"Cychwyn am hanner awr wedi un ger hen waith mwyn Lisburn yn Pontrhydygroes. Wynne Jones, Swyddog Datblygu, Pentir Pumlumon, fu yn gyfrifol am gyflwyno trefniadau'r prynhawn i'r dyrfa luosog. Yno er cof am fwynwyr yr oes a fu roedd hen rod ddŵr wedi cael ei hadnewyddi yn broffesiynol gan grefftwr Ileol.
Yn gyntaf cafwyd ychydig o gefndir y gwaith mwyn a mwynwyr yr ardal gan John Wildig, Cadeirydd, Pentir Pumlumon. Yna galwyd ar Davey Brython Davies, Pisgah i ddweud gair cyn iddo gael y fraint i ganiatau i'r dŵr lifo ac i'r olwyn droi yn hamddenol, fel cofgolofn urddasol i beirianwyr a mwynwyr y gorffennol.
Mae Brython yn ddisgynnydd i Richard Davey, a ddaeth o Gernyw fel peiriannydd, i waith mwyn Lisburn, ac a gladdwyd ym mynwent Eglwys Newydd yn y flwyddyn 1888.
Gwireddwyd y cynllun gyda chymorth prosiect Ysbryd y Mwynwyr. Rhoddwyd y rhod gan Mrs Hodgekinson, Rest, Llanafan. Peter Watkins, oedd y peirianydd a fu yn gyfrifol am ei hadnewyddi i'r cyflwr presennol.
Gadael Pontrhydygroes ac yna ymlaen heibio i olion hen Blas yr Hafod hyd at Ardd Flodau Mrs Johnes, neu Ardd Eden fel ei gelwir yn Ileol hyd heddiw. Gwenira Raw Rees, aelod o Dreftadaeth yr Hafod, oedd yno yn ein disgwyl ac yn barod i adrodd hanes yr ardd. Pleser oedd cael gweld y safle mewn gwedd newydd, ar ôl bod dan orchudd o ddrain, mieri a choed conwydd, ers iddi gael ei dinistrio mewn ffordd anfaddeugar, dros hanner canrif yn ôl, gan oruchwylwyr digalon, difeddwl a dideimlad.
O hyn ymlaen mae Partneriaeth yr Hafod am greu Ile o fwyniant a llonyddwch, ac ynddi blanhigion a oedd ar gael yn niwedd y 18fed ganrif, pan grewyd yr ardd gyntaf gan deulu'r Johnes. Bydd angen i'r ardd fod heb fawr o waith cynnal a chadw. Mae croeso i unrhyw un ddatgan barn, drwy gwblhau holiadur, ar sut y gall yr ardd gael ei hail-greu a'i rheoli i'r dyfodol.
Y cam nesaf oedd ymweld ag Eglwys Newydd Hafod. Yno roedd swyddogion yr eglwys yn disgwyl ac yn barod i gyflwyno ac i egluro'r gwaith o gynhyrchu cronfa-ddata a fydd yn gymorth i ymchwilwyr ac i haneswyr teuluol. Erbyn heddiw, mae cofnodion claddedigaethau'r Eglwys ar gael i bawb drwy gyfrwng sgrin gyffwrdd, sydd wedi ei ddiogelu o fewn yr eglwys mewn ciosg cadarn. Gwyddom fod o leiaf 2300 wedi eu claddu yn y fynwent. Mae'r garreg hynaf yn dyddio'n ôl i 1718, ac fe saif dros 500 o gerrig beddau o fewn y fynwent. Amcangyfrif fod dros 150 ohonynt wedi bod yn fwynwyr yn y gweithfeydd Ileol. Un o deulu'r Herbertiaid fu yn gyfrifol am godi'r eglwys gyntaf ar y safle presennol yn y flwyddyn 1620.
Gwladys Morgan, Warden yr Eglwys fu yn estyn croeso i bawb ac yn arbennig i gyn Ficer Eglwys Newydd, sef y Parchedig Alan Chiplin. Ef oedd a gofal yr Eglwys pan ddechreuwyd ar y gwaith o gofnodi'r claddedigaethau yn ddigidol. Cawsom ganddo araith bwrpasol yn mynegi ei bleser fod y gwaith wedi bod yn Ilwyddiant ac wedi cael eu cwblhau yn ddidrafferth.
Ar y ffordd i Gapel Siloam rhaid oedd galw i mewn i Ysgoldy Goch, gan fod gwragedd gweithgar yr ardal wedi bod yn ddiwyd yn paratoi te, brechdanau a chacennau ar gyfer pawb. Gwledd o groeso, mae ein diolch yn fawr iddynt.
Erbyn cyrraedd Capel Siloam braf oedd gweld diddordeb yn parhau. Amryw heb weld arddangosfa Aduniad yr Ysgol, eraill am gael mwy o wybodaeth am Gofnodion Cwmystwyth. Rhai wedi dod yn unig swydd er mwyn cael taith i ardal y Melinau Gwynt ac i gael cipolwg ar olygfeydd anhygoel Ucheldir Gogledd Ceredigion.
Mae grŵp archif Gymunedol y pentref wedi ei sefydlu yn Festri Siloam ers 2006. Arddangoswyd ar gyfer yr Aduniad gasgliad helaeth o luniau yn olrhain hanes yr ysgol gan gynnwys rhai o hen gymeriadau'r pentref.
Unwaith eto cawsom brynhawn arbennig yn Ilawn atyniad a diddordeb. Prawf pendant fod ein treftadaeth yn effro ac yn parhai i ffynnu yn ein hucheldir. Bydded iddo barhau!"