Llywiwyd y gweithgareddau gan berthynas iddi, Charles Arch, 2 Cae Bach, ac roedd nifer fawr o berthnasau wedi dod o bell ac agos i ddangos eu parch at, a'u hoffter, o 'Anti Polly'.
Bu plant yr ysgol yn cymryd rhan hefyd, gan ganu nifer o ganeuon iddi. Cynrychiolwyd y Cyngor Sir gan y cadeirydd y Cynghorydd Fred Williams, a chafwyd gair pwrpasol ganddo. Roedd cynrychiolwyr o'r Cyngor Cymuned hefyd yn bresennol, a chafwyd gair ar eu rhan gan y Cynghorydd John Jones, cyflwynodd y Cynghorydd Wil Lewis rodd o gan punt iddi ar ran y Cyngor Cymuned,
a chyflwynwyd blodau iddi gan ddisgybl ieuengaf yr ysgol, Dion Dark.
Derbyniodd nifer fawr o roddion, a'i dymuniad oedd fod pob rhodd ariannol yn mynd tuag at gronfa adnewyddu Eglwys y Santes Fair, Ystrad Fflur.
Mae Miss Polly Arch erbyn hyn wedi ymgartrefi yng Nghartref Bodlondeb, Penparcau, a dymunir iddi iechyd a phob hapusrwydd.
Mwy o Bontrhydfendigaid
|