Wedi bod yn rhan o'r perfformiad cyntaf un o Clod Y Cledd a gomisiynwyd gan CIC (Cwmni Ieuenctid Ceredigion) yn ôl yn 1989 roeddwn yn edrych ymlaen at weld yr addasiad o'r ddrama gerdd hon ac ni chefais fy siomi.
Portreadwyd cymeriadau Gwilym a Mari mewn modd sensitif a chredadwy gan Caryl Glyn a Rhydian Rees fel mam a mab yn ceisio dygymod ag emosiynau annifyr a dwfn a ddaw i'r wyneb yn sgîl dyfodiad yr Ail Ryfel Byd tra cafwyd perfformiad gwych oddi wrth Catrin Williams fel Elen - merch ifanc yn ceisio dygymod â'r gwrthdaro o fewn ei chydwybod ei hun rhwng caru milwr a bod yn heddychwraig.
Drama ddolurus yw Clod y Cledd sy'n amlygu'r boen a'r gwrthdaro emosiynol sydd yn codi o fewn cymuned glos yn sgîl rhyfel ac fel y mae rhyfel yn medru chwalu perthynas dyn, nid yn unig efo'i elyn, ond hefyd efo'i gymydog a'i gariad.
Er difrifoldeb prif thema Clod y Cledd, sef rhyfel, roedd cymeriadau Sam a bois yr 91Èȱ¬ Guard yn sicrhau digon o gyfle i'r gynulleidfa chwerthin yn iach hefyd. Roedd dawn Huw Emlyn fel Sam i ddifyrru'r gynulleidfa yn amlwg tra roedd Côr Cardi-gân yn wefreiddiol wrth helpu i adrodd stori'r ddrama gyda chaneuon ag emynau grymus.
Roedd y ffilm a ddangoswyd ar ddiwedd y ddrama yn ffurf syml ag effeithiol o'n hatgoffa mae poen a dioddefaint yn hytrach na chlod sydd yn eistedd llaw yn llaw a chledd.
Hwn yw'r ail gyflwyniad i mi ei weld gan Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw yn ddiweddar yn dilyn y ddrama Linda Gwraig Waldo, ac mae'n rhaid i mi ganmol safon y cynhyrchiad a'r rheiny a gymerodd ran ynddo i'r eithaf.
Diolch yn fawr Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw - daliwch ati gyda'r gwaith da!
Adolygiad gan Linda Jones o Landysul
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|