Mid Wales Activity Centre' ar fferm Dolebolion. Roedd pump o wahanol fentrau wedi dod i'r brig, gyda'r rownd derfynol ar Nos Lun Hydref 13eg yn fyw ar y teledu. Wedi treulio dros flwyddyn yn sefydlu'r fenter, roedd yn rhaid i Dilwyn a Non argyhoeddi'r cyhoedd paham y dylent ennill y wobr enfawr, a hynny o flaen cynulleidfa fyw yn y stiwdio, gyda rhai o bobl mwya blaenllaw Cymru ym myd busnes yn bresennol. Ar ddiwedd y noson, cafwyd mae nhw oedd wedi ennill y mwyaf o bleidleisiau, a chyflwynwyd y wobr o ddeng mil o bunnau a thlws arbennig iddynt gan Colin Jackson. Mae'r trac arbennig sydd wedi ei greu o amgylch fferm Dolebolion a Phenybannau yn werth ei weld, ac yn profi i fod yn boblogaidd iawn ar gyfer gwahanol gystadlaethau a ralïau ceir a beiciau. Pob dymuniad da iddynt eto gyda'r fenter gyffrous yn y dyfodol.
|