91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Kenavo Gig Mawr Bont 06
Adolygiad o gig mawr Bont a gynhaliwyd ym mhafiliwn newydd Pontrhydfendigaid ar Orffennaf 8, 2006 gan Owain Schiavone.
  • Lluniau o Gig Mawr Bont 2006

    Dydd Sadwrn 8fed Gorffennaf 2006, wedi hir ymaros daeth y diwrnod mawr y byddai'n gweld Dafydd Iwan nôl ym Mhafiliwn Bont am y tro cyntaf ers ei ailadeiladu.

    Ond cyn bod perfformiwr Cymraeg mwyaf poblogaidd y pedwar degawd diwethaf yn cyrraedd y llwyfan roedd nifer o artistiaid eraill am achub ar y cyfle i fod ymhlith y cyntaf i berfformio yn y Pafiliwn newydd ac i fod yn rhan o'r digwyddiad hanesyddol hwn.

    Un o ganolfannau adloniant mwyaf adnabyddus Cymru
    Datblygodd yr hen Bafiliwn ym mhentref bach tawel Pontrhydfendigaid i fod yn un o ganolfannau adloniant mwyaf adnabyddus Cymru rhwng 1967 a diwedd y 1990au gyda gigs enfawr fel Rhyw Ddydd, Un Dydd a'r Pinaclau Pop enwog yn denu miloedd yno'n gyson. Daeth hyn i ben wrth i ddiffyg arian arwain at ddirywiad y Pafiliwn cyn i dân ei ddifrodi'n ddifrifol yn y flwyddyn 2000. Ond wedi gwaith caled gwirfoddolwyr mae'r Pafiliwn yn ôl ar ei draed a Gig Mawr Bont 06 yn dystiolaeth o'r bwriad i'w ailsefydlu.

    Roedd saith o fandiau'n perfformio'n ystod y dydd, rhai'n brofiadol a rhai'n newydd. Dau ifanc, Kenavo ac Eusebio oedd yn agor yr arlwy yn ystod y prynhawn, ac er bod y gynulleidfa'n fach bryd hynny roedd ill dau i'w gweld yn falch iawn o gael y cyfle i berfformio mewn canolfan mor fawr a phroffesiynol a chafwyd setiau da iawn ganddynt.

    Nathan Williams yn perfformioWedi egwyl fer ar gyfer profion sain camodd Nathan Williams i'r llwyfan i berfformio set acwstig a greodd gryn argraff. Roedd Nathan yn arfer bod yn rhan o fand Dan Amor ond mae wrthi'n creu enw i'w hun gyda'i felodïau swynol, ac ar dystiolaeth y perfformiad hwn mae dyfodol disglair o'i flaen.

    Gyda'r gynulleidfa'n cynyddu erbyn hyn roedd hi'n bryd i'r enwau mawr ddod i ddiddanu a'r cyntaf o'r rhain oedd Siôn Williams, gynt o'r band Dom ond sydd erbyn hyn â band newydd sbon. Braf oedd gweld Siôn yn ôl ar y llwyfan a gyda cherddorion profiadol a dawnus yn cyfeilio iddo, rhoddodd sioe dda i'r gynulleidfa gyda'i bersonoliaeth unigryw a hwyliog.

    Yna ymddangosodd un o artistiaid mwyaf poblogaidd y sin gerddoriaeth gyfoes i ddiddanu'r gynulleidfa, Elin Fflur. Mae Elin yn adnabyddus am ei llais pwerus, a llwyddodd y llais hwnnw i lenwi'r ganolfan enfawr. Llwyddodd hefyd i gynhesu'r gynulleidfa go iawn cyn i'r atgofion o'r hen Bafiliwn ddechrau go iawn.

    Yr enwau mawr yn ôl ar y llwyfan
    Jess oedd un o fandiau gorau Cymru ar ddechrau'r 1990au ac mae llawer yn credu fod eu cerddoriaeth ymhell o flaen ei amser. Hwn oedd eu perfformiad byw cyntaf ers dros ddeng mlynedd, ac roedd llawer o'u dilynwyr selog wedi teithio'n arbennig i Bont. Roedd y perfformiad hwn yn brawf nad yw eu caneuon wedi dyddio o gwbl ac y gallant yn hawdd iawn fod yn rhan o'r sîn presennol.

    Roedd Jess yn adnabyddus am eu harmonïau lleisiol clyfar ac offerynwyr gwych a chafodd hyn ei arddangos i'r gynulleidfa a oedd yn eu gwerthfawrogi ac roedd yr encore yn anochel. Arbennig iawn.

    Dim siom ym mherfformiad Dafydd Iwan
    Dafydd Iwan yn perfformioErbyn hyn, gyda'r gynulleidfa'n llenwi blaen y neuadd, roedd hi'n bryd i'r dyn ei hun ddod i'r llwyfan. Dyma pwy oedd mwyafrif y gynulleidfa wedi talu i weld, ac yn sicr cawsant werth eu harian wrth i Dafydd Iwan droi'r blynyddoedd yn ôl gyda pherfformiad gwefreiddiol. Roedd Dafydd yn gyfarwydd iawn â'r hen Bafiliwn gan berfformio yno droeon ac ymddangosai'n emosiynol wrth chwarae nifer o'i hen glasuron. Clywyd y ffefrynnau i gyd - Yma o Hyd, Pam Fod Eira'n Wyn, Esgair Llyn ac i'r Gad i gloi gyda'r gynulleidfa'n mynd yn wyllt.

    Ac felly dyna derfyn noson gofiadwy yn y Pafiliwn newydd i atgoffa'r gynulleidfa o'r nosweithiau mawr a fu yn y gorffennol. Gyda phawb yn gadael â gwên ar eu hwynebau doedd dim i'w wneud ond edrych ymlaen at Gig Mawr Bont 07.

    Gall pobl Pontrhydfendigaid, Ceredigion a Chymru edrych ymlaen at ddigwyddiad mwy fyth gyda'r 'Gig Mawr Bont' nesaf ar Fehefin 30ain 2007.

    Gan: Owain Schiavone

  • Lluniau o Gig Mawr Bont 2006

    Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý