Aeth Cymdeithas Edward Llwyd lawr i Sir Gâr heddiw i ardal gyfarwydd i fi, i San Clêr, (lle yr arferwn deithio iddo ar y bws o'r Hendy gwyn ar Daf am wersi piano Sadyrnaidd, flynyddoedd yn ôl!)
Roedd y tywydd yn weddol wrth i ni ymgasglu, ond nid oedd y rhagolygon yn dda, ac yn wir, prin i ni fynd filltir na ddaeth y glaw. Aethom lawr i'r hen dre, y "Lower St. Clears" fel y'i gelwid heddiw; yno mae'r eglwys a'r hen gaer. 'Does fawr ar ôl o'r castell ond twmpath mawr, ond da meddwl iddo fod ar un adeg yn nwylo Llewelyn Fawr.
Aethom heibio'r castell ac allan ar hewl ffarm, gan groesi'r afon Cynin neu'r Dewi Fawr - mae'r ddwy wedi ymuno - cyn iddi hithau ymuno â'r Taf a syndod oedd gweld cymaint o gychod bach oedd fan hyn, a chael ein hatgoffa o bwysigrwydd y môr a thrafnidiaeth fyny'r afon.
Roedd fferm Pant-dwfn ar ein chwith, dyma gartref David Charles, awdur yr emyn "Rhagluniaeth fawr y nef," a oedd yn bregethwr ac yn emynydd yn ogystal â bod yn berchennog ffatri gwneud rhaffau yng Nghaerfyrddin, ac yn dad i David Charles ac i Thomas Charles, y Bala. Mae'r tŷ ffarm, er yn helaeth, erbyn hyn yn wâg.
Ymlaen dros y caeau wedyn tan i ni gyrraedd ffarm Trefenty, hen adeilad gwych o dŷ-ffarm, dywedir bod Siarl II wedi bod yno, yn cwrdd ag un o'i gariadon! Roeddwn wedi bod heibio o'r blaen, ar fy ffordd nôl o daith Llansteffan, ac wedi cael sgwrs â'r ffermwr a'i wyres y diwrnod hwnnw, yntau'n groesawgar a difyr, and nid oedd sôn am neb wrth i ni gerdded trwy fuarth y ffarm y diwrnod gwlyb hwn! Aethom ymlaen at ein cyrch-fan, sef hen eglwys adfeiliedig Llanfihangel Abercywyn.
Perthynai hon i Abaty Sistersiaidd Hendy gwyn ar Daf yn y 12fed Ganrif, yn rhan o gadwyn o eglwysi ar daith y pererinion i Dyddewi. Mae mewn cyflwr trist erbyn heddiw, heb do, a'r iorwg yn gorchuddio ei welydd, ond cynhelir un gwasanaeth yno bob haf. Mae awyrgylch hyfryd i'r lle, lawr ar lan yr afon Cywyn, lle mae'n ymuno â'r Taf cyn i honno agor mas i'r môr.
Ym mynwent Llanfihangel Abercywyn, o dan ywen fawr, mae hen feddau o'r 12fed Ganrif neu'r 13eg Ganrif, slabiau o gerrig, a chorff-ddelwau wedi eu naddu arnynt gyda'r dwylo wedi eu croesi, a chroes Malta ar fron pob un. Maent yn debyg i'r beddau a welir yn Ystrad Fflur. Dywedir mae beddau pererinion ydynt ac ategir hyn gan i ddwsin o gregyn gael eu darganfod yn un o'r beddau pan agorwyd hwy yn 1838; 'roedd hyn yn arwydd o bererindod i Santiago de Compostella. Mae rhai wedyn yn honni mai beddau crefftwyrydynt, gan fod morthwyl ar un, rhaffar un arall, a phatrwm latis yn dynodi gweithiwr gwydr, ar y drydedd.
Beth bynnag am hyn, yma y cawsom ein cinio, yn cysgodi cystal ag y medrem rhag y glaw, cyn troi yn ôl am San Clêr yn fintau wleb! Prin fod un ohonom heb ddŵr wedi treiddio trwy ei ddillad neu ei esgidiau! Ond taith ddiddorol a diwrnod i'w gofio!
Erthygl gan Ann Gwynne