Gofynnwyd i mi yn ddiweddar i gymryd rhan yng nghystadlaethau'r dydd am y tro cyntaf eleni, er mawr syndod i mi, oherwydd yr oeddwn wedi credu erioed mai diwrnod i'r ffermwyr go iawn oedd hwn, i'r rhai nad oedd yn berchen ar bâr o welis glân, ac a fynychai'r Sioe Fawr yn Llanelwedd er mwyn cystadlu yn ogystal â mynychu'r Members a'r Pentre Ieuenctid!
Ar ddiwedd mis Mawrth eleni oedd y diwrnod mawr, ac fe'm synnwyd i weld y croestoriad amrywiol o bobl a oedd yno. Roedd yno rywbeth i bawb, o'r cystadlaethau amaethyddol traddodiadol fel y barnu stoc a'r ffensio i'r cystadlaethau mwy cyfoes fel cystadleuaeth hyrwyddo clwb a dawnsio.
Mentro i'r gystadleuaeth cyflwyno rhaglen radio i hyrwyddo'r clwb wnes i eleni, a hynny ond wedi un ymarfer y noson cynt, yng ngwir draddodiad y mudiad. Wedi'r cyfan, roedd y cwbl yn fwy ffres fel hynny! Roedd y beirniad Geraint Lloyd i weld yn hapus iawn â'r arlwy a gyflwynwyd iddo, ac er mawr syndod, fe'm gwobrwywyd yn ail mewn cystadleuaeth o safon uchel.
Rhoesom gynnig ar bron i bob cystadleuaeth, sy'n dipyn o gamp i glwb mor fach â ninnau yn Nhroed-yr-Aur. Fe gystadlodd nifer dros y clwb am y tro cyntaf yn y cystadlaethau barnu stoc a'r cwis natur, a llwyddodd yr aelodau newydd yma i ddod â llawer o bwyntiau i'r clwb.
Mentrodd ein dwylo mwy profiadol, yn ôl eu harfer, ar y gystadleuaeth ffensio. Er, ni fuont mor llwyddiannus ag arfer eleni. Ond, llwyddodd y clwb ennill y gystadleuaeth effeithiolrwydd a diogelwch am y bumed tro yn olynol eleni, a llongyfarchiadau mawr iddynt. Llongyfarchiadau hefyd i Rhys am ennill cystadleuaeth y Mini Digger.
Ar ddiwedd y dydd fe ddaeth pawb yn ôl i'r mart yn Nhregaron er mwyn aros yn eiddgar i weld pwy aeth â hi. Ac eleni, am y tro cyntaf, ein tro ni, Troed-yr-Aur oedd cipio'r wobr gyntaf, a ninnau ddaeth i'r brig!
Ar ôl diwrnod i'w gofio, roedd yn rhaid dychwelyd i Dregaron y noson honno i ddathlu'r fuddugoliaeth ac i lenwi'r cwpan. Roedd hi'n noson a hanner, a braf oedd gweld y clybiau eraill i gyd yn uno i longyfarch clwb mor fach ar eu camp sylweddol.
Lowri Thomas
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.