91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Barcud
Cyfranwyr y gyngerdd Cân y Cardis
Rhagfyr 2009
Hanes lawnsiad cryno ddisg ar gyfer Apêl Sioe'r Cardis 2010.

Lansiwyd Cryno Ddisg newydd mewn Cyngerdd a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn Hydref 24ain yng Nghapel Soar, Llanbedr Pont Steffan ar gyfer Apêl Sioe'r Cardis 2010.

Roedd y Capel dan ei sang wrth i Ddeuddeg cyn-enillydd y Rhuban Glas berfformio mewn Cyngerdd Mawreddog i ddynodi lansiad Cryno Ddisg 'Rhuban Glas y Cardis.

Y parchedig Goronwy Evans, gyn-ysgrifennydd Eisteddfod Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan am 35 mlynedd ac Ysgrifennydd yr Eisteddfod Genedlaethol pan fu yn Llambed yn 1984 wnaeth Lywio'r noson yn ei fodd proffesiynol arferol.

Bu i'r Cyngerdd ddwyn gyda'i gilydd gyn-enillwyr Cystadleuaeth Gwobr Goffa David Ellis a Chystadleuaeth Gwobr Goffa Osborne Roberts Eisteddfod Genedlaethol Cymru sef un o'r prif wobrau i Unawdwyr ers 1947.

Yn cyfeilio ar gyfer yr artistiaid oedd cyfeilydd proffesiynol; Jannette Massocchi. Roedd yr enillwyr a wnaeth berfformio yn cynnwys Dai Jones (Llywydd Sioe'r Cardis) Evan Lloyd, Teifryn Rees, Carol Davies, Ifor Lloyd, Angela Rogers Davies, Eirwen Hughes, Bethan Dudley Fryar, Delyth Hopkins Evans, Robyn Lyn Evans, Gareth Huw John a Rhian Lois a bu iddynt gyflwyno amrywiaeth o unawdau, deuawdau a thriawdau o'r hen ganeuon Cymreig ac Arias clasurol.

Daeth y Cyngerdd i ben gyda'r holl unawdwyr yn ymuno gyda'i gilydd i ganu 'Calon Lan' a'r gynulleidfa gyfan ar eu traed.

Llywydd y noson oedd y cyflwynydd Radio Beti George a wnaeth annerch y gynulleidfa drwy sôn am eu gwaith a'i phrofiadau.

Yn ogystal ffilmiwyd y Cyngerdd gan Boomerang ac mi fydd at S4C yn y Gwanwyn.

Trefnwyd y digwyddiad gan Bwyllgor Apel Sioe'r Cardis 2010 Canol y Sir.

Dywedodd y Cadeirydd, Nicola Davies, y bu'r noson yn Ilwyddiant ysgubol a rhaid yw diolch i'r artistiaid ac arweinydd y noson am ddarparu eu gwasanaeth yn hollol rhad ac am ddim.

Ein diolch hefyd i bawb wnaeth gyfrannu at Iwyddiant y noson yn ogystal a'n noddwyr, NFU Mutual.

Mae'r Gryno Ddisg ddwbl a lansiwyd yn gasgliad unigryw o ganeuon traddodiadol a chlasurol gan yr artistiaid y cyfeiriwyd atynt uchod yn ogystal a chyn-enillwyr eraill na fu'n bosib iddynt fod yn bresennol sef Washington James, Gwion Thomas, Huw Rees Evans a Gwawr Edwards a'r diweddar Berwyn Davies.

Y mae un Cryno Ddisg o'r casgliad dwbl at gyfer enillwyr cystadleuaeth David Ellis (Rhuban glas dros 25 oed) a'r llall ar gyfer cyn-enillwyr Cystadleuaeth Osborne Roberts (o dan 25 oed).


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý