Bu Glyn Wise a chriw Sŵn Sadwrn 91Èȱ¬ Radio Cymru yno hefyd - cliciwch am fanylion.
Cynhaliwyd y gig ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid sy'n dal hyd at 2900 o bobl.
Cynhaliwyd y Gig Mawr Bont cyntaf yn haf 2006, sef y digwyddiad mawr cyntaf ers ailagor drysau'r Pafiliwn. Roedd gŵyl 2007 yn ymestyn dros ddwy noson, gan roi llwyfan i dros 20 o artistiaid, gyda cherddoriaeth fyw trwy gydol y dydd Sadwrn.
Nos Wener, Mehefin 29
Radio Luxembourg, Genod Droog, Cowbois Rhos Botwnnog a Jen Jeniro.
Dydd Sadwrn, Mehefin 30
Alun Tan Lan, Gareth Bonnello, Lowri Evans, mr huw, Caswallon ap Cranc a Dyn Mawr Blewog (Aled Henchie-Jones) yn ystod y prynhawn.
Ar y prif lwyfan roedd Coda, Kenavo, Bob Delyn a'r Ebillion a Fflur Dafydd a'r Barf yn perfformio yn ogysal â Tecwyn Ifan, a oedd yn gyfrifol am drefnu rhai o ddigwyddiadau mwyaf yr hen Bafiliwn nol yn y 1980au. Prif eitem y nos Sadwrn oedd Bryn Fôn.
Manylion Gig Mawr Bont 2008 ar wefan C2
Gig Mawr Bont 2006
|