91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clwb Cerdded Crwydro Caron
Sefydlwyd Clwb Cerdded Crwydro Caron yn Rhagfyr 2003. Nawr mae bron i gant o aelodau a rhaglen fywiog o deithiau. Dyma rhagor o fanylion gan ysgrifenydd y clwb, Dafydd Morgan.

"Penderfynwyd sefydlu Clwb Cerdded Crwydro Caron yn ôl yn 2003 pan ddaeth grŵp o gerddwyr a mynyddywr brwdfrydig at ei gilydd i sefydlu casgliad o 8 taith yn cwmpasu ardal Tregaron a'r Cylch.

Cefnogwyd rhai o'r teithiau yma'n dda iawn ac aeth yr arweinyddion ar gwrs mynydda 6 diwrnod i ddatblygu a gwella eu sgiliau arwain. Trefnwyd yr hyfforddiant gan fudiad datblygu cymundol Curiad Caron Cyf. ac fe'i ariannwyd gan Gronfa Cymunedau'n Gyntaf. Yn ystod yr hyfforddiant yma, a thros beint neu ddau mewn tafarn ar llethrau Bannau Brycheiniog, penderfynwyd sefydlu clwb. Wrth gwrs wrth sefydlu clwb roedd rhai cael swyddogion, ac ar ôl perswad a chocsio ac ambell i shandi gwlyb, penderfynwyd pwy oedd i wneud beth a phryd.

Yn ystod Nadolig 2003 trefnwyd taith swyddogol gyntaf y clwb o'r enw 'Taith Taclo'r Twrci' gyda hyd at 60 o bobl yn ymgasglu ar Sgwâr Tregaron i losgi'r calorïau ychwanegol hynny sydd yn bodoli dros ŵyl y Nadolig! Roedd hyn wrth gwrs yn gyfle i godi proffeil y clwb yn syth a gwelwyd bryd hynny fod yna angen amlwg am glwb cerdded a bod yna sicrhad y byddai cefnogaeth da o'r aelodau o leiaf.

Trefnwyd felly 14 o deithiau yn 2004 gyda'r rheiny yn amrwyio o deithiau hamddenol lleol i rhai tu allan i'r milltir sgwâr mewn ardalaoedd fel Eryri , Sir Benfro ac wrth gwrs Bannau Brycheiniog!

Gyda'r clwb wedi'i sefydlu'n gadarn erbyn diwedd 2004 braf oedd gweld bod 72 wedi ymaelodi gydag amrywiaeth o oedrannau a phrofiad cerdded. Yr hyn a sylwyd hefyd gymaint o'n haelodau nad oedd yn byw yn lleol, hynny yw, yn ymwelwyr i'r ardal neu'n byw tu allan i gyffuniau Tregaron. Felly yn sgîl hyn, penodwyd arwyddair i'r clwb sef 'Gwasanaethu'r gymuned leol-ateb anghenion ymwelwyr.'

Wrth gwrs roedd y galw am sialensau'n codi'n aml ac felly aethpwyd ati i drefnu teithiau i fyny'r Wyddfa gyda nifer o bobl yn cael y cyfle i gyrraedd y copa am y tro cyntaf erioed.

Roedd yr aelodau yn dechrau cael blas arni erbyn diwedd 2004 yn enwedig pan gynhaliwyd Cinio Blynyddol cynta'r clwb yng Ngwesty'r Talbot yn Nhregearon. Yno i'n hannerch oedd y Bonheddwr Caradog Jones. Dyn hynod o addfwyn, gonest a di-drafferth. Ni allai'r rhai na adweinir Caradog ddeall sut y llwyddodd dyn mor addfwyn a hynaws gyrraedd copa ffyrnig ac anfaddeuol mynydd ucha'r byd, Everest. Ac yntau'n gynnyrch ardal Pontrhydfendigaid, roedd Caradog yno i gefnogi gweithgareddau Clwb Cerdded Crwydro Caron ac yn ymfalchïo fod y clwb wedi holi iddo fod ei Llywydd Anrhydeddus.

Erbyn 2005 roedd gan y clwb 27 o deithiau 89 o aelodau a 12 arweinydd. Roedd y clwb wedi derbyn cefnogaeth nifer o fusnesau'r ardal yn ogystal â chefnogaeth oddi wrth Y Gist Cymunedol Sportlot, Cymunedau'n Gyntaf a Cyngor Tref Tregaron. Cytunir, heblaw am y gefnogaeth hyn, ni fyddai gweithgareddau'r clwb fod wedi mynnu gymaint yn ei dyddiau cynnar ac am y cefnogaeth hyn mae Clwb Cerdded Crwydro Caron yn ddiolchgar tu hwnt.

Gydag amserlen 2005 yn dennu dŵr o'r dannedd, ymunodd casgliadau newydd o bobl â'r clwb wrth i newyddion positif 'grwydro' ar hyd Ceredigion a thu hwnt. Ac yn hyn o beth mae'r clwb erbyn hyn yn denu mwy a mwy i gerdded. Mae'r clwb yn mentro yn ei weithgareddau ac yn ymateb i sylwadau a syniadau'r aelodau. Mae'n fodlon creu digwyddiadau diddorol megis Sialens Twm Sion Cati, Taith Clasurol Y Barcud Coch, Taith George Borrow a Thaith Y Foneddiges - Yr Hafod. Mae teithiau tebyg i hyn yn gwneud y mwyaf o'r adnoddau crai lleol sy'n bodoli sef treftadaeth, diwylliant a amgylchfyd.

Os hoffech ymuno â theithiau'r clwb cerdded yma danfonwch e-bost at daf@cerddedtregaron.co.uk neu rhowch olwg dros safwe'r clwb

Mae croeso i chi ymuno â ni felly beth amdani, dewch i gerdded dewch i grwydro â Chlwb Cerdded Crwydro Caron."

Erthygl gan Dafydd Morgan, Ysgrifenydd y Clwb

  • Lluniau rhai o deithiau Clwb Cerdded Crwydro Caron...

  • Crwydro'r Canolbarth: Eich awgrymiadau chi.

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý