Pleser, dros gyfnod y Pasg, oedd croesawu ein ffrindiau o Plouvien i'r ardal. Daeth 57 o ymwelwyr draw atom eleni, a chan ein bod yn dathlu deng mlynedd o efeillio, cafwyd penwythnos o amrywiol ddigwyddiadau i gofnodi'r achlysur.
Ar y nos Wener cawsom swper hyfryd i estyn croeso cynnes i'n hymwelwyr, wedi ei baratoi gan Connie ac Alun yn y Clwb Rygbi.
Yna ar y dydd Sadwrn, fe aeth yr ymwelwyr, yn ogystal a rhai o bobl Tregaron, i ymweld a'r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan ac yna mynd i ymweld a'r brif ddinas a mynychu'r gem rygbi rhwng
y Gleision Caerdydd a Tolouse yn Stadiwm y Mileniwm.
Bore Sul aethpwyd ar y trên bach o Aberystwyth i Bontarfynach a chael cyfle i fwynhau rhai o'r golygfeydd prydferthaf yng Ngheredigion.
Diolch i rai o ferched y pwyllgor, sef Delyth Jones, Kathleen Edwards, Rhyswen Jones ac Annwen Lewis am drefnu tocyn yr un i bawb, ac am eu cludo i Bontarfynach ar ein cyfer.
Diolch i Dŵr Tynant am gyfrannu potelaid o ddŵr i bawb ac i Siop y Spar am roi afalau tuag at y tocyn.
Yn hwyrach yn y prynhawn cafwyd Gwasanaeth aml¬ieithog o dan ofal y Parch Roger Ellis Humphreys yng Nghapel Bwlchgwynt, gyda nifer o aelodau'r ddau bwyllgor yn cymeryd rhan a Dewi Morris-Jones wrth law i gyfieithu.
Hyfryd oedd cael cwmni Côr Caron i ganu, o dan arweiniad Catherine Hughes ac Alice Jones yn cyfeilio.
Yna i gloi'r noson cafwyd Cinio Dathlu yn y Talbot pan ddaeth dros 100 ynghyd i fwynhau pryd hyfryd o fwyd, a chafwyd areithau pwrpasol gan Gethin Bennett; Catherine Hughes ar ran y Cyngor Tref; Odwyn Davies, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion a Bronwen Morgan, Cadeirydd y Pwyllgor Efeillio yn ogystal a phobl blaenllaw Plouvien yn diolch yn gynnes am y croeso a dderbyniaisant.
Cyflwynodd Rhyswen Jones anrheg hyfryd o waith llaw cywrain ei hun, ar ffurf ein hanthem Genedlaethol,"Hen Wlad fy Nhadau' wedi ei wneud o"cross stitch"ar ran y Pwyllgor Gefeillio i Gadeirydd Pwyllgor Gefeillio Plouvien.
Fel arwydd o ddiolchgarwch am y croeso, dros gyfnod o 10 mlynedd, ac i gofnodi 10 mlynedd o efeillio cyflwynwyd coeden "Camellia" i'r Pwyllgor Efeillio oddi wrth bobl Plouvien.
Mae'r cyfan wedi ei recordio, ac ar gael i unrhyw un sydd a diddordeb i brynu copi am £5 yr un oddi wrth Emyr Jones, Llanrhystud.
Bore addysgiadol gafwyd ar y dydd Llun pan aethpwyd ar ymweliad a Fferm Pencefn Drysgol a gweld yr amryw fwydydd sydd ar gael i'r anifeiliaid a'r ffyrdd o'i cynhyrchu (Pencefn Feeds), yn ogystal a gweld eu dull o wyna dan do. 'Rydym yn dra ddiolchgar i'r teulu Lloyd am ei croeso cynnes ac am ein tywys o amgylch, a hithau'n gyfnod prysur ar y fferm.
Diolch hefyd am y diodydd a'r cacennau cartef a dderbyniom cyn troi nôl am dref Tregaron.
Penderfynodd rai gerdded nôl i'r dref, a thrwy hynny mwynhau'r olygfa hyfryd o'r topiau. Yn amlwg, roedd yn rhaid galw yng Nghanolfan Y Barcud, a hynny yn codi awydd ar rai i fynd i gerdded ar Gors Caron y ystod y prynhawn, a mwynhau byd natur ar ei orau.
Yna aeth y Llydawyr i gyd, a'r teuluoedd oedd yn eu cadw, lawr i Aeronfa am bryd hyfryd o fwyd, cyn ffarwelio a'n ymwelwyr a dymuno yn dda iddynt wrth iddynt droi am adre.
Trist oedd teimladau'r rhan fwyaf wrth ffarwelio, and edrychwn ymlaen i gyfarfod a'n cyfeillion eto'n fuan.
Diolch i bawb a gynigodd lety i'n ymwelwyr ac a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd i lwyddiant y penwythnos. Diolch hefyd i Gyngor Sir Ceredigion ac i fusnesau lleol Tregaron, sef, Heather Holgate, NFU Mutual; Mary Edwards, Siop Caron a Wynnstay Group am eu nddd ariannol i'r fenter.
Diolch i Alwyn Evans a'i gwmni am gael caniatad i barcio'r bws ar eiiard.
Mae'r goeden "Camellia" bellach wedi ei phlannu to allan i Ganolfan y Barcud (diolch iddynt am y caniatad i wneud hynny) a diolch i Jim Williams a John Lewis am ymgymeryd a'r gwaith o'i gosod yn ei lle.
'Rydym yn edrych ymlaen at barhau gyda'r dathliadau, ac yn bwriadu trefnu taith draw i Plouvien o'r 21 ain o Awst tan naill ai'r 24ain o Awst neu'r 26ain o Awst. Oes oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn ymuno a ni ar y daith, yna cysyllter a Gwyneth Davies am fanylion pellach ar 01974 251 657."