Ysgrifennwyd yr erthygl hon ym mis Mai 2005.
Mae ffilmio yr ail ran o "Pentre Bach" sy'n ddilyniant poblogaidd o "Caffi Sali Mali" yn mynd ymlaen yn hwylus ym mhentre teledu Pentre Bach, Blaenpennal gyda'r tywydd yn gyfrifol am fod y cwmni cynhyrchu SIANCO yn medru cyhoeddi ei fod ymlaen â'i raglen. Mae cyflogaeth i actorion lleol, ymwelwyr cysylltiedig a'r ffilmio, y gwaith adeiladu a'r atgyweirio ym Mhentre Bach ynghyd â'r defnydd o leoliadau cyfagos wedi bod yn ychwanegiad derbyniol i'r economi leol. Ar y Sulgwyn bydd rhyddid i bob un ymweld â'r Pentref teledu rhwng 11 y bore a 4 y prynhawn bob dydd hyd yr amser y bwriedir dechrau ffilmio y drydedd ran ym mis Medi. Rhydd Pentre Bach lle parcio rhydd, cyfleusterau i'r anabl, Siop y Pentre a Chaffi Sali Mali gyfle gwych i'r plant, gofalwyr ac oedolion i grwydro o gwmpas y set ac i weld fideos o "Pentre Bach". Y mae yna hefyd gyfle i chwi aros am wyliau neu dreulio cyfnodau byr ym Mhentre Bach yn y tai a'r bythynnod sy'n gwneud y Pentre Teledu. I'r rhai hynny ohonoch sy'n cofio Siop Pencraig, Caffi Sali Mali sydd yn y cartws ucha tra mai'r sgubor yn gartref i Shoni Bric a Moni. Pam Popeth sydd yng ngofal y siop erbyn hyn ond dowch i weld drosoch eich hun.
Gwefan Pentre Bach Dyw'r 91Èȱ¬ ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol
|