91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Barcud
Plant lleol yn cymryd rhan yn y sioe gymunedol O'r Bont i'r Abaty
Mehefin 2005
Sioe Gymunedol i ddathlu safle hanesyddol Ystrad Fflur yn llwyddiant mawr.

Bu'r sioe 'O'r Bont I'r Abaty' yn llwyddiant mawr dros y penwythnos Mai 21/22, gyda thyrfa luosog yn mwynhau'r perfformiadau.

Cynhaliwyd dau berfformiad cofiadwy gan naw ysgol gynradd y cylch, Tregaron, Llanddewi Brefi, Llangeitho, Penuwch, Bronant, Lledrod, Swyddffynnon, Ysbyty Ystwyth a Phontrhydfendigaid, actorion ifanc o Ysgol Uwchradd Tregaron, sef Sam Jones, Nia Wyn Jones, Hayley Rees, Guto Morgan, Joshua Davies a Tanwen Davies, dau gôr lleol - Côr Merched Clychau'r Fedwen a Chôr Meibion Caron ynghyd â nifer o berfformwyr unigol.

Dewi Sion Evans oedd yn cymryd y brif ran - Dafydd ap Gwilym, a myneich Ystrad Fflur oedd Gwydion ab Ifan, Rhodri Davies ac Ifan Jones Evans. Fe fu'r tywydd yn garedig iawn ar y nos Sadwrn, a llwyddwyd i gynnal y perfformiad allan yn yr awyr agored yn Ystrad Fflur, ond ar y nos Sul, bu'n rhaid symud i Neuadd Pantyfedwen ar y funud ola', felly, fe gafwyd dau berfformiad gwahanol oherwydd hynny.

Roedd y lleoliad yn yr Abaty yn creu naws arbennig iawn, a'r perfformiad yn y neuadd yn gynnes, agos-atoch.

Cafwyd y fraint ar y Nos Sadwrn o gwmni'r Cymro cyntaf i gyrraedd copa Everest, Caradog Jones, ac ar y nos Sul cafwyd cwmni Tecwyn Ifan, cynweinidog Carmel, yn canu ei gân am Stesion Strata.

Ar y prynhawn Sul hefyd, cynhaliwyd gwasanaeth diddorol iawn yn null yr hen fynachod, yng ngofal y ficer, Y Parch Philip Wyn Davies yn yr Abaty. Dymuna Grŵp Datblygu Cymuned Ystrad Fflur ddiolch i bawb a fu'n gysylltiedig â'r sioe, yn arbennig y Cyfarwyddwr a'r Cynhyrchydd - Dwynwen Lloyd Raggett, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol a golygydd y sgript - Alun Jenkins a phawb a gyfrannodd at y sgript.

Ddiolch hefyd i bawb a ddaeth allan ar dywydd braidd yn amheus i fwynhau'r perfformiadau, i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) a Cynnal Ceredigion am noddi'r digwyddiad, i CADW am bob cymorth ac am gael defnyddio'r safle hanesyddol yn Ystrad Fflur.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý