Detholiad o'r llyfr.
"Pan ddechreues i yn y practis, fi oedd y donci. Erbyn hyn roedd rhai o'r milfeddygon eraill yn eu deugeiniau neu yn eu pumdegau ac, yn ddigon naturiol, yn ceisio osgoi'r gwaith mwyaf corfforol. Ro'n i, ar y llaw arall, ond yn bump neu chwech ar hugain oed, yn chwarae rygbi'n rheolaidd ac yn eitha ffit. A'r prif waith ges i yn ystod y flwyddyn neu ddwy gynta oedd digornio, hynny yw, tynnu'r cyrn oddi ar bennau'r gwartheg. Fe basiwyd deddf newydd bryd hynny: os oeddech chi am ddigornio yna fe fydde'n rhaid tynnu'r egin cyrn pan oedd y creaduriaid yn lloi bach tua mis oed - eu llosgi nhw allan yn llwyr o dan effaith anesthetig lleol.
Yr hyn y byddwn i'n ei wneud fyddai cael y lloi i mewn i grwsh a defnyddio weier debyg i weiren dorri caws. Yna dau chwistrelliad i mewn i'r nerf rhwng y glust a'r llygad ac wedyn cydio yn nwy handl y weiren a thynnu yn 么l ac ymlaen, hynny yw, llifio. Roedd hyn yn waith caled dros ben gan fod gwythiennau yn dod i fyny drwy'r corn ac os bydde'r rheiny'n dechre gwaedu roedd hi'n mynd yn broblem. Roedd rhaid cadw'r rhythm iawn wrth lifio. Rwy'n cofio gwneud un ffarm, Cilast, Boncath, gan ddigornio tua thrigain o wartheg, gwaith oedd yn golygu bod yno drwy'r dydd. Erbyn diwedd y dydd fe fydde gofyn cael un o'r bechgyn i'ch helpu chi am yn ail. Hanner can ceiniog y pen am bob creadur oedd y t芒l bryd hynny ac, ar 么l diwrnod o hynny, fe fyddwn i'n falch cael mynd adre, cael bath a mynd i'r gwely.
Mae'n hawdd edrych 'n么l a s么n am amser caled, ond rwy'n cofio, yn ystod dim ond un bore Sul, Liz y wraig yn gorfod ateb y ff么n 33 o weithiau. Ac yn ystod dim ond un dydd Sul fe wnes i 30 o alwadau: dechrau tua saith o'r gloch y bore a gorffen tua hanner nos. Weithiau fe fydde angen mynd 'n么l ac ymlaen i'r un ardal dair neu bedair gwaith. Fe es i i Faenclochog bedair gwaith gan deithio tua 200 milltir y diwrnod hwnnw.
Yn fuan ar 么l dod 'n么l o Lundain fe wnes i berswadio'r partneriaid i fuddsoddi mewn teliffonau radio. Cwmni Pye oedd yn eu cynhyrchu nhw bryd hynny. Ro'n i wedi cael profiad o'u gwerth nhw yng Nghaerdydd pan o'n i ar brofiad gwaith. Un fantais oedd ganddon ni oedd bod y system wnaethon ni ei phrynu yn ein galluogi ni i siarad o un car i'r llall. Roedden ni'n bedwar milfeddyg ac weithiau fe fydden ni'n cael galwad o'r ganolfan i alw mewn fferm a ninnau o fewn cyrraedd hawdd iddi ar y pryd. Rwy'n cofio un ffermwr yn gwneud galwad a finne'n troi i mewn i'r ffald cyn iddo fe roi'r ff么n lawr. Roedd e'n edrych yn syn arna i drwy'r ffenest ac yn methu credu 'mod i wedi cyrraedd mor glou. Fe fuodd y system yn gymorth mawr ond roedd yna gost i'w thalu, tua 拢800 y flwyddyn, hynny mewn cyfnod pan mai 拢1,000 y flwyddyn oedd fy enillion i.
Roedd mil y flwyddyn yn gyflog weddol gyffredin i fet yn syth allan o'r coleg. Roedd bwrdd hysbysebion gyda ni yn ein blwyddyn olaf yn Hawkshead House yn Potters Bar lle byddai cwmniau milfeddygol yn cynnig swyddi i fyfyrwyr oedd ar fin gadael. Aeth un o'r bois i weithio i Mick McClintock, Norwich, am 拢1,050 y flwyddyn, cyflog da ar y pryd - ac fe wnaeth pedwar o'n bois ni gynnig am honno.
Ar y llaw arall, roedd pethe'n rhad. Y car cynta brynais i oedd Ford Anglia 105E. Rwy'n ei gofio fe nawr, EEJ 682 oedd e. Rwy'n cofio mynd lan i garej Gwalia i 'n么l y car a siec am 拢499 yn fy mhoced i dalu amdano. Cofiaf hefyd ddod allan o l么n ffarm un noson mewn Estate glas rhif FEJ 8E, fy ail gar i. Ar nos Sadwrn roedd hyn, ac fe ddanfonodd Liz bedair galwad i fi, a'r rheiny'n alwadau brys pan oedd bywyd creaduriaid yn y fantol. Dyna'r math o bwysau oedd ar rywun. Roedd yn rhaid ateb galwad yn glou. Y noson hon wrth ddod mas o'r fferm i fynd i ateb galwad arall, clywais s诺n ergyd. Roedd cefn y car wedi taro rhywbeth. Lawr 芒 fi am Gastellnewydd, ac wrth i fi gyrraedd fe wnes i sylwi fod nodwydd y mesurydd petrol yn disgyn yn gyflym. Erbyn i fi gyrraedd canol y dre roedd y cloc oedd yn dynodi cynnwys y tanc petrol lawr i'r chwarter. Allan 芒 fi a gweld fy mod i wedi bwrw twll yn y tanc. Roedd pethe fel hyn yn dueddol o ddigwydd. Byddwn i'n torri spring yn aml iawn. Dim rhyfedd o gofio cyflwr y ffyrdd yn y cyfnod hwnnw.
Pwy oedd yng Nghastellnewydd bryd hynny ond Richard Thomas y gof. I mewn 芒 fi a dweud wrtho fe fod gen i bedair galwad ar 么l a gofyn ei farn am beth fedrwn i wneud. Ei gyngor e oedd peidio ag asio'r tanc gan fod ychydig o betrol yn dal ynddo o hyd. Yr ateb gorau oedd gwacau'r tanc, ei sychu 芒 sychwr gwallt a gosod ychydig o wydr ffeibr dros y twll. A dyna wnaethon ni. O fewn hanner awr ro'n i'n barod i fynd 'n么l ar yr hewl. Fe wnes i ail-lenwi'r tanc 芒 phetrol 芒 bant a fi.
Tua blwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach, a'r car wedi'i werthu erbyn hynny, ro'n i lan yng Nglynarthen a dyma fi'n gweld yr hen gar yno. Fe wnes i ofyn i'w berchennog newydd sut roedd y car yn mynd. 'Diawl, dyma gar da,' medde fe. 'Wy'n credu mai rhyw fet o Aberteifi wedd 芒 hwn. Maen nhw'n dweud wrtha i, os gewch chi gar fet nad yw e ddim yn drychid yn dda ond o leia mae e'n well na char ficer. Dyw car ficer ddim ond mas ar ddydd Sul ac mae e'n cael amser i rydu. Ond mae car fet ar yr hewl drwy'r amser. Dim ond un broblem sydd, mae e'n uffernol o sychedig. Mae e'n drwm iawn ar betrol.'
`Diawch,' medde fi, 'petaech chi'n drychid yn y drych fe wnaech chi weld bod y petrol yn eich dilyn chi ar hyd y ffordd. Wy'n gwbod be sy'n bod.' Ac fe wnes i esbonio wrtho fe am y twll yn y tanc. Dim ond dros dro roedd y gwydr ffeibr wedi sticio. Diawch, dyna falch oedd e 'mod i wedi dweud wrtho fe. Fe wnes i ei weld e chwe mis yn ddiweddarach ac fe ddwedodd fod y car wedi codi o ddeunaw milltir y galwyn i dri deg pump!"