Rhodri Lewis o Ddyffryn Aeron
...yr yffarn, e.e "golwg yr yffarn" - edrych yn wael.
Thu Feb 5 17:22:12 2009
Robert Lewis gynt o Rhaeadr Gwy
Wnt-twrch daearSgythyn-haenan o eira
Sun Feb 1 13:59:23 2009
tecwyn owen dolgellau - gynt o Sir Fôn
Cymydog yn galw yng nghartre fy mhriod (Eurwen Glynaeron Talsarn)yn Nyffryn Aeron ac wrth iddo ymadael yn hwyr y nos yn edrych yn syn arnaf wrth imi ei ddanfon at y drws ac wrth ffarwelio yn dweud "Wel, hwre rwan". Yr oedd yn amlwg nad oedd yn gyfarwydd â'r modd yma o ffarwelio!Cofiaf hefyd fod perthynas o bell i'm priod wrth fy nhyfarch yn fuan iawn wedi i mi briodi ac yn dymuno'n dda imi gyda'r geiriau "Priodas dda ichi a llawer ohonyn nhw".!!
Sat Jan 24 12:33:33 2009
Glenys Morgan, Penrhyncoch
Tatw yn ardal TregaronTato yn ardal Llanbed12 milltir rhyngddynt !!
Wed Dec 24 11:26:02 2008
Brynach Parri, Tregynter, Brycheiniog
Cwro - gwneud, paratoi: cwro bwyd i rywun, cwro'r gwely
Fri Oct 31 16:16:10 2008
Brynach Parri, Tregynter, Brycheiniog
Sglemo: cath yn dwyn bwydo o'r ford - Odi'ch cath chi'n sglemo?Tolet - Dowlod/croglofftAshglod - sglodion prenBwrw slap - bwrw eirlaw/odlawLlywa - Ymagor, ionanMotriwilen - madfallMynaren - MaharenSgrin - ArchTraeth - pwll bas o ddwr ar ben mynyddStilen - clorianOci - dwr yfed, a llys enw dyn y llaethSenser - gold yr ydSgimbren -lle mae'r ieir yn clwydo dros nosCroes - llwybr tarw
Fri Oct 31 16:10:25 2008
Wyn Davies o Langynnwr, ger Caerfyrddin
Gair gan mam sy'n byw yn Nyffryn AeronClambar - "mae'n ormod o glambar" - sef yn rhy fawr.
Sun Jul 20 22:18:50 2008
Joyce Magor nawr o Lundain
Saeson yn aros dros nos yn ty fy ewyrth Alcwyn.Dim ond fe oedd yn y ty a dim rhyw lawer o siap arno.Rhoi cwpaned o de i'r ymwelwyr a anghofio y llwye a dweud" To turn your tea with"a rhoi strainer blawd i gael gwared ar y dail te. BillBailey oedd yr enw ar y rhain ar dop y cwpan.Roedd na ddyn yn byw yn y pentre or enw ac yr oedd ganddo globen o fwstash!
Tue Jul 1 09:43:41 2008
Gwyneth o Landysul
panso - cymeryd gofal i wneud rhywbeth
cleren/clatshen jub - pwdi
cwato - chwarae cuddio
cinabens - runner beans
bigitian - poeni yn ddi-ddiwedd
clwtyn llestri/llawr - cloth
aeth yn ei hyd
moyn - yn eisiau rhywbeth
Wed Apr 30 18:21:53 2008
G. Price o Lanwrtyd
"Hyd y twret" = llawn i'r top
"Hyd y styden" = wedi meddwi'n gaib
Mon Apr 28 16:30:24 2008
Gwyneth o Landysul
yn feddw shils
trontol - dolen cwpan neu jwg
lletwad - llwy i godi cawl
bracso - rhoi traed yn dwr y mor
Fri Apr 18 16:40:10 2008
Lynwen Roberts, Llangadfan
Ceth fech les yn y glew!!!
Tue Jan 29 10:38:57 2008
Beryl Davies, Llanddewi Brefi
'Roedd Tad-cu Cwrt-Y-Cadno yn saer coed ar ystâd Dolaucothi, a Syr Hills Lloyd Johnes yn gofyn iddo, "What happened to your hand William?" Gallwch ddychmygu beth oedd cyfieithiad tad-cu am CACHGU BWM (yn ôl ei gydweithwyr) pan atebodd - "A Boom S--t pricked me Sir!"
Wed Jan 16 01:35:38 2008
Delyth. Yn wreiddiol o Rhydlewis
Sdim ots - Dim bwys
Wed Aug 29 15:41:28 2007
Glenys Evans o Fydroilyn
Swch - y rhan o'r wyneb o gwmpas y ceg a'r gên. Byddai Mam wastad yn dweud "Sych dy swch!"
Mon Jun 25 14:22:41 2007
Aled jones o Benrhiw-Pâl
sgyrnigo - to winge
waildamsgen - i droedio ar rywbeth
tishal - i disian
chimo - 'chi'n gwybod'
clime - 'cleme', 'gwneud ystumiau'
mynd yn fagle i gyd - mynd a'i wynt yn ei ddwrn
yn feddw caib, yn dablen (c)hwil,yn gorlacs,yn shils,yn gaib, yn feddw dwll glatsh
rhywbeth 'clammy'
Tue Jun 19 17:13:25 2007
Catrin Jones o Bwlch Llan
Roedden ni fel teulu hefyd yn dweud matryd neu matri am newid cyn mynd i'r gwely!
Mon Apr 30 21:20:15 2007
Ffion o Lambed
Gair i fi wastad yn defnyddio yw "stecs" -as in "lib stecs" (yn wlyb stecs - soaking wet)!
Wed Dec 20 21:50:30 2006
Mererid Williams o Dalybont
Dwi a fy nheulu yn defnyddio'r gair "moyn" gan feddwl "eisiau", yn ogystal a "fetch". h.y "fi rili moyn y ffrog 'na".
Wed Dec 20 18:11:28 2006
Lowri Jones o Synod
'mynd yn i hyd' - rhywyn yn cwympo
'hyd y twret' - bod rhywbeth yn llawn i'r top
Tue Oct 31 16:23:33 2006
Natalie Moore o Lambed
Fi wastad yn dweud 'twmo' sy'n fyr am 'ti'n gwbod'! A hefyd 'Sai Mo' am 'Dw i ddim yn gwybod'!
Fri May 5 19:18:35 2006
John Davies, nawr o Gaerdydd
Ar Fynydd Bach, y gair am wasp yw piffgu
Thu Mar 23 17:03:55 2006
Dafydd Lewis, Aberystwyth
Dod yn wreiddiol o Ddyffryn Banw yn Sir Drefaldwyn. Ein gair ni am bet oedd baet. Hefyd roedd gennym air am fodryb nad yw wedi ei gynnwys yn rhestr y canolbarth sef 'Bodo'
'Ffebrins' wedyn oedd ein gair am Eirin Mair.
Thu Mar 23 16:52:10 2006
Elin yn wreiddiol o Geredigion
Matryd - newid i fynd i'r gwely, hynny yw newid i ddillad nos o ddillad dydd.
Oes unrhyw un arall yn defnyddio'r gair yma? Dw i ddim wedi clywed neb heblaw am fy nheulu yn ei ddefnyddio erioed!
Wed Aug 17 10:50:04 2005
Iwan Llywelyn o Aberaeron
Pipo glan - Glaw man
Thu Jul 14 14:32:12 2005
Yvonne o Geredigion
pipo yn y glass = edrych yn y drych;
tropas = huddygl ('soot' e.e yn y simdde)
Sat May 14 14:33:39 2005
Garmon Ceiro o Dole, Bowstreet
Harin = casau
Thu Mar 24 13:38:03 2005
Nia Evans o Geredigion
Panso – trio’n galed;
Wheret/Hergwd/wad – ‘punch’;
Crasfa/hemad – ffeit;
Whilibowan – to dilly dally;
Bigitan – poeni/bod yn boendod;
Bigits – digs, fel yn ‘gad dy figits’;
Garetshin/carotsen - moronen;
Socsen –dau ystyr 1. hosan 2. punch fel yn ‘rhoi socsen i rywun’;
Pinco – ymbincio/coluro;
Clwtyn – cadach/lliain/‘cloth’ – clwtyn golchi llestri/clwtyn sychu llestri/clwtyn llawr;
Macyn - hances;
Iet – ‘gate’;
Danto – cael llond bol/rhoi fyny;
Wedi ‘laru – wedi cael llond bol;
Byti/bythti – bron;
Blino’n swps – blino’n lan/ wedi ymlâdd;
Mwrc/Mycnabs;
Dwyno – to dirty;
Bracso – trio rhywfodd rhywfodd fel yn ‘bracso drwyddi’;
Mentyg/mencyd – to borrow;
Browlan – siarad/hel clecs;
Browlan fel cawl pys/fel ffatri bupur - siarad yn ddi-stop;
³§¾±»åê³Ù – ychydig bach yn well na’i gilydd;
Sarnu – dau ystyr 1. sbwylio rhywbeth fel yn ‘sarnu’r nosweth’ 2. bwrw rhywbeth drosodd fel yn ‘sarnu llaeth ar y carped’;
Lapan – hel clecs;
Moelyd – troi drosodd fel yn ‘moelyd y car’;
Moelad - meddwad;
Fel Crafu - poendod;
Wap – yn y man - ‘fyddai ‘na wap’;
Conan - cwyno;
Conen – menyw sy’n cwyno’n gyson;
Jibs/ Shapse – gwneud stumiau, yn enwedig plentyn bach;
Drotshen – math o glawdd;
Gwenwyno - cwyno;
Gwenwn – hwyliau gwael fel yn ‘ma gwenwn ar rywun’;
Gwenwnllyd – y stâd o fod â gwenwn;
Gwenwngast – merch gwynfanllyd;
Bibis - cwynfanllyd;
Dwgyn/dwgyd – to steal;
Fel rhaca - di ddal;
Whitwhat – di ddal;
Ca’ nos - gwely;
Lletwad – ‘ladle’;
‘whys drabwd/’whys domen/’whys stecs – chwyslyd iawn.
Tue Feb 15 16:13:15 2005
Elin o ddyffryn Aeron
Garlibwns - 'cwmpo yn garlibwns' yw 'syrthio bendramwnwgl';
ffrwcs - e.e. mae lot o ffrwcs ar dy ddillad di (darnau o fflwff etc)
Thu Jan 27 16:56:07 2005
Gwyneth o Landysul
scrwb - pan fydd y cyhyrau yn dost ar ol gwneud rhywfaint o ymarfer corff
Tue Jan 25 13:07:57 2005
Wini Davies, Aberystwyth
de Meirionnydd: prifio am tyfu (mae'r cog bech wedi prifio'n ofnadwy).
Mon Jan 24 14:19:39 2005
E. Davies, Llanbedr Pont Steffan
³§·Éî³Ù²õ - losin
Switsen - un losin
Fri Jan 21 15:46:49 2005
N. Jones
Ffardel - parsel bach o rhywbeth neis;
Hen Sgrafell - menyw annifyr;
Roedd e’n dipyn o shirobyn - tipyn o dderyn;
Mynd i’r cyhudd - mynd i gysgod yr haul;
Cusus - losin;
Plentyn yn fubus - yn llefain o hyd;
Llywethyr - darn o gorden i atal dafad rhag mynd yn rhy gloi oddi wrth yr oen;
Trangwls - rhyw bethau sy’n hongian – yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r hyn sydd gan ddyn hefyd!;
Dim llefeleth - dim syniad;
Thu Jan 20 12:01:04 2005
Wini Davies o Aberystwyth
Byddai nain (o Lanwrin ger Machynlleth) yn dweud macyn poced am hances boced a moyn am 'fetch'. Geirau dwi ddim wedi eu clywed ers blynyddoedd ydy bagio (sefyll ar rywbeth) a sbrogian ('rummage'). Dwi ddim yn gwybod ble clywais i'r geirau yna gyntaf gan fy mod wedi byw yn Llanfairfechan, Llanarmon (ger Pwllheli) a Harlech dros y blynyddoedd, cyn symud yma
Wed Jan 19 14:59:55 2005
Tom Thirgood o Dal y Bont ar Wysg
"Clwbin" - rhywun sy'n dwp
Wed Jan 19 14:13:47 2005
Eluned o Dregaron
Swigw - Menyw gas,
Swclyn - Ebol,
Clotchen - "turf",
Fel heddi a fori - yn araf,
Fel soga - fel "drip",
Panni - Pan fydd dilledyn gwlân wedu mynd mas o shâp,
Clemio - Eisiau bwyd yn ofnadwy.
Wed Nov 10 11:46:51 2004
Hal o Ledrod
wado-bwrw,
clatsho-ymladd,
cered-cerdded,
syco-rhoi,
Fri Oct 22 14:50:22 2004
Rhian Jones o Dregaron
Cwato - cuddio.
hongian, shilts, - feddw ofnadw.
uffernol - ofnadwy
Sat Sep 4 15:31:03 2004
Meriel Ralphs o Benrhyn-coch
clipsen - bonclust
whelpen- to whollop
jibinc- menyw wedi gwisgo'n smart (female equivalent of a male dandy)
harten-cael sioc
Hoffem dynnu sylw at cinebens, sef 'kidney beans' neu 'broad beans' yn y Saesneg nid 'runner beans'
Wed Jun 23 16:40:11 2004
Ieuan Evans o Gwm Cou
Rydym ni fel teulu wastad wedi defnyddio'r gair 'shiffalaffs' am dato 'di ffrio (hynny yw. gweddillion cinio Dydd Sul i swper).
Fri Jun 18 15:31:48 2004